string(27) "/cym/amdanom-ni/our-vision/" Skip to main content

Ein gweledigaeth.

Rydyn ni’n credu ym mhotensial Cymru i lunio ei diwydiant cyfryngau. Yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Ein gweledigaeth

Gan wneud Cymru yn ganolfan werdd, deg, fyd - eang ac economaidd gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu ac arloesi'r cyfryngau – lle mae Ymchwil a Datblygu (YaD) yn rhan annatod o'i sector cyfryngau ffyniannus.

Mae’r economi greadigol wedi dod yn gonglfaen i economi Cymru. Mae dros 15% o fusnesau yng Nghaerdydd bellach yn y diwydiannau creadigol ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi tyfu i fod y trydydd cynhyrchydd ffilm a theledu mwyaf yn y DU, mae hyn yn un o bob wyth o holl swyddi newydd y DU ym maes Ffilm a Theledu. 

Yng Nghymru, ystyr cynefin yw ‘ymdeimlad o le’ sy’n crynhoi hanes, hunaniaeth, tirwedd a bywyd stryd. I ni, mae Media Cymru yn endid sy’n diffinio cynefin newydd lle mae gweithgaredd economaidd yn creu swyddi ac ymdeimlad o hunaniaeth, gan gynnig addewid o gynaliadwyedd mwy amgylcheddol, cyrhaeddiad byd-eang, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a thwf economaidd cynaliadwy.

Byddwn yn cyflawni’r weledigaeth hon drwy:

Harneisio pŵer cydweithio 

Rydyn ni’n adeiladu ar gryfderau ein gilydd ac yn siapio'r diwydiant fel grŵp. Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru—rhaid inni gydweithio.  

Galluogi pobl i fod hyd yn oed yn fwy gwych 

Rydyn ni’n annog pobl dalentog i ddal ati i greu. Rydyn ni’n rhoi’n cefnogaeth iddynt ddatblygu eu syniadau a’u busnesau, gan eu galluogi i dyfu. 

Creu atebion newydd i heriau presennol 

Rydyn ni’n nodi meysydd posibl, gan feddwl yn wahanol er mwyn mynd i'r afael â heriau. Heb leisiau amrywiol, cyfle cyfartal, mentrau cynaliadwy, a chynhyrchu dwyieithog, ni all sector y cyfryngau ffynnu.

Meddwl yn hirdymor i greu mwy o effaith 

Rydyn ni’n ysgogi ac yn annog twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol. Rydyn ni’n gwireddu gweledigaethau creadigol heddiw i greu cyfleoedd ar gyfer yfory. 

Bod â gweledigaeth leol, ond uchelgais fyd-eang 

Rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd yn lleol i ddod yn ganolbwynt ar gyfer arloesi yn y cyfryngau yn fyd-eang. 

Archwilio

Ein gweledigaeth

Prosiectau

Archwiliwch y prosiectau sydd wedi’u harwain gan ein Consortiwm. Mae ein gwaith yn cwmpasu pedair thema: gwyrdd, teg, byd-eang a thwf ac mae'n mynd i'r afael â meysydd megis technoleg, mannau arloesedd a sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth
Ein gweledigaeth

Ein tîm

Dewch i gwrdd â thîm Media Cymru. Mae’n tîm yn uno pobl ac yn gweithio tuag at nod cyffredin i dyfu'r sector. Rydym yn adeiladu ar gryfderau ein gilydd i siapio'r diwydiant.  

Rhagor o wybodaeth
Ein gweledigaeth

Consortiwm

Mae 23 sefydliad partner sydd wedi'u lleoli ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhan o Gonsortiwm Media Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn darparu prosiectau ar draws y sector cyfryngau.

Rhagor o wybodaeth

Dewch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd cyllido, y digwyddiadau a’r ymchwil gan Media Cymru.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.

Cofrestrwch