Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 24.11.2025
Y Gronfa Her Ymgolli
Mae hyd at £15,000 ar gael i fusnesau Cymru a gweithwyr llawrydd i ddatblygu profiadau gan ddefnyddio technolegau ymgolli a realiti estynedig (XR).
Cyfnod ymgeisio’n dechrau : 1 Rhagfyr 2025
Ceisiadau’n cau: 20 Ionawr 2026
Trosolwg
Mae Cronfa Her Ymgolli Media Cymru x CULTVR yn gyfle i arbrofi’n fentrus â thechnolegau ymgolli. Cafodd ei gynllunio i ddatblygu capasiti yn sector y cyfryngau yng Nghymru, ac i gefnogi a datblygu profiadau a chynnwys newydd sbon.
Mae hyd at £15,000 ar gael i bob prosiect, o fusnesau a gweithwyr llawrydd Cymru i brofiadau Ymchwil a Datblygu gan ddefnyddio technolegau ymgolli a realiti estynedig.
Os ydyn nhw’n llwyddiannus, bydd prosiectau sy’n cael eu hariannu’n defnyddio dulliau ymgolli i brofi posibiliadau creadigol a masnachol newydd – o ddatblygu’r cysyniad i fodelau busnes.
Labordy CULTVR yw’r lleoliad trawsddisgyblaethol ymgolli cyntaf yn Ewrop, sy’n cynnig amgylcheddau cryndo 360º, seilwaith perfformio realiti estynedig, ac ecosystem wedi’i sefydlu at ddibenion ymchwil a datblygu ym mhob disgyblaeth artistig a gwyddonol.
Bydd prosiectau’n elwa o seilwaith ac arbenigedd CULTVR i helpu i ddatblygu allbynnau ymgolli o safon.
Cwmpas
Rydyn ni’n cydnabod bod cynnwys ymgolli yn esblygu’n barhaus. Mae gennyn ni ddiddordeb mewn ariannu prosiectau sy’n trin a thrafod y berthynas rhwng adrodd straeon, technoleg, a’r gynulleidfa.
Dylai’r sawl sy’n gwneud cais egluro sut maen nhw’n bwriadu defnyddio profiadau ymgolli i ystyried posibiliadau creadigol a masnachol newydd, a hynny o ddatblygu cysyniadau i fodelau busnes cynaliadwy i adnabod y cyfryngau a’r technolegau mwyaf effeithiol er mwyn creu profiadau ymgolli ar y cyd.
Beth yw ystyr ‘profiad ymgolli ar y cyd’?
‘Profiad ymgolli ar y cyd’ yw pan mae llawer o bobl yn cymryd rhan yn yr un profiad ymgolli ar yr un pryd. Efallai y bydd hyn wyneb yn wyneb, yn rhithiwr, neu gyfuniad o’r ddau, ac mae’n bosibl y bydd eu presenoldeb neu’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio yn dylanwadu ar y profiad ei hun.
Mae’n bosibl i brosiectau llwyddiannus gymryd sawl ffurf, a thynnu ar wahanol offer a thechnolegau, er enghraifft fulldome, realiti rhithwir, realiti estynedig, realiti cymysg, mapio tafluniadau, haptigau, dylunio rhyngweithiol, delweddau data, DA Cynhyrchiol neu seinweddau gofodol.
Rydyn ni’n croesawu dulliau eraill sy’n gwthio ffiniau profiadau ymgolli ar y cyd.
Dyddiadau Allweddol
- 1 Rhagfyr 2025: Cyfnod gwneud cais yn dechrau
- 8 Rhagfyr 2026: Trosolwg o’r gronfa a digwyddiad rhyngweithio yn CULTVR
- 20 Ionawr 2026: Mae’r cyfnod cyflwyno cais yn cau am hanner dydd: sylwer, na fydd modd derbyn unrhyw geisiadau ar ôl yr amser hwn.
- 6 Chwefror 2026: Hysbysu’r ymgeiswyr (dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gall gymryd hyd at 5 wythnos i gontractau gael eu cyhoeddi)
- 15 Ebrill 2026: Prosiectau ymchwil a datblygu’n dechrau
- 17 Gorffennaf 2026: Prosiectau ymchwil a datblygu’n dod i ben a chyflwyniadau terfynol
Sesiwn holi ac ateb ar y Gronfa Her Ymgolli
Os hoffech chi wybod rhagor am y Gronfa Her Ymgolli a’r mathau o brosiectau a allai gael eu hariannu, byddwn ni’n cynnal digwyddiad gwybodaeth ddydd Llun, 8 Rhagfyr 2025 am 2pm yn CULTVR. Cadw eich lle.
Pwy sy’n gymwys
Gyda’n holl weithgarwch, rydyn ni’n awyddus i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib er mwyn sicrhau ein bod yn clywed y syniadau gorau. Rydyn ni’n cydnabod bod buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn rhy aml yn cylchdroi mewn rhwydweithiau nad ydyn nhw’n cynrychioli ein cymuned ehangach yn ei holl amrywiaeth cymdeithasol a diwylliannol.
Meini prawf cymhwysedd:
- Mae eich cwmni neu eich practis wedi’i leoli yng Nghymru
- Mae gennych chi syniad ymchwil a datblygu sydd wedi’i gyfleu’n glir
- Rydych chi’n gweithio yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru neu mae eich syniad o fudd uniongyrchol i ddiwydiant y cyfryngau yng Nghymru
- Rydych chi mewn sefyllfa i neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect Ymchwil a Datblygu rhwng Ebrill 2026 a Gorffennaf 2026
- Dim ond un cais y byddwn ni’n ei dderbyn gan bob unigolyn/cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect.
Beth yw Ymchwil a Datblygu (R&D)?
Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu’n waith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau yn ogystal â chreu cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau sy’n newydd neu’n well.
Yng nghyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, arbrofi neu brofi technoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu gynhyrchu rhithwir. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio radical, tecach a mwy cyfeillgar i’r blaned. Gallai olygu profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.
Dyma’r math o brosiectau Ymchwil a Datblygu rydym yn chwilio amdanynt:
- Newydd: byddan nhw’n seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg.
- Creadigol: byddan nhw’n defnyddio dulliau arbrofol ac yn creu canfyddiadau newydd.
- Ansicr: byddan nhw’n dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol.
- Systematig: byddan nhw’n seiliedig ar ddull wedi’i gynllunio a’i gyllidebu.
- Trosglwyddadwy: byddan nhw’n creu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu i gael manteision ehangach.
Hygyrchedd
Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), mae croeso i chi e-bostio media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â media.cymru@caerdydd.ac.uk