string(30) "/cym/projects/ffrwd-arloesedd/"

Ffrwd Arloesedd  

Cyfres o rowndiau cyllido wedi’u targedu a chyfleoedd hyfforddi sy’n canolbwyntio ar sector y cyfryngau, i fusnesau ac unigolion creadigol.

Beth yw'r Ffrwd Arloesedd? 

Mae’r Ffrwd Arloesedd yn gyfres o rowndiau cyllido a chyfleoedd hyfforddi wedi’u targedu sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu cwmnïau ac unigolion yn sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a ledled Cymru.

Y nod yw cynyddu eu gallu i gynnal ymchwil, datblygu ac arloesi ystyrlon. Gall hyn fod o ddatblygu yn y cyfnod cynnar hyd at weithgarwch graddfa, i arwain at fwy o syniadau, amrywiaeth a thwf i’r diwydiant.

Lab Syniadau – 

Mae Syniadau Lab yn gwrs tridiau wedi’i dargedu at weithwyr llawrydd sefydledig a busnesau bach yn y diwydiannau creadigol. Eleni, bydd Lab Syniadau yn cael ei chynnal mewn dau leoliad: Caerdydd a Bangor.    

Caerdydd: 23-25 Ionawr 2024
Bangor: 7-9 Chwefror 2024 

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys: 

  • Deall Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a sut i’w gymhwyso ar gyfer syniad 
  • Gwerth profi iteraidd, cydweithio a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr 
  • Datblygu busnes ac entrepreneuriaeth, gan annog meddwl am sut i lansio cynnyrch a chynhyrchu cyllid cyhoeddus/preifat. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau ddiwrnod gyda PDR, un diwrnod gyda Sefydliad Alacrity a mynediad at borth dysgu digidol ar-lein.  Mae PDR yn ymgynghoriaeth ddylunio amlddisgyblaethol sy’n arwain y byd ac yn ganolfan ymchwil gymhwysol. Sefydliad addysgol yw Sefydliad Alacrity sy’n cynnig mentoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfranogwyr yn deall sut i ddatblygu cynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion defnyddwyr terfynol. 

Bydd bwrsariaeth ar gael i bawb sy’n cymryd rhan yn y naill gwrs a’r llall.  

Ceisiadau’n cau: 7 Rhagfyr 2023  

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, os oes gennych ofynion mynediad penodol, neu os hoffech drefnu cyfarfod un-i-un i drafod eich cais, ebostiwch media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434. 

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fideo neu sain, llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ebostiwch media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434. 

Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol 

Mae Arloesedd ar gyfer Pobl Greadigol yn gwrs pum niwrnod wedi’i anelu at fyfyrwyr neu raddedigion coleg a phrifysgol diweddar, gweithwyr llawrydd ar ddechrau eu gyrfa, neu berchnogion busnesau bach sydd â diddordeb yn y diwydiannau creadigol.  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dysgu am:  

  • Sut i gydweithio ag eraill  
  • Prosesau ymchwil, datblygu ac arloesi   
  • Datblygu busnes ac entrepreneuriaeth  
  • Sut i greu a phrofi prototeipiau newydd  
  • Pam mae dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ffordd hygyrch o arloesi.  

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys tridiau gyda PDR, dau ddiwrnod gyda Sefydliad Alacrity a mynediad at borth dysgu digidol ar-lein. Mae PDR yn ymgynghoriaeth ddylunio amlddisgyblaethol sy’n arwain y byd ac yn ganolfan ymchwil gymhwysol. Sefydliad addysgol yw Sefydliad Alacrity sy’n cynnig mentoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfranogwyr yn deall sut i drosi syniadau yn gynigion arloesol sy’n ymgorffori anghenion defnyddwyr terfynol. 

Ceisiadau’n cau: 7 Rhagfyr 2023 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, os oes gennych ofynion mynediad penodol, neu os hoffech drefnu cyfarfod un-i-un i drafod eich cais, ebostiwch media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434. 

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fideo neu sain, llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ebostiwch media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434. 

 

Cyfleoedd cyllido a hyfforddi 2023-2025 

Arloesedd i Weithwyr Creadigol: Cwrs pum diwrnod i gefnogi unigolion sy’n meddwl am ddechrau busnes neu ddatblygu cynnig ariannu ymchwil, datglygu ac arloesi am y tro cyntaf.

Lab Syniadau: Gweithdy tridiau wedi’i anelu at y rhai sydd â mwy o brofiad o weithio yn sector y cyfryngau.

Arian Sbarduno: Hyd at £10,000 i weithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Cronfa Ddatblygu: Hyd at £50,000 i fusnesau ddatblygu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth diriaethol.

Uwchraddio: Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o raddfa ac uchelgais sylweddol sydd â’r potensial i fod yn drawsnewidiol i sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol.

Gwyrddio’r Sgrîn: Hyd at £250,000 ar gyfer syniadau, cynnyrch a gwasanaethau sydd â’r potensial i gyflawni newid amgylcheddol cadarnhaol pendant ar draws y sector.

Ffyrdd eraill o gymryd rhan  

Partneriaethau Her wedi’u Cyd-greu: Gweithio mewn partneriaeth gyda ni ar alwadau ariannu ar y cyd i fynd i’r afael â heriau ymchwil, datblygu ac arloesi a nodwyd neu gyfleoedd masnachol sy’n dod i’r amlwg.

Partneriaethau Her wedi’u Cyd-greu

Cysylltwch â ni am sgwrs

People working on laptop and writing on post-it note

Newyddion: Lansio Cronfa Sbarduno Media Cymru

Fe gawsom sgwrs ag Uwch Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Rheolwr Ariannu, Lee Walters, i ddarganfod rhagor am y cyfle.

Rhagor o wybodaeth
Ffrwd Arloesedd‏

Newyddion: Media Cymru yn buddsoddi £180,000 o arian sbarduno mewn prosiectau arloesi

Rydyn ni wedi dyfarnu arian i ddeunaw o brosiectau sy’n archwilio ystod o syniadau newydd, gan gynnwys ym meysydd cynhyrchu rhithwir (VP), technolegau trochol, a phrofiadau rhyngweithiol.

Rhagor o wybodaeth