Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 14 Ionawr 2025
Sicrhau tegwch yn sector cyfryngau’r DU – gan Mel Rodrigues
Mae angen mwy o chwarae teg yn sector y cyfryngau yn y Deyrnas Unedig – a gallai Cymru baratoi’r ffordd at ddyfodol mwy disglair…
Blog gwestai gan Mel Rodrigues
Fy nghefndir
Efallai y dylwn i ragflaenu’r darn hwn gyda stori am eneth fach (fi!) oedd yn arfer dod i Gaerdydd bob Pasg i ymweld â’i Mam-gu. Roedd fy Mam-gu – Blandina Fernandes Rodrigues – yn Gymraes ddŵad falch. Cafodd ei geni yn Goa ganrif yn ôl, ac yn 1948 fe’i cafodd ei hun ar gwch i Mombasa yn Kenya lle cyfarfu â’i gŵr newydd – fy Nhad-cu. Saesneg oedd ei thrydedd iaith – a Chymraeg oedd ei phedwaredd.
Wyddwn i ddim ar y pryd, ond fel yr unig deulu Goa-Kenya-Caerdydd yn Sblot, roeddwn i’n cael gwers bywyd enfawr am werthoedd cynhwysiant, amrywiaeth a derbyniad – a dynameg cymdeithasau amlddiwylliannol.
Cymru – cymdeithas amlddiwylliannol
- Yng Nghaerdydd, gwyddom o Gyfrifiad Caerdydd 2021 fod gennym y cyfrannau uchaf o bobl yng Nghymru sy’n nodi eu bod yn Fwslimiaid (sef 9.3%), Hindŵ (1.5%) a Sikh (0.4%), a’r gyfran ail uchaf o bobl sy’n nodi eu bod yn Fwdhyddion (0.4%).
- Mae 2.9% o boblogaeth Cymru yn nodi eu bod yn Asiaid, yn Asiaid Cymreig neu’n Asiaid Prydeinig ac mae 1.6% o’r boblogaeth yn nodi eu bod o grwpiau ethnig Cymysg neu luosog. Mae tua 1% yn nodi eu bod yn Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd.
- Gwyddom o Gyfrifiad Caerdydd 2021 fod 21.1% o bobl – dros un mewn pump – yn nodi eu bod yn F/fyddar, Anabl a/neu’n Niwrowahanol (DDN).
- ‘Cenhedlaeth Z’ – sef y genhedlaeth fwyaf ethnig-amrywiol, niwrowahanol a rhywedd-hylifol mewn hanes – fydd y genhedlaeth fwyaf ar y Ddaear maes o law.
Mae newidiadau demograffig i’w gweld o gwmpas y byd hefyd – bydd pobl o grwpiau Mwyafrif Ethnig Byd-eang yn cyfrif am dros hanner poblogaeth yr Unol Daleithiau erbyn 2044.
Yn ôl data’r DU, “gydag 1 o bob 4 o boblogaeth Cymru bellach yn nodi eu bod yn anabl, a llai nag 8% o gynrychiolaeth F/fyddar, Anabl a Niwrowahanol (DDN) ar y sgrin a’r tu ôl iddi, ni fu erioed amser pwysicach i siarad am hygyrchedd yn ein sector…” (Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch 2024). Fodd bynnag, does dim ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru ac mae’r ffigwr yn debygol o fod yn llawer uwch na hyn.
Ond os ydym yn byw mewn cyfnod o newidiadau cyflym, pam mae rhai sectorau – fel y diwydiannau creadigol – i’w gweld yn araf iawn o ran sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant? Am sector sy’n ymfalchïo mewn arloesedd, blaengarwch a chynrychiolaeth, pam nad ydym yn gwneud llawer o gynnydd ar hyd a lled Prydain?
Rydyn ni’n byw ac yn gweithio mewn byd o amrywiaeth. Mae gan ein cynulleidfaoedd a’n gweithlu hunaniaeth, anghenion a safbwyntiau lluosog. Mae gennym ddyletswydd i adlewyrchu’r holl ehangder, harddwch a chymhlethdod hwn wrth greu ein rhaglenni – a hynny ar y sgrin ac oddi arni. Os na wnawn ni, rydym mewn perygl o fynd yn amherthnasol i gynulleidfaoedd, a wnaiff ein diwydiant ddim denu’r meddyliau creadigol gorau – o bob grŵp.
