Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 05.11.2024
‘Sesiwn Galw Heibio’ y Gronfa Uwchraddio (Rownd 2)
Dyddiad: 12.11.2024
Amser: 12pm
Lleoliad: Arlein
Sesiwn Galw Heibio’ y Gronfa Uwchraddio (Rownd 2) – gyda thîm Media Cymru a Will Humphrey o Sugar Creative
Ymunwch â thîm Media Cymru ar gyfer ‘Sesiwn Galw Heibio’ y Gronfa Uwchraddio (Rownd 2). Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein (drwy Microsoft Teams) ddydd Mawrth 12 Tachwedd, am hanner dydd.
Bydd y Gronfa Uwchraddio (Rownd 2) yn buddsoddi mewn cynnyrch arloesol, gwasanaethau a phrofiadau sydd gystal â chystadleuwyr cyfryngau byd-eang o ran maint eu sgiliau a’u huchelgais i arloesi.
Bydd y sesiwn galw heibio’n rhoi cyfle i ddarpar ymgeiswyr ofyn cwestiynau am y gronfa a chael gwybod ble i gael rhagor o gymorth. Hefyd yn ymuno â ni fydd Will Humphrey o Sugar Creative, a lwyddodd i gael cyllid yn rownd gyntaf Cyllid Uwchraddio Media Cymru.