Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 24.04.2025
Dan Efergan Aardmans, Cyn Gyfarwyddwr Creadigol yn ymweld â Chaerdydd ar gyfer cyfres o weithdai rhyngweithiol.

Ymunwch â Media Cymru a’r Cyfarwyddwr Creadigol, Dan Efergan, ar 13 a 14 Mai 2025 am y diweddaraf yn ein cyfres Arloeswyr Preswyl.
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn arwain cwmnïau adloniant drwy gymhlethdodau diwydiant sy’n newid yn gyflym, Dan Efergan yw’r Arloeswr Preswyl cyntaf ar gyfer 2025.
Dros ddeuddydd o ddigwyddiadau, bydd arbenigwyr arloesedd o Aardman Animations a chwmnïau eraill yn rhannu eu gwybodaeth ar animeiddio stop symudiad, creu gemau ac adrodd straeon drwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, ymchwiliadau prosiect manwl a sesiynau holi ac ateb.
Bydd tri gwestai arbennig yn ymuno â Dan i rannu eu harbenigedd: David Gray, Eve Bolotova a Joshua Baldwin.
Yr hyn i’w ddisgwyl
Yn Media Cymru, rydyn ni’n hoffi darparu ar gyfer bob lefel o wybodaeth.
Bydd agenda’r diwrnod cyntaf yn fwy technegol ar gyfer y rhai sydd â dealltwriaeth o greu gemau a defnyddio Unreal Engine.
Mae’r ail ddiwrnod ar gyfer y rhai sydd â diddordeb cyffredinol mewn adrodd straeon, animeiddio ac arloesedd.
Rhaglen
Diwrnod 1 | Chwarae yn y Dyfodol | Myfyrdodau Cwmni Adrodd Straeon
Dyddiad: 13 Mai 2025
Amser: 9:30 am – 4:30 pm
Ble: Labordy Delweddau, sbarc|spark
Ymchwiliad Prosiect Manwl: The Grinning Man, Arbrawf MyWorld
Fformat: Sgwrs 40 munud gyda Daniel Efergan a sesiwn holi ac ateb am 20 munud.
Golwg gynnar iawn ar ddarn o ymchwil sydd wedi ei greu rhwng Aardman, Tom Morris (cyfarwyddwr dramâu fel War Horse, Touching the Void a The Grinning Man) ac Andy Serkis (actor a sylfaenydd yr Imaginarium). Roedd y prosiect yn archwilio a oes modd addasu recordiad o berfformiad ar lwyfan yn brofiad un i un XR. Bydd Daniel yn trafod y ddamcaniaeth a gynigir, yr heriau a’r casgliadau.
Ymchwiliad Prosiect Manwl: Cynhyrchu Rithwir ar Raddfa Model, Arbrawf MyWorld
Fformat: Sgwrs 40 munud gyda Daniel Efergan, David Gray ac Eve Bolotova cyn sesiwn holi ac ateb am 20 munud.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Aardman wedi bod yn edrych sut gellid defnyddio cynhyrchu rhithwir ar ‘raddfa model’, o fewn eu piblinell stopio-symudiad. Roedd y prosiect yn cynnwys casgliad o archwiliadau a ddyluniwyd ar sail anghenion criw stopio-symudiad Aardman. Roedd yr arbrofion yn cynnwys defnyddio dyblau digidol (gan ddefnyddio Gaussian Splats, ffotogrametreg a ffotometrigau), creu croestoriad rhwng rhyngwynebau real a digidol, ac addasrwydd unedau cynhyrchu rhithwir ar raddfa fawr yn y broses stopio-symudiad araf.
Chwarae Grinning Man (heb ei gadarnhau)
Fformat: Bydd yr arbrawf Grinning Man ar gael i bobl ei chwarae os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.
Gweithdy: Creu Gêm, Archwilio’n Ddyfnach.
Fformat: Gweithdy awr a hanner i ddwyawr dan arweiniad Dan Efergan.
Sesiwn creu gemau ymarferol a llawn cyffro, lle bydd timau’n ystyried stori syml ac yn ei defnyddio yn ystod camau Echdynnu, Archwilio ac Arbrofi cyn cyrraedd prototeip ar bapur o syniad gêm y mae modd ei chwarae (i raddau!). Gallech ddisgwyl sesiwn ymarferol iawn yn cynnwys papur, arlunio, Lego a chlai! O gymharu â sesiwn debyg ar y diwrnod cyntaf, bydd y gweithdy hwn yn archwilio’n ddyfnach i flociau adeiladu creu gemau.
Diwrnod 2 | Anturiaethau mewn Gemau a Thrawsgyfryngau | Myfyrdodau gan gwmni adrodd straeon
Dyddiad: 13 Mai, 2025
Amser: 9:30 am – 4:30 pm
Ble: Labordy Delweddau, sbarc|spark
Ymchwiliad Prosiect Manwl: Prosiect Tate Movie
Fformat: Sgwrs 40 munud, sesiwn holi ac ateb am 20 munud.
Sgwrs gyda Daniel Efergan am brosiect ‘traws-gyfrwng’ cynnar Aardman, lle cafodd miloedd o blant ledled y DU reolaeth greadigol dros ddigwyddiad adrodd straeon cyfranogiad torfol. Bydd yn trafod manylion y prosiect, yn archwilio’r dull gweithredu a’r hyn a ddysgwyd.
Cyfweliad â Joshua Baldwin, Cyn Gyfarwyddwr Gemau Aardman Animations, bellach yn Gyfarwyddwr Creadigol The Chinese Room.
Fformat: Cyfweliadau tri chwarter awr
Sut mae chwarae’n cael ei gyfleu dan arweiniad cymeriadu ac adrodd straeon? Treuliodd Joshua bum mlynedd yn Aardman, yn gweithio ar Eiddo Deallusol (IP) traws-gyfrwng newydd yno, cyn dechrau ar gêm diweddaraf Aardman (Chicken Run: Eggstraction). Mae bellach yn gweithio ar ei brosiect (cyfrinachol) diweddaraf gyda The Chinese Room, stiwdio gemau sydd wedi ennill sawl gwobr BAFTA sy’n cadw stori wrth galon popeth a wnânt drwy’r amser.
Ymchwiliad Technegol Manwl, Cynhyrchu Cynnwys Gweithdrefnol yn Unreal 5
Fformat: Sgwrs 40 munud gyda Jon Quinn a sesiwn holi ac ateb am 20 munud.
I bobl sy’n gweithio gydag Unreal, neu sydd â diddordeb cyffredinol mewn peiriannau gemau, mae’r sesiwn hon yn edrych ar hanfodion system Cynhyrchu Cynnwys Gweithdrefnol newydd Unreal Engine 5, a sut gwnaeth Aardman ei defnyddio i greu lefelau adeiladu yn gyflym ac yn awtomataidd.
Gweithdy: Creu Gemau ar gyfer Storïwyr
Fformat: Gweithdy awr a hanner i ddwyawr dan arweiniad Dan Efergan.
Sesiwn creu gemau ymarferol a llawn cyffro, lle bydd timau’n ystyried stori syml ac yn ei defnyddio yn ystod camau Echdynnu, Archwilio ac Arbrofi cyn cyrraedd prototeip ar bapur o syniad gêm y mae modd ei chwarae (i raddau!).
Gallech ddisgwyl sesiwn ymarferol iawn yn cynnwys papur, arlunio, Lego a chlai!