Denu, cadw a datblygu talent yn niwydiannau sgrin y DU
Mae gennym broblem yn y Deyrnas Unedig o ran denu, cadw a datblygu talent. Canfu adroddiad ScreenSkills ar Deledu Di-sgript (2022) fod prinder sgiliau a thalent mewn ambell faes ym mhob rhan o Brydain. Er bod yr argyfwng comisiynu presennol wedi arwain at ddirywiad sydyn yn y rolau sydd ar gael, mae her yn ein hwynebu o hyd i geisio sicrhau bod gweithlu medrus a phrofiadol yn ei le mewn meysydd allweddol pan ddaw’r busnes yn ei ôl. Yng Nghaerdydd rydym yn brin o Gynhyrchwyr Datblygu, Cynhyrchwyr arbenigol, Rhedwyr Sioe, yn ogystal â rolau rheoli cynhyrchu, yn ôl Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru a gynhaliwyd gan ein cydweithwyr ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae ein llwybr gyrfa’n llawer rhy gul. Mae doniau disglair o ystod eang o grwpiau naill ai’n cael eu cau allan, neu os ydyn nhw wedi llwyddo i ddod i mewn, maen nhw’n ei chael hi’n anodd cynnal a datblygu gyrfa. Bydd llawer ohonyn nhw’n gadael. Mae’r argyfwng comisiynu’n gwneud y sefyllfa’n waeth – mae’r arolwg diweddaraf gan BECTU (Gorffennaf 2024) yn nodi ein bod yn wynebu ‘all-lif enfawr o sgiliau yn y diwydiant teledu’, gyda bron i bedwar o bob 10 (38%) o weithwyr ffilm a theledu yn bwriadu gadael y sector o fewn pum mlynedd. Mae cyfran y gweithwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy’n bwriadu gadael y diwydiant yn sylweddol uwch, gyda bron i hanner (44%) yr ymatebwyr Croenddu, 41% o ymatebwyr Asiaidd, a 40% o ymatebwyr o grwpiau ethnig cymysg neu luosog yn nodi eu bod yn bwriadu gadael, o gymharu â 37% o ymatebwyr gwyn.
Hyd yn oed cyn i’r argyfwng comisiynu daro, roedden ni’n gwybod bod gennym broblem a bod talent o grwpiau tan-gynrychioledig yn gadael neu’n wynebu rhwystrau oedd yn eu hatal rhag datblygu eu gyrfa. Yn ôl data monitro amrywiaeth, mae’n debyg fod mwyfwy o bobl o grwpiau ethnig Du, Asiaidd ac eraill sydd ddim yn wyn yn cael eu recriwtio – sef y Mwyafrif Ethnig Byd-eang – ond eu bod yn dal i fod wedi’u clystyru mewn swyddi is ac wedi’u tangynrychioli ar lefelau uwch lle caiff penderfyniadau eu gwneud.
- Cynhyrchwyr, Cyfarwyddwyr a Chynhyrchydd-Gyfarwyddwyr Du yw 2.8% o’r gweithlu mewn swyddi uwch.
- Dydi nifer y bobl F/fyddar, Anabl a Niwrowahanol sy’n gweithio oddi ar y sgrin ddim yn agos o gwbl at y lefel ym mhoblogaeth y DU, sef 20%. Tua 8% yw’r ganran. Os daliwn ati ar yr un llwybr, bydd cyfran y gweithwyr teledu a ffilm sy’n niwrowahanol (DDN) yn lleihau dros y pum mlynedd nesaf.
- Yn eu hadolygiad pum mlynedd o’r sector Ffilm a Theledu yn y Deyrnas Unedig, canfu OFCOM (rheoleiddiwr diwydiannau cyfathrebu’r DU) fod menywod yn fwy tebygol o fod yn gadael byd teledu nag yn ymuno.
- Mae gweithlu’r cyfryngau yng Nghymru yn amlygu maint yr her. Yn ôl Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru gan Media Cymru a Phrifysgol De Cymru mae tystiolaeth fod llai o fenywod rhwng 31-50 oed yn aros yn y diwydiant er bod mwy o fenywod yn cael eu recriwtio ar lefel mynediad. Mae gan tua hanner y gweithlu gyfrifoldebau gofalu; roedd 70% o fenywod oedd â chyfrifoldebau gofalu rhwng 26-50 oed wedi ystyried gadael y diwydiant.
