string(35) "/cym/research/supercluster-scoping/" Skip to main content

The Cardiff Capital Region and West of England Creative Supercluster: Scoping study

Golygfa o Bont Hafren hanner ffordd ar ei thraws mewn car, yn edrych i fyny ar y ceblau crog.

Wedi ei gyhoeddi yn: Fodor, M., Leaver, M., Boswell, M., Lewis, J., Pepper, S., & Bull, D. (2024). The Cardiff Capital Region and West of England Creative Supercluster: Scoping study. Centre for the Creative Economy.

“Mae proffiliau cyfunol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gorllewin Lloegr yn gyfystyr ag uwch-glwstwr creadigol o raddfa sylweddol, sy’n cynnwys 14,500 o fusnesau sy’n cyflogi mwy na 63,000 o staff amser llawn”

Arweinir y prosiect hwn ar y cyd gan Media Cymru a MyWorld: dwy raglen ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n seiliedig ar leoedd a ariennir gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesi y DU, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste. Gan adeiladu ar fewnwelediadau a deilliannau dwy raglen ymchwil ac arloesi blaenllaw’r DU sy’n canolbwyntio ar yr economi greadigol, ei nod yw fframio a gwerthuso’r cysyniad o ‘uwch-glwstwr creadigol’ sy’n rhychwantu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gorllewin Lloegr, gan archwilio lle gallai cydweithredu yn y dyfodol rhwng y clystyrau creadigol rhanbarthol bywiog hyn ddatgloi cyfleoedd masnachol a chreadigol newydd.

Darllenwch yr erthygl