string(122) "/cym/research/ideas-are-really-supporting-collaborative-dialogues-and-community-of-practice-for-innovation-via-core-cards/" Skip to main content
Research

Published: 26 Mai 2024

Authors: Andrew Walters, Jo Ward, Safia Najwa Suhaimi

“Ideas are really…” – supporting collaborative dialogues and community of practice for innovation via CO:RE cards

Edrych i lawr ar fwrdd lle mae pobl yn defnyddio'r cardiau, gyda phaned o goffi a gliniadur wrth eu hochr.

Ffotograff: Alex Sedgmond

Wedi ei gyhoeddi yn:
Suhaimi, S. N., Walters, A., & Ward, J. (2024). ‘“Ideas are really…” – supporting collaborative dialogues and community of practice for innovation via CO:RE cards’, Proceedings of the Design Society, 4, 1105–1114. doi:10.1017/pds.2024.113

“Dysgwyd bod deialogau cydweithredol gan ddefnyddio Cardiau CO:RE yn annog rhannu gwybodaeth ddealledig, datblygu gwybodaeth ar y cyd, dysgu ar y cyd a chreu ystyr cydweithredol sy’n mynd i’r afael â’r elfennau gofynnol i ffurfio Côd Ymarfer.”

Mae’r astudiaeth hon yn trin a thrafod manteision integreiddio cardiau i ysgogi trafodaethau am arloesedd mewn amgylchedd deialog cydweithredol ymhlith ymarferwyr y diwydiant creadigol. Nod yr awduron yw dangos sut y gall Cardiau CO:RE, pecyn cardiau cydweithredol a myfyriol a ddatblygwyd yn seiliedig ar Ymchwil a Datblygu (R&D) ac awgrymiadau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gael eu defnyddio i ysgogi deialog gydweithredol a dealltwriaeth a rennir ymhlith ymarferwyr nad ydynt yn dylunio.

Four categories in the CORE Cards deck

Cafodd defnyddio Cardiau CO:RE ei werthuso mewn tair sesiwn mewn amgylchedd deialog cydweithredol, a oedd yn darparu ar gyfer carfannau rhaglenni cymorth Ymchwil a Datblygu Media Cymru yn unig. Dadansoddwyd eu bod wedi ysgogi meithrin iaith a dealltwriaeth gyfunol ymhlith ymarferwyr creadigol trwy greu gwybodaeth ar y cyd a dysgu cydfuddiannol. Trafodwn rôl sylweddol bosibl cardiau CO:RE wrth feithrin cymuned ymarfer ar gyfer arloesi yn y diwydiannau creadigol.

Darllenwch yr erthygl