string(92) "/cym/events/digwyddiad-caffir-byd-ar-gyfer-busnesau-bach-a-chanolig-y-diwydiannau-creadigol/" 45464913 Skip to main content
int(4546) 45464913
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 17.02.2025

Digwyddiad Caffi’r Byd ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig y Diwydiannau Creadigol

Dyddiad: 14.03.2025

Amser: 9 am - 1 pm

Lleoliad:

Archwilio sut y gall BBaChau Diwydiant Creadigol Cymru atal, canfod ac ymateb i Gaethwasiaeth Fodern.

Mae caethwasiaeth fodern yn groes difrifol i hawliau dynol, sy’n effeithio ar ddiwydiannau yn fyd-eang, gan gynnwys yng Nghymru. Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern y DU (2015) yn gorfodi cwmnïau mawr i adrodd am eu hymdrechion i atal caethwasiaeth, ond nid yw busnesau bach a chanolig, sy’n ffurfio 99.3% o fusnesau yng Nghymru, yn rhwym i ofynion o’r fath. Er gwaethaf eu maint llai, mae busnesau bach a chanolig yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â chamfanteisio o fewn cadwyni cyflenwi. Mae ymchwil gyfredol wedi canolbwyntio’n bennaf ar gorfforaethau mwy, gan adael bwlch sylweddol o ran deall sut y gall busnesau bach a chanolig fynd i’r afael â’r mater hwn.

Arweinir y prosiect hwn gan dîm o ymchwilwyr o Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) a’i Clwstwr Diwydiannau Creadigol, gyda chefnogaeth Media Cymru. Mae’n ceisio mynd i’r afael â sut mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn atal, canfod ac ymateb i Gaethwasiaeth Fodern. Ei nod yw creu fframwaith i hwyluso rheoli risg caethwasiaeth fodern mewn busnesau bach a chanolig.

Pwy sy’n trefnu’r digwyddiad hwn?

Mae tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd yn cynnwys Dr Maryam Lotfi a Dr Anna Skeels Cyd-gadeiryddion Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol y Brifysgol; a Dr Marian Buhociu o Brifysgol De Cymru. Bydd staff Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Media Cymru yn bresennol ac yn cefnogi.

Beth yw’r ffocws?

Archwiliad rhyngweithiol o’r heriau a wynebir ac atebion posibl ar gyfer atal, canfod ac ymateb i MS mewn BBaChau. Bydd y data a gesglir yn bwydo i mewn ac yn cael ei ddadansoddi fel rhan o’r ymchwil i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli risg caethwasiaeth fodern mewn BBaChau.

Pwy ddylai fynychu?

Cynrychiolwyr o BBaChau Diwydiannau Creadigol Cymru ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – rheolwyr cynaliadwyedd, Prif Weithredwyr, sylfaenwyr, cydlynwyr EDI, swyddogion lles a rolau perthnasol eraill.

Manylion y digwyddiad

Sesiwn hyfforddi fer ar reoli risg caethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi gyda ffocws penodol ar yr angen am BBaChau, a cyfle i hwyluso trafodaethau grŵp ffocws ar gwestiynau ymchwil allweddol mewn cylchdro (dull ‘caffi’r byd’). Bydd mewnbynnau yn cael eu recordio a chymerir nodiadau (dienw).