Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 21.08.2024
Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC
Mae ail rownd Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC yn galluogi cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ymchwilio a datblygu cynnwys am yr hinsawdd sy’n cael ei yrru gan arloesedd.
Ceisiadau ar agor: Dydd Mercher 2 Hydref 2024
Ceisiadau yn cau: Dydd Llun 8 Tachwedd 2024
Trosolwg
Nod ail rownd Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC yw helpu cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru gyda phrosiectau ymchwil a datblygu sy’n canolbwyntio ar ddulliau arloesol o ymdrin â chynnwys am yr hinsawdd.
Mae’r gronfa yn cynnig amser ac adnoddau pwrpasol i gwmnïau annibynnol er mwyn archwilio ffyrdd arloesol o gael cynulleidfaoedd i ymgysylltu â’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru a’r tu hwnt.
Bydd y cwmnïau a ariennir yn datblygu syniad uchelgeisiol ar gyfer cynnwys am yr hinsawdd sydd wedi’i anelu at gynulleidfa brif ffrwd, sydd ag arloesedd wrth ei wraidd, ac sydd ag apêl eang ar gyfer BBC One Wales neu ei rwydwaith.
Gall y syniadau ymwneud â genres fel drama, adloniant a chomedi, yn ogystal â fformatau ffeithiol traddodiadol.
Proses
Bydd hyd at bum cwmni yng Nghymru yn cael eu dewis i ddatblygu syniadau am gynnwys sy’n ymwneud â’r hinsawdd, a bydd pob un yn cael hyd at £20,000.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnal gwibfa ymchwil a datblygu am dri mis (rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025) i ymchwilio i syniad newydd a’i ddatblygu, cyn cyflwyno dec syniadau a dilyniant sampl. Byddant hefyd yn mynd i Ddiwrnod Gwybodaeth (29 Ionawr 2025) i ymgysylltu â strategaeth Climate Creatives y BBC, ac i drafod safbwyntiau gwyddonol ar newid hinsawdd a gwybodaeth am sut mae cynulleidfaoedd amrywiol yn ymgysylltu â chynnwys sy’n ymwneud â’r hinsawdd.
Gall y prosiectau a ariennir arwain at y BBC yn comisiynu syniad am raglen.
Dyddiadau Allweddol
- 2 Hydref 2024: Cyfnod ymgeisio yn agor
- 8 Tachwedd 2024: Cyfnod ymgeisio’n cau am hanner dydd (ni dderbynnir ceisiadau ar ôl yr amser hwn)
- 6 Rhagfyr 2024: Hysbysu ymgeiswyr
- 29 Ionawr 2025: Diwrnod Gwybodaeth (BBC, Sgwâr Canolog, Caerdydd)
- 3 Chwefror 2025: Prosiectau ymchwil a datblygu yn dechrau
- 30 Ebrill 2025: Prosiectau ymchwil a datblygu yn gorffen
- Mai – Mehefin 2025: posibilrwydd y bydd y BBC yn comisiynu syniad
Cymhwysedd
I fod yn gymwys i wneud cais:
- Mae gennych chi syniad ar gyfer prosiect ymchwil a datblygu arloesol sy’n canolbwyntio ar gynnwys yr hinsawdd sy’n cyd-fynd â Strategaeth Climate Creatives y BBC.
- Rhaid i’ch prosiect fod wedi’i anelu at gynulleidfaoedd prif ffrwd, gydag apêl eang i BBC One Wales neu’r rhwydwaith.
- Rhaid i’ch cwmni fod yng Nghymru a rhaid iddo fod yn ‘Gynhyrchiad Rhanbarthol’ o Gymru yn unol â’r meini prawf ar gyfer cynyrchiadau rhanbarthol yng Nghanllawiau Ofcom ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
- Rhaid i’ch cwmni gael o leiaf un credyd teledu o fewn y chwe blynedd diwethaf.
- Gallwch chi neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025.
- Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul unigolyn/cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect.
Pileri Media Cymru
Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:
- Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol negyddol y sector
- Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol
- Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol
Diffiniad Media Cymru o Ymchwil a Datblygu
Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.
Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu rithgynhyrchu. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned.. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.
Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydyn ni’n chwilio amdanynt:
- Gwreiddiol: bydd yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg.
- Creadigol: bydd yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd.
- Ansicr: bydd yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol.
- Systematig: bydd yn seiliedig ar ddull gweithredu wedi’i gynllunio a’i gyllidebu.
- Trosglwyddadwy: bydd yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach.
Hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.
Gwneud cais
Darllenwch a lawrlwythwch y ddogfen ganllaw cyn gwneud cais – mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth, manylion ymgeisio a meini prawf cymhwysedd.
Os ydych chi’n dymuno paratoi eich atebion all-lein cyn gwneud cais, mae’r cwestiynau ymgeisio allweddol i’w gweld yn y ddogfen ganllaw.
Rhaid llenwi a chyflwyno pob cais ar-lein drwy ein gwefan. Ni allwn dderbyn ceisiadau mewn fformatau eraill.