string(104) "/cym/yr-athro-justin-lewis-cyfarwyddwr-media-cymru-yn-cael-cymrodoriaeth-fawreddog-yr-academi-brydeinig/" 12693267 Skip to main content
int(1269) 12693267
News

Cyhoeddwyd ar 23.07.2024

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru, yn cael cymrodoriaeth fawreddog yr Academi Brydeinig

Mae’r Athro Justin Lewis, academydd o Ganolfan yr Economi Creadigol Prifysgol Caerdydd wedi’i ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig i gydnabod ei gyfraniad at newyddiaduraeth, cyfathrebu a’r diwydiannau creadigol. Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr Media Cymru.

Mae Media Cymru yn gonsortiwm gwerth £50 miliwn sy’n cynnwys 22 partner wedi’u hariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw hybu arloesedd cynhwysol a chynaliadwy yn y sector cyfryngau yng Nghymru.

Academi genedlaethol y DU ar gyfer y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yw’r Academi Brydeinig. Cafodd ei sefydlu ym 1902. Mae’n Gymrodoriaeth o dros 1600 o bobl blaenllaw yn y meysydd hyn o’r DU a thramor, yn ogystal â bod yn gorff cyllido ar gyfer ymchwil ac yn fforwm i gynnal dadlau a gwneud gwaith ymgysylltu.

Bob blwyddyn mae’r Academi Brydeinig yn ethol i’w Chymrodoriaeth hyd at 38 o ysgolheigion rhagorol o’r DU, sydd wedi cyflawni rhagoriaeth mewn unrhyw gangen o’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Mae etholiad yn arwydd o ragoriaeth, gan mai dim ond nifer fach iawn o ysgolheigion mewn unrhyw faes sy’n cael eu hethol.

Dyma a dywedodd yr Athro Justin Lewis am gael ei ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig: maen nhw’n gwneud gwaith rhagorol yn ymgysylltu â llunwyr polisïau i roi gwybod am bwysigrwydd y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol i fywyd cymdeithasol ac economaidd y DU, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r ymdrech honno…”

Gwybodaeth am Justin

Mae Justin Lewis yn Athro Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan yr Economi Greadigol.

Roedd yr Athro Lewis yn Gyfarwyddwr Clwstwr rhwng 2018 a 2024, sef rhaglen arloesi ym maes ymchwil a datblygu wedi’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Llywodraeth Cymru ar gyfer sector y sgrîn a newyddion. Fe wnaeth Clwstwr guradu 120 o brosiectau arloesi gyda chwmnïau creadigol yng Nghymru a gafodd effaith gadarnhaol sylweddol ar Economi Creadigol Cymru. Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr Media Cymru. Mae Media Cymru yn gonsortiwm gwerth £50 miliwn sy’n cynnwys 22 partner wedi’u hariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw hybu arloesedd cynhwysol a chynaliadwy yn y sector cyfryngau yng Nghymru.

Yn ystod ei gyfnod yn Bennaeth Ysgol a Deon Ymchwil Coleg sefydlodd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol a Chaerdydd Creadigol. Rhwng 2019 a 2022, bu’n Gadeirydd Panel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU ar Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a’r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth.

Mae wedi ysgrifennu dros 120 o lyfrau, penodau mewn llyfrau ac wedi bod yn ganolwr ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion am y cyfryngau, diwylliant a gwleidyddiaeth. Ef yw Prif Olygydd Maes Frontiers in Communication, un o brif gyhoeddwyr Mynediad Agored y byd.