“Rhaid i ddarlledwyr weithio’n galetach i fod yn arweinwyr newid. Mae’r Deyrnas Unedig yn gymysgedd cyfoethog o ddiwylliannau a hunaniaethau y mae pobl yn ddigon teg yn disgwyl eu gweld wedi’u hadlewyrchu ar y sgrin ac o fewn diwydiannau creadigol. Gwyddom, o’n hymchwil helaeth i’r gynulleidfa, boed yn adolygiad cynrychiolaeth a phortreadu, ein hadolygiad o newyddion a materion cyfoes neu ein hadolygiad cyfredol o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, bod pobl eisiau gweld a chlywed pobl fel nhw eu hunain ar y sgrin. Mae sicrhau mwy o amrywiaeth o flaen a thu ôl i’r camera – ac ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau – yn allweddol.” Vikki Cook, Cyfarwyddwr Polisi Darlledu a’r Cyfryngau, Ofcom
Creu ecosystem amrywiol a chynhwysol yn y cyfryngau
Gall hyn deimlo fel mynydd amhosibl i’w ddringo, ond mae’r data’n rhoi pwysigrwydd newydd i’r angen i ganolbwyntio ein hymdrechion, gweithio gyda’n gilydd a chreu ecosystem iach, doreithiog yma yng Nghymru lle gellir mynd i’r afael â phroblemau strwythurol mawr.
Felly, ble mae dechrau? Mae llu o resymau economaidd, addysgol, strwythurol a diwylliannol trawsbynciol pam fod pobl sydd â sgiliau gwych a photensial enfawr yn credu nad yw gyrfa mewn teledu ac ymarfer creadigol yn agored iddynt. Fydd yna ddim un ateb i bawb, ond gallwn ddechrau gwneud gwaith dyfnach mewn meysydd allweddol.
Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn faes lle rwy’n credu y gallem ni, fel grŵp, gael effaith wirioneddol yng Nghymru. Allwn ni ddim parhau i fod yn sector sydd ddim ond yn cadw’r bobl sy’n gallu fforddio gweithio ynddo.
Rwy’n falch o weld bod Media Cymru wedi cynnwys egwyddorion twf economaidd teg a gwyrdd fel rhan greiddiol o’u rhaglen i drawsnewid y sector gan gydweithio â 22 o gyfryngau mwyaf dylanwadol Cymru i adeiladu sector cyfryngau gwirioneddol deg.
Mae’n dechrau gyda phob un ohonom. Mae angen i ni edrych yn gwbl onest ar ddiwylliant presennol ein sefydliadau. Mae angen edrych drwy chwyddwydr beirniadol ar ein polisïau a’n prosesau presennol o ran Adnoddau Dynol, recriwtio, a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
Mae’r sector teledu a ffilm yn y DU wedi cymryd camau pwysig yn y degawd diwethaf i fynd i’r afael â’r heriau o ran amrywiaeth a chynhwysiant, ac mewn sawl ffordd mae’n arwain y ffordd wrth ddyfeisio atebion sydd wedi’u seilio ar realiti ac sy’n adlewyrchu’r rhesymau cymhleth a chroestoriadol pam rydym yn methu sicrhau cynrychiolaeth dda – yn enwedig mewn swyddi canol/uwch a swyddi sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau.
Mae cael darlledwyr i osod targedau amrywiaeth wedi bod yn gam pwysig i asesu ble rydym ac anelu at newid. Mae’r ffaith fod llawer o gynyrchiadau’n methu eu cyflawni wedi peri inni edrych yn ddyfnach ar ein diwylliannau gwaith a gofyn pam ein bod yn colli cymaint o dalent o’r gweithlu, tra bod gweithwyr eraill mewn rhigol ac yn methu dod yn eu blaen.
Mae’r holl dystiolaeth yn pwyntio at ddiwylliannau gwaith – natur llawrydd y gweithlu, ynghyd ag oriau hir ac arferion cyflogi anffurfiol – sy’n cyfuno i greu diwydiant sy’n cau pobl allan, ac sydd weithiau’n anhygyrch i lawer o bobl.
