string(36) "/cym/media-cymru-seed-fund-launches/" Skip to main content
int(360)
News

Cyhoeddwyd ar 24.01.2023

Lansio Cronfa Sbarduno 2023 Media Cymru

People working on laptop and writing on post-it note

Yr wythnos hon fe lansiwyd y broses gwneud cais ar gyfer Cronfa Sbarduno gyntaf Media Cymru. Fe gawsom sgwrs ag Uwch Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Rheolwr Ariannu, Lee Walters, i ddarganfod rhagor am y cyfle.

Soniwch wrthym am Gronfa Sbarduno Media Cymru a pham y dylai pobl wneud cais. 

Mae Cronfa Sbarduno Media Cymru bellach ar agor, a byddwn wir yn annog unrhyw weithwyr llawrydd creadigol a mentrau bach a chanolig (BBaChau) ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a ledled Cymru, i ystyried gwneud cais. Mae hyd at £10,000 ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau. 

Os oes gennych syniad yr hoffech ei feithrin o’i gamau cynnar iawn hyd at gael ei ddilysu’n llawn a bod gennych dri i bum mis i wneud y gwaith ymchwilio a datblygu arno gyda chymorth gan ein partneriaid yn PDR a Sefydliad Alacrity, yna gallai’r cyfle hwn fod at eich dant!  

Allwch chi restru enghreifftiau diddorol o brosiectau posibl?   

Ar gyfer y rownd ariannu hon, mae gennym ddiddordeb arbennig yn y meysydd canlynol:  

  • Cynhyrchu rhithwir 
  • Fformatau newydd a ffyrdd newydd o greu cynnwys 
  • Gemau cyfrifiadurol 
  • Storïa Trochol 
  • Cynhyrchu dwyieithog a 
  • Dulliau newydd o gyflwyno’r newyddion. 

Rydym hefyd yn awyddus i ddatblygu arloesiadau sy’n gwneud cynhyrchu’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol; cynrychioli a chyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt wedi’u gwasanaethu’n ddigonol; ymgysylltu â marchnadoedd rhyngwladol a bod â’r potensial ar gyfer budd ariannol hirdymor. 

Beth fydd prosiectau a ariennir wedi’i gyflawni erbyn diwedd eu cyfnod ymchwil a datblygu?  

Erbyn diwedd y pum mis, bydd gan arweinwyr prosiectau sylfeini cynllun busnes, rhagolwg ariannol, a dec cyflwyno a fydd yn eich galluogi i gyflwyno cynigion i fuddsoddwyr. Gallai prosiectau hefyd fod yn gymwys i wneud cais am Gronfa Datblygu Media Cymru ar gyfer eu harloesi.