Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Published on: 25 Mawrth 2025
Yn olaf, y tu hwnt i’r norm? Dadansoddi’r camau a roddwyd ar waith i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn sector clyweledol Ewrop yn sgîl mudiad #MeToo

Cyhoeddiad: International Journal of Cultural Policy
“…yn sgîl mudiad #MeToo, mae’r astudiaeth hon yn dangos bod bwlch o 20–30% rhwng y rhywiau o hyd o ran mynediad a chynrychiolaeth yn sector y cyfryngau clyweledol yn Ewrop…”
Mae’r ymchwil yn archwilio sefyllfa menywod a’r mentrau a roddwyd ar waith i gefnogi menywod yn y sector clyweledol yn Ewrop yn sgîl mudiad #MeToo. Mae’n hastudiaeth yn seiliedig ar theori diwylliannol ffeministaidd beirniadol. Buom yn ymwneud yn bennaf â dadansoddi data eilaidd o ddau wrthrych astudio: (1) adroddiadau ac astudiaethau sy’n amlygu sefyllfa menywod a (2) data eilaidd ar fentrau ac arferion sy’n anelu at newid sefyllfa menywod. Gall llwyddiant mentrau ddibynnu ar strwythur y sefydliad a’r strwythur ariannu, a chefnogaeth gan y cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf o fentrau yn cynnwys cyrff anllywodraethol, darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus (PSB), gwyliau ffilm, sefydliadau cyhoeddus a chyrff ariannu ffilmiau. Yn olaf, rydyn ni’n argymell mynd y tu hwnt i gysyniad gwelededd tra’n mabwysiadu dull gweithredu a chasglu data croestoriadol.