int(664)

Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Neuadd y Ddinas, Parc Cathays Caerdydd, CF10 3ND

int(664)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 24.02.2023

Media Cymru x PDC: Cynhadledd Gwella’r Gweithle

Dyddiad: 28.03.2023

Amser: 1:00pm - 7:00pm , 9:00am - 5:00pm

Lleoliad: Prifysgol De Cymru, Atriwm

Gwybodaeth am y digwyddiad hwn

Cynhadledd ddeuddydd ar Gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru, yn archwilio dulliau arloesol o wella ffyrdd y sector sgrin o weithio yng Nghymru.

Mae gennym raglen gynhwysfawr sy’n dod â’r diwydiant, academyddion a darparwyr hyfforddiant ynghyd i drafod arferion gorau cyfredol a’r posibiliadau ar gyfer arloesi yn y dyfodol.

Diwrnod 1: 28 Mawrth 2023, 1:00 - 7:00pm

Byddwn yn lansio canfyddiadau allweddol Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru cyntaf Prifysgol De Cymru, sydd wedi rhoi cyfle i rannu nid yn unig yr hyn sy’n gweithio, ond hefyd yr hyn y gallwn ac y dylem fod yn ei wneud i wella ein diwydiant.

Mae ein harolwg wedi datgelu cyn lleied y mae gweithwyr llawrydd a gweithwyr yn y sector yn gwybod am y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael, sut i gael mynediad atynt a’r cyllid sydd ar gael iddynt.

Cinio a rhwydweithio  

Sylwadau Agoriadol  Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys (S4C)  

Canlyniadau Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru Dr Helen Davies, Cymrawd Ymchwil (PDC) 

Panel – Adeiladu Gweithle Iach Gareth Ellis-Unwin (ScreenSkills), Michelle White (6ft From The Spotlight), Sarah McCaffrey (Solas Mind) 

Prif SiaradwrDod yn Brif Swyddog Gweithredol eich Gyrfa Lawrydd  Alison Grade, Awdur The Freelance Bible (Mission Accomplished) 

Ffenestr Siop Sgiliau a Chyllido  
Rhwydweithio a lluniaeth ysgafn 

Diwrnod 2: 29 Mawrth 2023, 9:00am - 5:00pm

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer cyfres eang o baneli yn arddangos arferion gorau arloesol a dulliau blaengar o wella diwylliannau gwaith.

Bydd y paneli’n ymdrin â: gweithio hyblyg, mynd i’r afael ag aflonyddu a bwlio, cynaliadwyedd, sefydliadau’n blaenoriaethu llesiant dros dwf economaidd a gwneud y sector yn fwy cynhwysol.

Croeso gan Dawn Bowden MS  Cyflwynwyd gan Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr (Cymru Greadigol) 

Prif Siaradwr – Gweithleoedd Llewyrchus: Sut i roi amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnewch Mel Rodrigues (Gritty Talent) 

Panel – Normaleiddio Cynhwysiant Dan McGowan (Hijinx), Justin Melluish (Hidden/Craith), Hannah Thomas (Severn Screen) 

Panel – Dadwenwyno’r Diwydiant: Sut i osod y terfyn cyflymder Alexandra Roach (Actor a Sefydlydd We Are Resting), Delyth Thomas (Cyfarwyddwr a Chyd-sefydlydd Call It!), Sophie Freeman (TV and Film Charity & Whole Picture Toolkit), Laolu Alatise (Media Cymru) 

Gweithdy ReFocus Hijinx 

Panel – Gweithio’n Hyblyg Michelle Reynolds (Share My Telly Job), Nora Ostler Spiteri (Triongl), Dr Rowan Aust (Prifysgol Huddersfield/Share My Telly Job) 

Panel – Mentrau o’r Brig i Lawr ar Gychwyn Newid  Ceri Davies (Bomper), Charlotte Riley (The WonderWorks), Sam Chow (The WonderWorks) 

Panel – Panel ar Gynhyrchu Cynaliadwy Tilly Ashton (Severn Screen), Steve Smith (Screen New Deal/BAFTA albert), Nida Harwood (Green Wing/Little Bird), Ellie Ashton (Production Sustainability Advisor)