Ond mae ceisio ailosod cwmni cynhyrchu – heb sôn am ddiwydiant cyfan – i fod yn gynhwysol mewn modd ystyrlon a chynaliadwy, yn anodd iawn. Mae’r strwythurau a’r arferion presennol ar gyfer cyflogi talent a rhedeg timau creadigol yn bodoli ers degawdau ac maen nhw’n seiliedig ar allu ymateb yn gyflym i gomisiynau – yn aml gyda chyllideb dynn ac amserlen uchelgeisiol.
O ganlyniad, mae penaethiaid cynhyrchu yn gorfod ail-ddysgu’r ffordd maen nhw’n cynllunio sesiynau ffilmio, yn recriwtio timau/talent ac yn llunio diwylliannau gwaith. Mae’n waith manwl ofalus – mae pob sefyllfa’n wahanol – ond mae’n arwain at newid cyffrous ac arloesol yr ydym wedi dechrau ei weld yng Nghymru.
Rhaglen Hyfforddi Cyflymydd Cynhwysiant Cymru
Eleni, cymerodd y garfan gyntaf o 10 o gwmnïau annibynnol ran yng nghynllun Cyflymydd Cynhwysiant Cymru – rhaglen o hyfforddiant, mentora a dadansoddi data a gomisiynwyd gan Brifysgol De Cymru a’i rhedeg gan Gritty Talent, Media Cymru, Channel 4 a BBC Cymru Wales.
“Yn ddiweddar cymerodd Triongl ran yn y gweithdai Cyflymydd Cynhwysiant a ddarparwyd gan Gritty Talent ar ran Media Cymru a PDC. Roedd yn amhrisiadwy cael y cyfle i drafod yn agored yr heriau unigryw i gynhwysiant a wynebwn yma yng Nghymru; cael darlun o ble rydym ni fel diwydiant ac fel cwmni unigol a nodi’r targedau i anelu atynt a sut i gyrraedd yno. Yn sgil y data a gasglwyd ac a ddosbarthwyd rhyngom fel grŵp, ynghyd â sgyrsiau gonest gyda’r cwmnïau annibynnol eraill yn yr ystafell, fe ddaethom oddi yno’n teimlo ein bod wedi’n grymuso a’n harfogi â’r arfau i wneud y newidiadau y mae pawb ohonom eisiau’u gwneud.” Nora Spiteri, Triongl
Mae’r data o’r gronfa dalent, ynghyd â rhwydweithio a gweithgareddau grŵp, wedi arfogi ugain a mwy o uwch arweinwyr â’r wybodaeth a’r offer i greu amgylcheddau hygyrch i dalent B/byddar, Anabl a/neu Niwrowahanol, yn ogystal â chyfuno adnoddau i recriwtio a datblygu talent o bob grŵp sydd wedi’i dangynrychioli. Ein nod yw y gall hyn fod yn batrwm gweithio cynhwysol i’r clwstwr cyfan – ac efallai hyd yn oed i’r diwydiant yn gyffredinol.
“Holl amcan Prifysgol De Cymru yw darparu gweithlu creadigol i’r dyfodol a’u galluogi i adrodd straeon mwy amrywiol. Gyda’r Cyflymydd Cynhwysiant roeddem eisiau canolbwyntio ar sicrhau “chwarae teg” yn y gweithle ac yn benodol cefnogi ein sector annibynnol gwych i greu straeon anhygoel, beiddgar, arloesol am Gymru gyfan yn y ffordd fwyaf cynhwysol posibl.” Richard Hurford, Prifysgol De Cymru
Camau gweithredu i’r diwydiant
Yn sgil proses mor ddwys gyda’r garfan hon, dyma dri cham blaenoriaeth yr hoffwn annog cwmnïau a sefydliadau i ymrwymo iddynt, i ddechrau cyflawni newidiadau diriaethol a mesuradwy:
- Ysgrifennwch ddatganiad Mynediad: dychmygwch orfod gofyn bob tro wrth anfon eich CV at rywun, a oes mynediad heb risiau, lle tawel i roi saib oddi wrth y sgrin, neu ddesg addasadwy. Os ewch ati’n rhagweithiol i ddarparu’r wybodaeth hon bydd talent yn fwy tebygol o fod eisiau dod i weithio i chi achos fydd dim rhaid iddynt ofyn y cwestiynau lletchwith hyn, dim ond dod i mewn a bwrw ymlaen â’u gwaith.
