Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 23.07.2024
Cronfa Sbarduno
Hyd at £10,000 i weithwyr llawrydd a BBaChau yng Nghymru i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau.
Ceisiadau ar agor: Dydd Llun 7 Hydref 2024
Ceisiadau yn gau: Dydd Iau 31 Hydref 2024
Trosolwg
Mae Cronfa Sbarduno Media Cymru yn galluogi unigolion a chwmnïau yng Nghymru i wneud cais am hyd at £10,000 i ymchwilio a datblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau sy’n cael eu gyrru gan arloesedd yn y sector cyfryngau.
Rydyn ni’n chwilio am syniadau sydd â photensial tymor hir i chi neu eich busnes. Erbyn diwedd y prosiect, bydd gennych sylfeini ar gyfer cynllun busnes, rhagolwg ariannol a dec cyflwyno a fydd yn eich galluogi i gyflwyno cais am gyllid i fuddsoddwyr. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am hyd at £50,000 o Gyllid Datblygu Media Cymru i fynd â’ch syniad i’r lefel nesaf.
Y Cwmpas
Gall eich prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o’r canlynol:
- Fformatau cyfryngau newydd a datblygu cynnwys arloesol
- Cynhyrchu cyfryngau uwch, gan gynnwys cydgyfeirio cynhyrchu rhithwir a chynhyrchu traddodiadol
- Modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol
- Sero net a datgarboneiddio’r sector sgrin (mae croeso arbennig i brosiectau sy’n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid Screen New Deal ar gyfer Cymru
- Adrodd straeon drwy dechnolegau ymgolli Realiti Estynedig (XR), gan gynnwys Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR) a Realiti Cymysg (MR)
- Creu cynnwys gemau fideo a’u cynhyrchu, gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill
- Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau eraill fel offer ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau
- Creu lleoedd, gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol a’r cyfryngau
- Cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog
- Newyddion a gwybodaeth gyhoeddus
- Cynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain, gan gynnwys perfformio a dosbarthu.
Nid yw’r Gronfa Sbarduno yn addas ar gyfer y canlynol:
- Datblygu cynnwys generig (er enghraifft, datblygu ffilmiau byr, ffilmiau mawr neu gynlluniau peilot teledu sy’n cydymffurfio â genres safonol ac arferion adrodd straeon)
- Datblygu busnes cyffredinol, neu
- Comisiynau celf untro.
Dyddiadau Allweddol
- 7 Hydref 2024 – Ceisiadau ar agor
- 31 Hydref 2024 – Ceisiadau’n cau am hanner dydd: sylwch ni dderbynnir ceisiadau ar ôl yr amser hwn
- 6 Rhagfyr 2024 – Ymgeiswyr yn cael gwybod
- 21-23 Ionawr 2025 – Gweithdy Lab Syniadau (Excelsior Road, Caerdydd CF14 3AT)
- 3 Chwefror 2025 – Prosiectau’n dechrau.
Hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.
Cymhwysedd
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o sefydliadau amrywiol sy’n wahanol o ran eu maint, gan gynnwys microfusnesau, unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd.
Meini prawf cymhwysedd:
- Mae eich cwmni neu’ch practis wedi’i leoli yng Nghymru
- Mae gennych syniad ymchwil a datblygu wedi’i fynegi’n glir
- Rydych chi’n gweithio yn niwydiant cyfryngau Cymru, neu mae eich syniad o fudd uniongyrchol i ddiwydiant cyfryngau Cymru
- Gallwch neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2025
- Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect.
Beth yw Ymchwil a Datblygu?
Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.
Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu rithgynhyrchu. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned.. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.
Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydyn ni’n chwilio amdanynt:
- Gwreiddiol: bydd yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg
- Creadigol: bydd yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd
- Ansicr: bydd yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol
- Systematig: bydd yn seiliedig ar ddull gweithredu wedi’i gynllunio a’i gyllidebu
- Trosglwyddadwy: bydd yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach.
Pileri Media Cymru
Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:
- Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol y sector
- Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol
- Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol
- Twf – sbarduno twf a chynhyrchiant drwy Ymchwil a Datblygu.
Lab Syniadau
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus o’r Gronfa Sbarduno fynychu gweithdy Lab Syniadau tridiau a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng dydd Mawrth 21 a dydd Iau 23 Ionawr 2025. Arweinir y gweithdy gan PDR, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ymchwil a Dylunio a The Alacrity Foundation UK.
Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
- Deall Ymchwil a Datblygu a sut i’w gymhwyso i syniad
- Gwerth profi ailadroddol, cydweithio a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Datblygu busnes ac entrepreneuriaeth
- Annog rhywun i feddwl am sut i lansio cynnyrch a chynhyrchu cyllid cyhoeddus/preifat.
Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfranogwyr yn deall sut i droi syniadau’n gynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion defnyddwyr.
Darperir bwrsariaeth o £500 i bawb sy’n bresennol yng ngweithdy’r Lab Syniadau, yn ogystal â’r cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer eich prosiect sbarduno.
Unrhyw gwestiynau?
Ymunwch â’n gweminar friffio (Dydd Mercher 9 Hydref, 11am) i gael gwybod rhagor am y Gronfa Sbarduno, siarad â’n cynhyrchwyr yn Media Cymru a gofyn cwestiynau.