Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 25.09.2024
Y Gronfa Straeon Hinsawdd
Ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu sy’n arwain at ffilmiau hir neu brofiadau trochi sy’n adrodd stori argyfwng yr hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Ar agor: Dydd Llun 2 Rhagfyr
Ar gau: Dydd Gwener 17 Ionawr, canol y dydd
Trosolwg
Mae Cronfa Straeon am yr Hinsawdd Media Cymru × Ffilm Cymru Wales ar gyfer prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer ffilmiau hir neu brofiadau trochi sy’n adrodd stori argyfwng yr hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Bydd y gronfa yn cefnogi’r elfen Ymchwil a Datblygu. Unwaith y bydd yr ymchwil a datblygu wedi’i gwblhau, gall ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais am gyllid pellach drwy Ffilm Cymru Wales i barhau i ddatblygu’r ffilm hir neu’r profiad trochi.
Mae’r Gronfa Straeon Hinsawdd yn cydredeg â chyfnod tyngedfennol ar gyfer yr argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae cytundeb cyffredinol bod yn rhaid i’r sector ffilm gymryd cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â’r argyfwng hwn drwy ddatgarboneiddio gwaith cynhyrchu, a chreu cynnwys effeithiol am yr hinsawdd sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol ac yn ysgogi pobl i weithredu. Mae’r gronfa hon yn dilyn lansiad ein Cronfa Ddatblygu Peintio’r Sgrin yn Wyrdd (Greening the Screen) yn gynharach eleni, a oedd yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio cynhyrchu mewn ymateb i Gynllun Trawsnewid Bargen Newydd y Sgrin i Gymru gan BAFTA Albert.
Proses
Mae’r cam Ymchwil a Datblygu yn cynnig hyd at £20,000 ar gyfer sbrint ymchwil a datblygu pedwar mis o hyd a fydd yn cael ei gynnal rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2025.
Ar ddiwedd y sbrint Ymchwil a Datblygu, bydd cyfle i brosiectau llwyddiannus wneud cais am £50,000 pellach i roi ei prosiect ar waith trwy Ffilm Cymru Wales.
Hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.
Meini prawf cymhwysedd
- Mae gennych chi syniad am brosiect ymchwil a datblygu arloesol sy’n canolbwyntio ar gynnwys sy’n ymwneud â’r hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
- Mae eich cwmni yng Nghymru.
- Gallwch neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu gwib rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2025.
- Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul unigolyn/cwmni/sefydliad fel arweinydd prosiect.
Dyddiadau Alweddol
- 2 Rhagfyr 2024: Cyfnod ymgeisio yn agor a digwyddiad lansio yn Ffilm Cymru (W2, Wellington, Stryd Wellington, Caerdydd, CF11 9BE)
- 17 Ionawr 2025: Bydd y cyfnod ymgeisio’n cau am hanner dydd (ni dderbynnir ceisiadau ar ôl yr amser hwn)
- 14 Chwefror 2025: Hysbysu ymgeiswyr
- 1 Ebrill 2025: Prosiectau ymchwil a datblygu gwib yn dechrau
- 31 Gorffennaf 2025: Prosiectau ymchwil a datblygu yn gorffen
- O fis Awst 2025 ymlaen: posibilrwydd y bydd prosiectau’n cael eu datblygu’n fasnachol gyda Ffilm Cymru
Pileri Media Cymru
Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:
- Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol negyddol y sector
- Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol
- Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol
Diffiniad Media Cymru o Ymchwil a Datblygu
Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.
Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu rithgynhyrchu. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned.. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.
Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydyn ni’n chwilio amdanynt:
- Gwreiddiol: bydd yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg.
- Creadigol: bydd yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd.
- Ansicr: bydd yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol.
- Systematig: bydd yn seiliedig ar ddull gweithredu wedi’i gynllunio a’i gyllidebu.
- Trosglwyddadwy: bydd yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach.
Lansio’r Gronfa Straeon Hinsawdd
Ar ddidd Llaun 2 Rhagfyr, ymunwch â Media Cymru a Ffilm Cymru Wales wrth iddyn nhw lansio eu Cronfa Straeon Hinsawdd newydd yn swyddogol.
Rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle.
Gwneud cais
Darllenwch a lawrlwythwch y ddogfen ganllaw cyn gwneud cais – mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth, manylion ymgeisio a meini prawf cymhwysedd.
Os ydych chi’n dymuno paratoi eich atebion all-lein cyn gwneud cais, mae’r cwestiynau ymgeisio allweddol i’w gweld yn y ddogfen ganllaw.
Nodiadau canllaw Y Gronfa Straeon Hinsawdd (Dogfen Word)
Nodiadau canllaw Y Gronfa Straeon Hinsawdd (PDF)
Rhaid llenwi a chyflwyno pob cais ar-lein drwy ein gwefan. Ni allwn dderbyn ceisiadau mewn fformatau eraill.
Mae ceisiadau ar agor Dydd Llun 2 Rhagfyr.