Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Published on: 9 Mai 2024
Rhoi tystiolaeth ar Ymchwil a Datblygu yng Nghymru, Tachwedd 2023

Cyfrannodd yr Athro Justin Lewis gyngor arbenigol ar waith Media Cymru at ymgynghoriad Ymchwil a Datblygu’r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, sydd wedi’i sefydlu gan y Senedd i archwilio polisi a deddfwriaeth ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol mewn meysydd penodol. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach rhyngwladol, amaeth, pysgodfeydd a bwyd.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad bras er mwyn asesu sefyllfa bresennol y dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesedd yng Nghymru ac effeithiolrwydd:
- Ariannu cyhoeddus: gan gynnwys lefelau ariannu; rhwystrau mynediad; gwahaniaethau rhanbarthol ledled y DU a Chymru
- Cydweithio: rhwng prifysgolion a’r diwydiant
- Cefnogaeth i fusnesau Cymru: drwy ymchwil a datblygu
- Dull gweithredu Llywodraeth Cymru: gan gynnwys ei Strategaeth Arloesedd diweddar
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar lafar gan randdeiliaid ar 30 Tachwedd 2023, a chyhoeddodd ei adroddiad ar Ymchwil a Datblygu ym mis Mai 2024.