Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Published on: 19 Mai 2023
Hybiau Creadigol a Deialog Rhyngddiwylliannol — Tuag at Naratif Economaidd-gymdeithasol Newydd

“…mae hybiau creadigol yn creu deialog rhyngddiwylliannol ar lefel weithredu ar ffurf cyfarfod, cyfathrebu, disgwrs a dysgu neu hyfforddiant.”
Mae’r papur hwn yn dadlau bod hybiau creadigol yn galluogi a churadu deialog rhyngddiwylliannol. Gan adeiladu ar brosiect a ariannwyd yn rhyngwladol, oedd yn dwyn ynghyd hybiau creadigol o Dwrci, Groeg, Serbia a’r DU, cynhaliwyd ymchwil drwy ddadansoddiad arolwg yn y gwledydd hyn, gyda 98 o hybiau creadigol a phedwar gweithdy mewn mannau cydweithio (gan gynnwys 29 o arbenigwyr hybiau creadigol).
Ar sail y data a gasglwyd, mae’r papur hwn yn awgrymu fframwaith newydd ar gyfer deall deialog ryngddiwylliannol mewn canolfannau creadigol trwy eu priodoleddau gofodol a diwylliannol, yn ogystal â thrwy eu lefelau gweithgarwch. Mae’r canfyddiadau yn cefnogi’r ddadl dros newid o naratif economaidd i economaidd-gymdeithasol am hybiau creadigol.