string(16) "/cym/amdanom-ni/" Skip to main content

Helo, ni yw Media Cymru.

Cydweithrediad i droi Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg.

Amdanom ni

Mae Media Cymru, o blaid Cymru ac am Gymru, a nod pennaf ein gwaith yw canolbwyntio ar Brifddinas-ranbarth Caerdydd. Rydym yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol yn sector cyfryngau Cymru. 

Mae Caerdydd a’r rhanbarth o’i chwmpas eisoes yn chwarae rhan fawr yn niwydiant y cyfryngau. Rydym ni’n credu ym mhotensial Cymru i lywio’r diwydiant ymhellach drwy fwy o gyllid, hyfforddiant a chyfleoedd i arloesi.

Consortiwm o 23 sefydliad partner i gyd gydag un nod. Ariennir Media Cymru yn sgîl £22m gan Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd, sef un o raglenni blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), £3m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, £1m gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol, a £23m o arian cyfatebol gan bartneriaid ym myd diwydiant a phrifysgolion.

Amdanom ni

Archwilio

Amdanom ni

Ein gweledigaeth  

Gwneud Cymru yn ganolfan wyrdd, teg, ac economaidd gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu ac arloesi'r cyfryngau, lle mae Ymchwil a Datblygu yn rhan annatod o'i sector cyfryngau ffyniannus. 

Rhagor o wybodaeth
Amdanom ni

Ein tîm

Dewch i gwrdd â thîm Media Cymru. Fel tîm rydym yn uno pobl tuag at nod cyffredin i dyfu'r sector. Rydym yn adeiladu ar gryfderau ein gilydd i siapio'r diwydiant.  

Rhagor o wybodaeth
Amdanom ni

Consortiwm  

Mae 23 sefydliad partner sydd wedi'u lleoli ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ffurfio Consortiwm Media Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn darparu prosiectau ar draws y sector cyfryngau.

Rhagor o wybodaeth

Dewch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd cyllido, y digwyddiadau a’r ymchwil gan Media Cymru.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.

Cofrestrwch