string(126) "/cym/blog-posts/meddyliau-ar-ymweliad-future-media-hubs-a-chaerdydd-gyda-yr-athro-sara-pepper-dirprwy-gyfarwyddwr-media-cymru/" Skip to main content
int(4220)
Blog

Cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024

Ymweliad Future Media Hubs â Chaerdydd — gyda yr Athro Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru

Rhai meddyliau yn dilyn ymweliad grŵp Next Generation Future Media Hubs â Chaerdydd ar 22-23 Hydref 2024, gyda yr Athro Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru… 

Mae Future Media Hubs (FMH) yn rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau cyfryngau sy’n canolbwyntio ar arloesi trwy gydweithio a rhannu gwybodaeth. Eu prif nod yw cyflymu datblygiad y diwydiant cyfryngau a’i ecosystemau lleol drwy hwyluso partneriaethau rhwng sefydliadau cyfryngau cyhoeddus yn ogystal â masnachol.  

Mae is-grŵp Next Generation FMH yn cwrdd ar-lein yn fisol i drafod cynnwys ac arloesedd ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n amrywio o 12 i 34 oed ac yn ystyried pynciau fel strategaeth cyfryngau, lleoli, cysyniadau ffrydio ac arloesedd technoleg ehangach, amrywiaeth, a mewnwelediadau ar gynulleidfaoedd, a ystyrir i gyd ar sail anghenion a safbwyntiau’r defnyddiwr.  

Roedd Cymru’n lleoliad delfrydol i gynnal eu cyfarfod wyneb-yn-wyneb a hithau’n genedl sydd wedi ymrwymo i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), sy’n golygu bod angen i bob corff cyhoeddus ymrwymo i ddatblygiad cynaliadwy sy’n ystyried anghenion a’r effeithiau ar y rhai a ddaw ar ein holau. Mae’r polisi hwn wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang gyda’r Cenhedloedd Unedig yn cytuno’n ddiweddar ar gytundeb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ochr yn ochr â hyn, Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i gael ei chydnabod yn ffurfiol fel Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF: dinas sydd â phlant a phobl ifanc wrth ei chalon. Ymunodd cydweithwyr o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Caerdydd sy’n Dda i Blant gyda ni yn ystod yr ymweliad i rannu mwy am eu gwaith a’u blaenoriaethau gan ganolbwyntio’n benodol ar y rôl y mae diwylliant a’r cyfryngau yn ei chwarae yn eu gwaith. 

Ymweliad â Boom Cymru, Bae Caerdydd 

Mae Cymru hefyd yn gartref i un o glystyrau mwyaf y DU o gwmnïau sgrîn. Wedi’i alluogi gan gyfleusterau, sgiliau a thalent o ansawdd uchel ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol mewn arloesi, gan gynnwys y rhaglen Media Cymru a ariennir gan Strength in Places UKRI, mae clwstwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi gweld twf sylweddol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae data diweddar wedi datgelu bod trosiant yn y sector cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi tyfu 55% dros y 5 mlynedd ddiwethaf – yr uchaf ar gyfer unrhyw ddinas yn y DU gan gynnwys Manceinion a Birmingham.  

Gwnaethom rannu taith arloesi cwmnïau cynhyrchu creadigol a darlledwyr Caerdydd tuag at nodau cyffredin i wneud ein sector yn wyrddach, yn decach ac yn fwy byd-eang ei feddylfryd gyda rhai datblygiadau newydd sylweddol, gan gynnwys lansiad diweddar stiwdio uwchgynhyrchu fivefold, Canolfan Darlledu Cymru a rhaglenni Ymchwil a Datblygu XR a lleoliad Bocs Canolfan Mileniwm Cymru. Ymwelodd cynrychiolwyr â BBC Cymru Wales, ITV Wales a Boom Cymru i glywed am eu gwaith gyda chynulleidfaoedd ifanc. Roedd yn wych cael cyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chyfoedion yng Ngwlad y Basg, lle ceir cyfleoedd a heriau ieithyddol a diwylliannol tebyg. Yn arbennig, mwynhaodd y cynrychiolwyr glywed gan Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C, am y brand Hansh sy’n parhau i dyfu yng Nghymru a thu hwnt.  

Ymweliad Future Media Hubs â Chaerdydd — gyda yr Athro Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru

Ymweliad â BBC Cymru Wales, Sgwâr Canolog, Caerdydd 

Roedd gan bob un ohonom ni un peth yn gyffredin: roedden ni’n cydnabod bod cyflymder a chyfradd rhyfeddol newid yn dod â llwyth anhygoel o heriau i’r sector – gan wneud arloesedd yn elfen hanfodol i’n galluogi ni i gystadlu’n lleol ac ar lwyfan byd-eang. Rhannodd pob un o aelodau Future Media Hubs eu prosiectau/themâu diweddaraf neu bwysicaf, a oedd yn cylchdroi o amgylch ymagweddau newydd at newyddion ac adrodd straeon, fformatau newydd, brandiau cyfryngau cymdeithasol, gemau addysgol a phrosiectau dysgu gydol oes, creu cefnogwyr, perthnasau/bondiau a chymunedau. Mae’n bosibl mai’r thema a drafodwyd amlaf oedd ymddiriedaeth a dilysrwydd. Mae cynulleidfaoedd ifanc yn llywio amgylchedd sy’n llenwi eu meddyliau â gwybodaeth, felly mae’n rhaid ennill dilysrwydd – her yr oedd yr holl gynhyrchwyr cyfryngau y siaradon ni â nhw yn ymwybodol iawn ohoni. 

