string(33) "/cym/projects/cynhyrchu-rhithwir/" Skip to main content

Cynhyrchu Rhithwir

Darparu stiwdio rithwir a chyfleuster hyfforddi ac ymchwil o’r radd flaenaf.

 

Beth yw'r prosiect Cynhyrchu Rhithwir?  

Bydd y prosiect hwn yn darparu stiwdio gynhyrchu rithwir o’r radd flaenaf yn Seren Stiwdios, Caerdydd, a chyfleuster hyfforddi ac ymchwil gyda chysylltiadau ag Addysg Bellach ac Uwch.

Drwy ddod yn arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu rhithwir – a chaniatáu mynediad at weithwyr proffesiynol yn y diwydiant – mae’r prosiect Cynhyrchu Rhithwir yn cryfhau ecosystem greadigol Prifddinas-ranbarth Caerdydd drwy wella cadwyn gyflenwi’r gweithlu a darparu cymorth technegol ac offer arbenigol.