string(41) "/cym/events/lansio-cronfa-ddatblygu-2025/" 43844511 Skip to main content
int(4384) 43844511
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 20.12.2024

Lansio Cronfa Ddatblygu 2025

Dyddiad: 10.02.2025

Amser: 9:30 - 11:45 am

Lleoliad: sbarc|spark Maindy Road Cardiff CF24 4HQ

Oes gennych chi syniad am gynnyrch, gwasanaeth neu brofiad sy’n seiliedig ar arloesedd yn y sector cyfryngau? Os felly, gallech chi wneud cais am hyd at £50,000 o Gronfa Ddatblygu Media Cymru. 

Yn y digwyddiad hwn, byddwch chi’n:

  • Dysgu am y gronfa ymchwil a datblygu (R&D) newydd, gan gynnwys manylion am sgôp a chymhwysedd y gronfa a’r broses ymgeisio
  • Clywed gan brosiectau ymchwil a datblygu blaenorol Cronfa Ddatblygu Media Cymru
  • Cael cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod y gronfa gydag aelodau o dîm Media Cymru neu brosiectau a ariannwyd yn flaenorol
  • Cysylltu a rhwydweithio â phobl a chwmnïau sy’n gweithio ar draws y sector cyfryngau yng Nghymru.

Bydd lluniaeth ar gael.

Gwybodaeth am Gronfa Ddatblygu Media Cymru  

Mae Cronfa Ddatblygu Media Cymru yn galluogi unigolion a chwmnïau yng Nghymru i wneud cais am rhwng £10,000 a £50,000 ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu arloesol gyda chynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau yn y sector cyfryngau.