string(36) "/cym/datganiad-polisi-iaith-gymraeg/" Skip to main content

Datganiad Polisi Iaith Gymraeg.

Datganiad Polisi Iaith Gymraeg  

Diweddarwyd Chwefror 2024

Mae’r datganiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg, yn amlinellu ein cyfrifoldebau mewn perthynas â safonau’r Gymraeg, ac yn manylu ar ein prif egwyddorion a nodau, gan gynnwys sut byddwn ni’n defnyddio, yn hyrwyddo ac yn dathlu’r Gymraeg.   

Yn rhan o’i gyfraniad at ddiwylliant a chymdeithas Cymru, mae Media Cymru yn ymroddedig i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd, a manteision, darparu gwasanaethau dwyieithog i’n cynulleidfaoedd.  

I waith Media Cymru yn unig y mae’r datganiad hwn yn berthnasol, ond gan fod rhaglen Media Cymru yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, datblygwyd y datganiad gan gyfeirio at Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol – Yr Alwad a Safonau’r Gymraeg.  

Egwyddorion 

Mae Media Cymru yn ymdrechu i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r Gymraeg.  

Rydyn ni’n cydnabod y gall pobl ddewis byw eu bywydau yn eu dewis iaith, a thrwy ein gwaith rydyn ni’n ymroddedig i gefnogi, i hyrwyddo ac i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.  

Byddwn ni’n hyrwyddo ac yn cefnogi Cymru ddwyieithog ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050, drwy gyfrannu at gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn sector y cyfryngau yng Nghymru drwy ein gweithgareddau ymchwil, ymgysylltu ac arloesi.   

Mae hunaniaeth Gymreig ac ymdeimlad o le wrth wraidd brand Media Cymru.   

Fel prosiect ar sail lle a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), rydyn ni’n chwarae rhan yn helpu i siapio dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, gan adeiladu canolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd a chynhyrchu’r cyfryngau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau – lle mae’r Gymraeg yn hanfodol i naratif greadigol y rhanbarth.  

Byddwn ni’n sicrhau bod cynrychiolaeth o Gymru a’r Gymraeg yn ganolog i’n cenhadaeth, yn ymrwymo i arddangos y Gymraeg lle bynnag bo’n bosibl, ac i ehangu ei defnydd yn ein hamgylchedd ac yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud. Adlewyrchir hyn yn natur ddwyieithog ein henw, a fydd bob amser yn cael ei ysgrifennu fel ‘Media Cymru’, yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Mae Media Cymru yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.  

Rydyn ni’n ymroddedig i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yn ein holl gyfathrebiadau a byddwn ni’n annog defnydd o’r Gymraeg gan ein cynulleidfaoedd, ein staff, ein partneriaid a’n harianwyr.   

Rydyn ni’n croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn ni’n darparu gwasanaeth cyson i bawb yn eu dewis iaith.   

Rydyn ni’n cydnabod manteision ymagwedd ddwyieithog, fel cyfoethogi ein rhaglen a meithrin cysylltiadau cryfach gyda chynulleidfaoedd.  

Mae Media Cymru yn annog y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.   

Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn rhan annatod o fabwysiadu ffordd ddwyieithog o weithio, a byddant yn cael eu cefnogi i helpu i ymgorffori, i ddefnyddio ac i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gweithle a gyda phartneriaid consortiwm.  

Byddwn ni’n annog staff i ddysgu Cymraeg ac yn darparu cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau.   

Nodau   

Cynrychioli’r Gymraeg yn greadigol, drwy wneud y canlynol:  

  • Cynrychioli Cymru a’r Gymraeg i’r safon uchaf   
  • Helpu i feithrin cydnabyddiaeth gadarnhaol o ran y Gymraeg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o frand Media Cymru
  • Sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg yr un mor amlwg a hygyrch â’r rhai Saesneg
  • Gwerthfawrogi natur ddwyieithog y diwydiant rydyn ni’n gweithio ynddo, gan ei chryfhau ac eirioli drosti.    

Ystyried y Gymraeg fel cyfle i ddatblygu ein gwaith, drwy wneud y canlynol:  

  • Adeiladu enw da cryf fel cydweithrediad cyfryngau yng Nghymru sy’n denu cynulleidfaoedd rhyngwladol ac sy’n rhoi Cymru ar y map fel canolbwynt byd-eang ar gyfer arloesedd a chynhyrchu’r cyfryngau
  • Cynnig mynediad ehangach at ein gwaith drwy ddarparu gwasanaethau Cymraeg, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach drwy ddefnyddio’r Gymraeg ac ehangu’r ffrwd o bobl sy’n ymgysylltu â’n rhaglen drwy gyfleoedd Cymraeg
  • Creu cynnwys dwyieithog cyfoethocach i gryfhau ein hapêl yng Nghymru a’r tu hwnt
  • Creu galwadau her newydd o gwmpas cynhyrchu dwyieithog, a fydd yn helpu i arwain at syniadau ac arloesiadau Cymraeg newydd
  • Arddangos gwaith cynhyrchu cyfryngau Cymraeg wrth gael sylw yn y cyfryngau yng Nghymru a meithrin cysylltiadau gyda’r cyfryngau yng Nghymru.  

Annog siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â’n gwasanaethau a’n hadnoddau Cymraeg, drwy wneud y canlynol:  

  • Gwneud siaradwyr Cymraeg yn ymwybodol o’n gwasanaethau Cymraeg 
  • Cyfeirio cynulleidfaoedd a staff Cymraeg eu hiaith i fanteisio ar ein gwasanaethau Cymraeg
  • Meithrin cysylltiadau cryfach gyda siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y cyfryngau Cymraeg a’r cyfryngau a’r diwydiannau creadigol ehangach.  

Sefydlu gweithdrefnau gweithio cryf o ran y Gymraeg, drwy wneud y canlynol:  

  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn y datganiad hwn a sut i’w gweithredu
  • Sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg yr un mor amlwg a hygyrch â’r rhai Saesneg
  • Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff ynglŷn â Safonau’r Gymraeg a chefnogi’r rhai y mae angen cymorth arnynt gyda’r Gymraeg
  • Cynnig hyfforddiant a chyfleoedd i staff ddatblygu sgiliau Cymraeg, gan wneud defnydd llawn o’r adnoddau sydd ar gael gan Brifysgol Caerdydd drwy gynllun Dysgu Cymraeg
  • Hyrwyddo ac annog y defnydd o Gymraeg yn y gweithle a datblygu presenoldeb cryfach i’r Gymraeg yn y swyddfa.  

Gwella safle’r Gymraeg yn ein cymuned a’n diwydiant, drwy wneud y canlynol:  

  • Dod yn ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer cyfathrebiadau dwyieithog am y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru
  • Dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg
  • Dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru
  • Meddwl am y manteision y gall dwyieithrwydd eu cynnig yn rhyngwladol
  • Hyrwyddo’r Gymraeg a’i defnyddio’n ehangach drwy ein gwaith, gyda chynulleidfaoedd a staff.    

Rhagor o wybodaeth 

I ddysgu mwy am Media Cymru, ewch i: media.cymru    

Os oes gennych gwestiynau ynghylch y datganiad hwn neu os ydych chi’n dymuno trafod dwyieithrwydd yn Media Cymru, cysylltwch â Caleb Woodbridge – Swyddog Cyfathrebu Digidol: woodbridgec@caerdydd.ac.uk.