string(31) "/cym/fframwaith-moeseg-ymchwil/" 6351974 Skip to main content

Fframwaith Moeseg Ymchwil.

Mae Media Cymru yn cadw at y safonau uchaf posibl o ran moeseg ymchwil. Mae gennym rai gwerthoedd sylfaenol sy’n tywys ein gweithdrefnau, ac yn cyd-fynd yn uniongyrchol â phrif amcanion Media Cymru, sef darparu atebion arloesol i sbarduno twf economaidd teg a gwyrdd a datblygu canolbwynt cyfryngau byd-eang ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). Byddwn yn adeiladu ein hymchwil ar y gwerthoedd moesegol canlynol sy’n llywio ac yn siapio ein holl weithgareddau ymchwil a chasglu data.

Gwerthoedd moesegol Media Cymru

  1. Ymchwil pobl-ganolog: byddwn yn rhoi sylw arbennig i hawliau ac urddas unigolyn, gan sicrhau bod yr ymchwil o fudd iddynt yn unigol neu ar y cyd a lleiafu’r holl risgiau a niwed posibl. Rydym yn ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson i gyfranogwyr am ein prosesau draw a’u hatgoffa bod eu cyfranogiad mewn ymchwil yn wirfoddol, er mwyn sicrhau bod integriti’r unigolyn yn cael ei gadw.
  2. Hyrwyddo canlyniadau ymchwil tryloyw: rydym yn disgwyl i’n holl ymchwil fod ar gael i gynulleidfa mor fawr â phosibl, drwy gyhoeddiadau Mynediad Agored, papurau gwaith, adroddiadau ac argymhellion polisi, i feithrin trafodaeth gymdeithasol ar y materion hyn. Mewn achosion lle gallai fod cyfyngiadau ar yr wybodaeth sy’n cael ei darparu i’r cyhoedd (e.e. buddiannau preifat, cyfrinachau diwydiannol, manylion personol), bydd yn cael ei diogelu’n briodol. Bydd datgeliad o wrthdaro buddiannau hefyd yn cael ei wneud.
  3. Hyrwyddo arferion ymchwil cynhwysol: Dylai ymchwil geisio cyrraedd holl unigolion cymdeithas (gweler hefyd bwynt 2), sicrhau cyfranogiad digonol o gefndiroedd amrywiol a sicrhau ei fod ar gael mor eang â phosibl. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ddefnydd ac argaeledd y Gymraeg o fewn pob agwedd ar ein prosesau a’n hallbynnau ymchwil. Ar ben hynny, rydym yn cefnogi ymchwil ein partneriaid sy’n anelu at greu sector teg, cyfartal ac amrywiol.
  4. Cofleidio cynaliadwyedd ymchwil: Mae’r holl brosesau ymchwil yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol sydd ymhlyg ynddynt, a byddent yn ceisio ei leihau trwy ymrwymo i arferion gwyrdd ac i ymgymryd ag ymchwil gyda’n partneriaid sy’n lleihau effaith amgylcheddol negyddol y diwydiannau creadigol yn sylweddol.

Meithrin arferion gorau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu (R&D) a ariannir drwy Media Cymru

Mae ein hymrwymiad i safonau moesegol uchel hefyd yn ceisio llywio, meithrin a chefnogi’r gweithgareddau Ymchwil a Datblygu sydd wedi’u cynllunio a’u datblygu gan ein partneriaid yn y Consortiwm a’r prosiectau a ariannir. Rydym yn ymdrechu i ddarparu’r cymorth a’r cyngor gofynnol i sicrhau bod pob prosiect ymchwil yn ein Consortiwm yn cadw at yr un daliadau moesegol yr ydym ninnau’n cadw atynt ar gyfer ein prosiectau ymchwil.

Canlyniadau ac allbynnau ymchwil

Er mwyn cyflawni ein nodau, mae Media Cymru yn ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil ddamcaniaethol a chymhwysol i lywio datblygiad polisi cyhoeddus, meithrin datblygiadau sy’n seiliedig ar ddiwydiant a chreu gwybodaeth newydd.

Bwriedir i’r ymchwil a gynhelir gael ei ddatblygu ynghyd â phartneriaid yn y diwydiant i hyrwyddo strategaeth ymchwil, datblygu ac arloesi (RD&I) sy’n caniatáu ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus ac archwilio ffyrdd newydd ac unigryw o fynd i’r afael â heriau cyfoes o fewn y diwydiannau creadigol.

Mae gan y broses ymchwil amrywiaeth o gynulleidfaoedd targed a fwriadwyd:

  1. Partneriaid consortiwm a diwydiant, yn ogystal â datblygwyr prosiectau a fyddai’n elwa o’r wybodaeth academaidd ddiweddaraf am eu maes, yn ogystal ag o gydweithio a datblygu sgiliau yn y broses ymchwil
  2. Sefydliadau cyhoeddus a llywodraethol a fydd yn elwa o argymhellion polisi a rheoleiddiol a fyddai’n meithrin arloesedd, creadigrwydd ac arferion cynhyrchu sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.
  3. Crewyr posibl, entrepreneuriaid a graddedigion ifanc a fyddai’n dod o hyd i gyfleoedd, posibiliadau a chymhellion i aros ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu eu syniadau, dod o hyd i gyflogaeth a pharhau â’u rhagolygon arloesol.
  4. Academyddion ym meysydd arloesi, cynhyrchu’r cyfryngau, y celfyddydau creadigol, diwylliant a dosbarthu’r celfyddydau a fyddai’n dysgu o’r crynhoad o brofiadau, modelau ac arloesiadau a ddarganfuwyd wrth ymgysylltu â phartneriaid yn y diwydiant.  

Mae ein fframwaith moeseg ymchwil yn cyd-fynd â pholisi Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI) a’r holl sefydliadau Addysg Uwch sy’n cydweithio ar Media Cymru, ac yn cael ei lywio ganddo.

Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol De Cymru

Adnoddau

Hysbysiad Preifatrwydd Media Cymru

UKRI Responsible Innovation

Moeseg Ymchwyl Prifysgol Caerdydd

Uniondeb ymchwyl PDC

Rheolaeth Moeseg PMC 

PDR Ethics Framework

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am ein fframwaith moesegol, os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch adolygiadau moesegol neu os oes angen cymorth arnoch i asesu materion moesegol a allai godi yn eich prosiect Ymchwil a Datblygu, cysylltwch â’r Uwch Gymrawd Ymchwil, yr Athro Marlen Komorowski: KomorowskiM@cardiff.ac.uk, neu dîm Media Cymru: media.cymru@cardiff.ac.uk