- Edrychwch pa fylchau talent ac amrywiaeth sydd gennych: mae gan bob darlledwr yn y DU a’r rhan fwyaf o rai rhyngwladol dargedau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) penodol erbyn hyn. Dychmygwch fyd lle rydych chi wedi gwneud y gwaith hwn yn rhagweithiol, fel eich bod, wrth siarad â’ch comisiynydd, eisoes yn gwybod sut olwg sydd ar eich tîm a ble i roi ymdrech wrth recriwtio fel y gallwch chi roi hyn yn eich cyllideb staff a hyfforddiant. Pan fyddwch chi’n gwybod beth yw eich bylchau mwyaf o ran amrywiaeth a chynhwysiant, dewiswch un grŵp o bobl ac ymrwymwch i weithio gyda nhw am flwyddyn. Cynigiwch fentora, gweithdai camera, cysgodi. Yn gyfnewid am hyn, cewch y dalent orau o blith y grŵp hwnnw a byddant eisiau dod atoch chi am eu bod nhw wedi gweld sut rydych chi wedi buddsoddi ynddynt.
- Ysgrifennwch y gwaith hwn i mewn i’ch cyllideb: mae pob prif ddarlledwr yn y DU wedi ymrwymo miliynau o bunnoedd i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant. Rwyf wedi gweithio gyda chynyrchiadau sydd wedi mynd at eu comisiynwyr, wedi egluro’u cynllun i recriwtio talent o grwpiau penodol i wella’u Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), ac wedi rhoi cynlluniau manwl o’r hyfforddiant a’r uwchsgilio a fydd yn digwydd yn oes y cynhyrchiad hwnnw i sicrhau bod talent yn cael datblygu. Mae’n anodd iawn gwrthod cynllun da gyda chanlyniadau clir. Yn enwedig os oes gennych gylch cynhyrchu hir, os gallwch chi addo uwchsgilio talent yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r llinell yn symud ac yn ysgwyd i’r cyfeiriad cywir.
Mae’n galonogol iawn gweld yr ymrwymiad yn y sector wrth i gwmnïau a darlledwyr weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod cynhwysiant yn digwydd yn ymarferol. Dros yr haf gwelwyd chwydd o gefnogaeth a gwelededd i arferion gwaith amrywiol yn ystod Gemau Paralympaidd Paris 2024 a phan gyhoeddwyd Adroddiad Cyflymydd Cynhwysiant Cymru.
Yn ogystal, bu fy nhîm yn Gritty Talent yn gweithio gyda Media Cymru ac eraill i gynnal yr ail Uwchgynhadledd ar Ddyfodol Hygyrch ym mis Medi 2024. Roedd cyfranogiad y sector yn anhygoel ac roedd yn galonogol gweld cymaint o gefnogaeth a diddordeb.
Mel Rodrigues
Mae Mel yn arweinydd busnes sydd wedi ennill gwobrau, yn ymgynghorydd ac eiriolwr dros gynhwysiant, a chanddi ugain mlynedd a mwy o brofiad yn gweithio yn y sector teledu a sgrin ehangach.
Mae ei gyrfa wedi mynd â hi ar draws ystod o rolau cynhyrchu, hyfforddi ac arwain, gan gynnwys bod yn Arweinydd Amrywiaeth Greadigol yn Channel 4.
Yn 2019 sefydlodd ei chwmni ei hun, Gritty Talent, er mwyn cefnogi a datblygu pobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn gyrfaoedd teledu a ffilm.
Mae Mel yn falch o alw Bryste yn gartref ond mae’n hanu o Orllewin Canolbarth Lloegr yn wreiddiol. Yn ei hamser hamdden mae hi hefyd yn Is-gadeirydd Women in Film and TV.
Ym mis Medi 2024 dechreuodd swydd newydd fel Prif Weithredwr Creative Access.
Gritty Talent
Mae Gritty Talent yn gwmni sy’n anelu at gael effaith ym maes talent a thechnoleg, a sefydlwyd gyda’r nod o gyflymu cynrychiolaeth a chynhwysiant yn sectorau creadigol a digidol y DU.