Roedd ffocws mawr hefyd ar dechnoleg fel galluogwr, ond nid ateb. Amlinellodd Pennaeth Future Media Hubs, Sarah Geeroms fod angen mawr i gyfryngau Ewropeaidd flaen-gydweithredu ar themâu fel data ac AI, ymddiriedaeth a thryloywder, fformatau a phrofiadau newydd ac arloesiadau modelau busnes. 

Dywed Sarah Geeroms, Pennaeth Future Media Hubs:

“Future Media Hubs yw'r rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau cyfryngau sy'n canolbwyntio ar bynciau arloesedd trwy rannu gwybodaeth a chydweithio. Rydyn ni’n credu'n gryf bod angen i gyfranogwyr lleol yn Ewrop gydweithio er mwyn parhau i fod yn berthnasol ac yn gystadleuol yn fyd-eang. Er mwyn sefydlu cydweithrediadau, mae'n bwysig cwrdd â'n gilydd wyneb yn wyneb, a dyna pam rydyn ni'n trefnu'r digwyddiadau hyn gyda'n haelodau bob blwyddyn. Roedd Media Cymru mor garedig i gynnal ein Next Generation Hub eleni yma yng Nghaerdydd ac rydyn ni’n edrych ’mlaen at weld pa gydweithrediadau fydd yn datblygu o'r digwyddiad hwn.” 

Roedd y cynulliad hwn o genhedloedd yn ymwneud â mwy na dim ond rhannu gwybodaeth a hyrwyddo mentrau masnachol llwyddiannus. Tanlinellodd bwysigrwydd rhwydweithio, deialog ryngddiwylliannol a rhannu syniadau, llwyddiannau a heriau yn agored. Yn yr ymweliad â gofod Crewyr Cynnwys Digidol Gwasanaethau Ieuenctid Caerdyddrhannodd myfyriwr o’r Unol Daleithiau sut roedd hi, ddwy flynedd yn flaenorol, wedi cymryd rhan mewn taith gyfnewid rhwng ei hysgol uwchradd hi yng Nghaliffornia (sy’n arweinydd ym maes addysg ddarlledu, lle’r oedd yr ysgol yn hyfforddi myfyrwyr o 11 oed i gynhyrchu bwletin darlledu dyddiol) a Chaerdydd. Gwnaeth y daith gyfnewid rhwng Caerdydd a Chaliffornia adeiladu pont rhwng dau le, gan ei galluogi i deithio i Gaerdydd i helpu gyda’r gwaith o gyflwyno’r Ysgol Haf Crewyr Cynnwys Digidol yn 2023 a’i hannog wedyn i ddilyn gradd israddedig yn yr Ysgol Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi 2024. Mae bellach yn mentora’r crewyr cynnwys ifanc addawol yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu’r hyder, y set o alluoedd digidol a’r ddawn greadigol a fydd yn eu rhoi ar lwybrau ar gyfer y dyfodol. Mae’n ysbrydoledig gweld, yn ogystal â’r fantais hon o ran “sgiliau”, fod cyfoethogi diwylliannol a chyfnewid hefyd wrth wraidd y prosiectau hyn.  

Ymweliad Future Media Hubs â Chaerdydd — gyda yr Athro Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru

Gofod Grassroots Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd 

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn haeddu canmoliaeth arbennig am y gwaith arloesol maen nhw’n ei wneud i ddatblygu sgiliau, hyder a chyfleoedd i bobl ifanc yn y ddinas o amgylch cynhyrchu digidol a chynnwys. O gerddoriaeth a phodledu i adrodd straeon a chynhyrchu, mae’r bobl ifanc maen nhw’n ymgysylltu â nhw yn datblygu dealltwriaeth o’r posibiliadau ar gyfer y diwydiannau creadigol a defnyddio’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Creadigrwydd a meddwl beirniadol yw dau o’r sgiliau mwyaf hanfodol ar gyfer yr economi fyd-eang yn ôl OECD, felly mae’n hanfodol bod pobl ifanc ym mhobman yn cael yr un cyfle i ymgysylltu â rhaglenni fel y rhain. Roedd yn hyfryd gweld criw o bobl ifanc Caerdydd yn croesawu ein cynrychiolwyr rhyngwladol fel ffrindiau, yn arddangos eu sgiliau cyfweld, podledu a chynhyrchu ac yn cymdeithasu gyda rhai o’r cynrychiolwyr mwyaf dylanwadol o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr Ewropeaidd. Roedd hi’n dasg enfawr yn sicr, ond fe aethon nhw i’r afael â hi yn ddi-ffws ac yn broffesiynol. Mae angen i ni weld mwy o’r lefel hon o adnoddau, ymrwymiad a buddsoddiad mewn pobl ifanc fel y gallan nhw hefyd deimlo bod ganddyn nhw rôl a lle yn y diwydiannau creadigol.  

Yn olaf…  

Diolch o galon i Future Media Hubs am gynnig egni newydd ac ysgogiad i ehangu ein cylch dysgu, i droi at eraill a chael ein hysbrydoli gan eu dysgu. Er bod pobl ifanc a’r sectorau creadigol yn wynebu cyfres o heriau digynsail yn fyd-eang, mae hwn hefyd yn amser delfrydol i arloesi ac ateb yr her. Mae cymaint mwy i’w drafod, i’w ddysgu, i’w rannu. Ond mae hon yn sgwrs barhaus. 

 O ran ein ffrindiau yn Next Generation Hub Future Media Hubs, welwn ni chi yn 2025…