Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 25.09.2024
Cronfa Datblygu
Hyd at £50,000 i fusnesau ddatblygu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy'n dangos potensial clir i greu cynnyrch neu wasanaeth penodol.
Ar agor: Dydd Llun 3 Chwefror
Ar gau: Dydd Gwener 28 Chwefror
Trosolwg
Mae Cronfa Ddatblygu Media Cymru yn cynnig hyd at £50,000 i unigolion a busnesau yng Nghymru ymchwilio a datblygu prosiectau arloesol sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch, profiad neu wasanaeth diriaethol yn sector y cyfryngau.
Rydyn ni eisiau ariannu syniadau sydd â manteision economaidd hirdymor i sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd neu Gymru.
Os byddan nhw’n llwyddiannus, bydd yr ymgeiswyr yn elwa o bedair sesiwn orfodol (cyfanswm o wyth awr), yn ogystal â sesiwn ddewisol (tair awr) gyda’r ymgynghoriaeth dylunio blaenllaw a chyfleuster ymchwil gymhwysol PDR.
Hefyd bydd pedair sesiwn cymorth orfodol (cyfanswm o wyth awr) gan Sefydliad Alacrity a fydd yn rhannu arbenigedd datblygu busnes a masnacheiddio.
Y Cwmpas
Gall eich prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o’r canlynol:
- Fformatau cyfryngau newydd a datblygu cynnwys arloesol
- Cynhyrchu cyfryngau datblygedig, gan gynnwys cydgyfeirio cynhyrchu rhithwir a chynhyrchu traddodiadol
- Modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol
- Sero net a datgarboneiddio’r sector sgrin (mae croeso arbennig i brosiectau sy’n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid Bargen Newydd y Sgrin i Gymru
- Adrodd straeon drwy dechnolegau ymgolli realiti estynedig (XR), gan gynnwys realiti rhithwir (VR), realiti cynyddol (AR) a realiti cymysg (MR)
- Creu cynnwys gemau fideo a’u cynhyrchu, gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill
- Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau eraill fel offer ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau
- Creu lleoedd, gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol a’r cyfryngau
- Cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog
- Newyddion a gwybodaeth gyhoeddus
- Cynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain, gan gynnwys perfformio a dosbarthu.
Ni fwriedir i’r rhestr hon gynnwys popeth ac mae’r posibiliadau’n eang.
Nid yw’r Gronfa Datblygu yn addas ar gyfer y canlynol:
- Datblygu cynnwys generig (er enghraifft, datblygu ffilmiau byr, ffilmiau mawr neu gynlluniau peilot teledu sy’n cydymffurfio â genres safonol ac arferion adrodd straeon)
- Datblygu busnes cyffredinol, neu
- Gomisiynau celf untro.
Hygyrchedd
Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), anfonwch e-bost at media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.
Dyddiadau Allweddol
- 3 Chwefror 2025 – Ceisiadau ar agor
- 28 Chwefror 2025 – Ceisiadau’n cau am hanner dydd: sylwch ni dderbynnir ceisiadau ar ôl yr amser hwn
- 14 Ebrill 2025 – Ymgeiswyr yn cael gwybod (dylai ymgeiswyr nodi y gall gymryd hyd at 5 wythnos i gontractau gael eu cyhoeddi)
- 9 Mehefin 2025 – Prosiectau’n dechrau.
Meini prawf cymhwysedd
- Mae eich cwmni neu’ch gwaith wedi’i leoli yng Nghymru
- Mae gennych syniad ymchwil a datblygu wedi’i fynegi’n glir
- Rydych chi’n gweithio yn niwydiant cyfryngau Cymru, neu mae eich syniad o fudd uniongyrchol i ddiwydiant cyfryngau Cymru
- Gallwch neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu rhwng mis Mehefin 2025 a Mai 2026
- Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect
Diffiniad Media Cymru o Ymchwil a Datblygu
Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.
Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu rithgynhyrchu. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.
Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydyn ni’n chwilio amdanynt:
- Gwreiddiol: byddant yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg
- Creadigol: byddant yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd
- Ansicr: byddant yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol
- Systematig: byddant yn seiliedig ar ddull gweithredu sydd wedi’i gynllunio a’i gyllidebu
- Trosglwyddadwy: byddant yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach.
Pileri Media Cymru
Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau ar ein pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:
- Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol y sector
- Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol
- Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol
- Twf – sbarduno twf a chynhyrchiant drwy Ymchwil a Datblygu.
Lansio’r Gronfa Datblygu
Ar ddydd Llun 10 Chwefror, ymunwch â Media Cymru a wrth iddyn nhw lansio eu Cronfa Datblygu 2025. Rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle.
Unrhyw gwestiynau?
Ymunwch â’n gweminar friffio (Dydd Iau 13 Chwefror, 11am) i gael gwybod rhagor am y Gronfa Datblygu, siarad â’n cynhyrchwyr yn Media Cymru a gofyn cwestiynau.
Gwneud cais
Darllenwch a lawrlwythwch y ddogfen ganllaw cyn gwneud cais – mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth, manylion ymgeisio a meini prawf cymhwysedd.
Os ydych chi’n dymuno paratoi eich atebion all-lein cyn gwneud cais, mae’r cwestiynau ymgeisio allweddol i’w gweld yn y ddogfen ganllaw.
Nodiadau Canllaw Cronfa Datblygu 2025 (Word)
Nodiadau Callow Cronfa Datblygu 2025 (PDF)
Rhaid llenwi a chyflwyno pob cais ar-lein drwy ein gwefan. Ni allwn dderbyn ceisiadau mewn fformatau eraill.
Bydd ceisiadau ar agor dydd Llun 3 Chwefror.