Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 21.08.2024
Cronfa Uwchraddio – Rownd Dau
Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o bwys ac uchelgeisiol sylweddol sydd â’r potensial i drawsnewid sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol.
Ceisiadau ar agor: Dydd Llun 7 Hydref 2024
Ceisiadau yn gau: Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024
Trosolwg
Bydd Rownd 2 y Gronfa Uwchraddio yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd gystal â chystadleuwyr byd-eang o ran maint eu sgiliau a’u huchelgais i arloesi. Rydym yn chwilio am gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau sydd wedi cael eu sbarduno gan arloesedd, gyda’r potensial ar gyfer twf yn sector y cyfryngau.
Rhaid i’ch cynnig ddangos y potensial i gael effaith gadarnhaol ar economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Y Cwmpas
Nod y gystadleuaeth hon yw darparu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol i fynd i’r afael â heriau sydd i’w gweld yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru, a hynny drwy gyllid ymchwil a datblygu.
Mae’n ofynnol bod eich prosiect:
- yn anelu at ddarparu atebion sydd â thystiolaeth o ddichonoldeb ac sy’n mynd i’r afael â heriau neu gyfleoedd a nodwyd
- yn dangos potensial realistig i sicrhau twf economaidd
- yn syniad sy’n barod i gael ei fasnacheiddio’n gyflym ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau
- yn rhannu gwybodaeth ac allbynnau gyda Media Cymru
- yn cyd-fynd ag o leiaf un o bileri strategol Media Cymru
Gall eich prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o’r canlynol:
- fformatau cyfryngau newydd a datblygu cynnwys arloesol
- cynhyrchu cyfryngau datblygedig, gan gynnwys cydgyfeirio cynhyrchu rhithwir a chynhyrchu traddodiadol
- modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol
- sero net a datgarboneiddio’r sector sgrin (mae croeso arbennig i brosiectau sy’n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid Screen New Deal ar gyfer Cymru)
- adrodd straeon drwy dechnolegau ymgolli Realiti Estynedig (XR), gan gynnwys Realiti Rhithwir (VR), Realiti Cynyddol (AR) a Realiti Cymysg (MR)
- creu cynnwys gemau fideo a’u cynhyrchu, gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill
- Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau eraill fel offer ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau
- creu lleoedd, gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol a’r cyfryngau
- cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog
- newyddion a gwybodaeth gyhoeddus
- cynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain, gan gynnwys perfformio a dosbarthu
Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Os gallwch ddangos bod eich cynnig yn cyd-fynd â chwmpas y gystadleuaeth hon, gallwch ganolbwyntio ar themâu eraill.
Dyddiadau Allweddol
- 7 Hydref 2024: Ceisiadau ar agor
- 17 Hydref 2024: Digwyddiad briffio ar-lein: cofrestrwch i gymryd rhan. Bydd sleidiau briffio ar gael i’w lawrlwytho o wybodaeth ategol ar ôl y digwyddiad.
- 4 Rhagfyr 2024, 11am: Ceisiadau yn gau
- 27 Ionawr 2025: Hysbysu ymgeiswyr
Hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i’ch prosiect:
- bod yr arian grant y gofynnir amdano rhwng £100,000 a £250,000
- bod y prosiect yn para hyd at 12 mis
- bod y prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar sector y cyfryngau
- bod y prosiect yn dangos potensial sylweddol o fudd economaidd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
- bod y prosiect yn bwriadu manteisio ar y canlyniadau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
- nad yw’r prosiect yn dechrau cyn 1 Ebrill 2025
- bod y prosiect yn dod i ben erbyn 30 Ebrill 2026
Pileri Media Cymru
Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:
- Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol y sector
- Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol
- Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol
- Twf – sbarduno twf a chynhyrchiant drwy Ymchwil a Datblygu.
Unrhyw gwestiynau?
Ymunwch â gweminar friffio Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) dros Zoom (Dydd Iau 17 Hydref, 11am) i gael gwybod rhagor am y Gronfa Uwchraddio a gofyn cwestiynau.