string(37) "/cym/projects/sgiliau-a-hyfforddiant/" Skip to main content

Sgiliau a hyfforddiant

Rhaglen sgiliau sy’n cysylltu addysg â diwydiant a seilwaith, sydd wedi’i chynllunio i adeiladu sylfaen dalent gynaliadwy ac arloesol.

Beth yw Sgiliau a Hyfforddiant?

Bydd Prifysgol De Cymru yn datblygu ac yn cyd-gyflwyno rhaglen sgiliau arloesol sy’n cysylltu addysg, diwydiant a seilwaith i adeiladu sylfaen dalent gynaliadwy ar gyfer sector sgrin y rhanbarth.

Cyfleoedd hyfforddi a datblygu sgiliau sydd i ddod:

Hanfodion Rheoli Data

Sut beth yw rheoli data? Beth allwn ni ei wneud yn y sector sgrîn Cymreig, nid yn unig i drefnu’n hunain yn fwy effeithiol ond i sicrhau bod gennym y gallu a’r capasiti i ymdrin â therabeitiau o ddata? A yw pob datrysiad cwmwl neu becyn meddalwedd penodol yn addas ar gyfer pob cynhyrchiad?

Yn y sesiwn hanner diwrnod hon ar HANFODION RHEOLI DATA, nod Gorilla Academy yw symleiddio’r derminoleg a’r dechnoleg (ond mae’n rhaid ei drafod – sori!) ac edrych ar rai o lifoedd gwaith sydd wedi hen ennill eu plwyf i reoli eich data, o’r pwynt casglu i’r pwynt cyflwyno. Byddant hefyd yn eich galluogi chi i ofalu am un o’ch asedau mwyaf gwerthfawr.

Fe fyddwn ni’n trafod egwyddorion storio cynhwysfawr, confensiynau enwi a mathau o ddatrysiadau storio sy’n addas ar gyfer pob math o ffeil, tra’n edrych ar gostau a’r gwedd werdd ar reoli data.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynhyrchwyr, cynorthwywyr cynhyrchu, rheolwyr prosiect, cynorthwywyr/hyfforddeion camera, camera, cynorthwywyr golygu – mae’n cynnwys bron pob math o ffeil, felly gall fod o fudd i bob math o rôl.

Rhagor o wybodaeth…

 

Sut i fod yn ‘Greenlancer’

Mae eco-bryder ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn parhau i esblygu, ac ni fu erioed yn bwysicach i weithwyr llawrydd fabwysiadu ac ymgorffori arferion cynaliadwy yn eu bywydau bob dydd. Mae rhedeg busnes llawrydd mwy gwyrdd hefyd yn golygu mynd i’r afael ag allyriadau personol megis Trafnidiaeth ac Ynni, Deunyddiau, Bwyd a Gwastraff ac un o wersi mwyaf gwerthfawr y sesiwn fydd ennill gwell dealltwriaeth o’ch ôl troed carbon a sut y gallwch ei leihau.

Mae Sut i Fod yn ‘Greenlancer’ yn ganllaw deniadol a syml gan Picture Zero sy’n cyflwyno syniadau ar sut y gallwch ganolbwyntio mwy ar yr amgylchedd a bod yn fwy parod i gyllido ar lefel bersonol.  Mae’r canllaw yn awgrymu sut y gallwch dyfu’ch busnes, eich gwerth a’ch rhwydwaith trwy wahaniaethu’ch hun a denu cyflogwyr sydd hefyd yn gwerthfawrogi cynaliadwyedd.

Bydd pob sesiwn ar-lein yn cael ei chynnal ar-lein ar ddyddiau Mercher rhwng 1000-1300.

Rhagor o wybodaeth…

Rhaglen ‘Reset’ ar gyfer Rhieni sy’n Gweithio

From Another logo

Rydyn ni’n gwybod bod rhieni yn y sector sgrin yn wynebu llawer o heriau ac rydyn ni wedi partneru â From Another i ddod â’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnoch i lunio’r atebion sy’n iawn ar eich cyfer chi.

Mae From Another yn arbenigwyr mewn rhianta a gweithio a ffyrdd newydd o weithio. Gan ddefnyddio’r data diweddaraf o sgyrsiau gyda channoedd o rieni, rheolwyr ac arweinwyr, maen nhw’n gweithio’n fanwl ar y cysyniadau maen nhw’n gwybod fydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r rhaglen ‘RESET’ yn darparu’r cyfan sydd ei angen arnoch chi i ddilyn y cyfeiriad iawn i chi, eich teulu, a’ch swydd.

Mae’r hyfforddiant hwn am ddim.

Gweld mwy a gwneud cais…

Cronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd Media Cymru

Ceisiadau yn agor nawr

Gall gweithwyr llawrydd y sector sgrin yng Nghymru nawr wneud cais am gymorth ariannol i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi sy’n berthnasol i ddatblygiad gyrfa personol. Mae prosiect Sgiliau a Hyfforddiant Media Cymru, a ddarperir gan Brifysgol De Cymru, yn cynnig hyd at gyfanswm o £1,500 y pen i dalu am golli enillion wrth ymgymryd â hyfforddiant.

Rhagor o wybodaeth a chofrestrwch eich diddordeb

Ffocws ar Lawryddion Media Cymru

Mae ymchwil Ffocws ar Lawryddion Media Cymru gan Brifysgol De Cymru (PDC) yn astudiaeth barhaus, hirdymor o yrfaoedd llawryddion yn y sector sgrin yng Nghymru. Bydd y wybodaeth a roddwch yn helpu i lunio allbwn sgiliau a hyfforddiant PDC a Media Cymru, a gwella ein dealltwriaeth o yrfaoedd llawryddion yn sector sgrin Cymru. 

Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru

Ar ddiwedd 2022, cynhaliodd y tîm ym Mhrifysgol De Cymru Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru – yr arolwg cyntaf ledled Cymru i asesu sgiliau, anghenion hyfforddi, agweddau a phrofiad y rhai sy’n gweithio ar draws sector y sgrîn. Rhannwyd y canfyddiadau hyn yng Nghynhadledd Newid Diwylliant ym mis Mawrth 2023 a bydd y cyhoeddiad yn cael ei ryddhau eleni.