Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
“Mae arloesedd yn gyfangwbl hanfodol…” Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr y Cenhedloedd y BBC
Rhuanedd Richards yw Cyfarwyddwr y Cenhedloedd y BBC. Mewn cyfweliad arbennig â Media Cymru fel rhan o’n hymgyrch arloesi “Tanio’r Dyfodol”, mae’n rhannu pam fod arloesi yn hollbwysig i ddyfodol y BBC; pam y crëwyd y Gronfa Arloesedd Cynnwys gyda Media Cymru – a’i gobeithion ar gyfer y sector yn y deng mlynedd nesaf.
Media Cymru × BBC Cymru Wales
Rhuanedd Richards ydw i, fi yw Cyfarwyddwr y Cenhedloedd y BBC. Rwy’n gyfrifol am holl wasanaethau a chynnwys y BBC boed ar radio, teledu ac ar-lein ar draws ein llwyfannau ni.
Mae BBC Cymru wedi bod yn gweithio gyda Media Cymru ers rhai blynyddoedd bellach. Ac yn bennaf yn y maes arloesi, yn cyd-weithio ar barnteriaethau er mwyn edrych ar datblygu fformatau newydd, edrych ar datblygu cynnwys newydd ac mae hynnu gyda’r gynelleidfa mewn golwg – edrych ar sut allen ni wasanaethu cynelleidfaoedd newydd a denu cynelleidfaoedd newydd i’n cynnwys ni trwy arloesi. Ac mae wedi bod yn fuddiol iawn i ni – BBC Cymru, i’r gynelleidfa ac yn wir i’r sector ehangach.
Mae arloesedd yn gyfangwbl hanfodol i ddyfodol BBC Cymru. Er mwyn sicrhau bod BBC Cymru yn parhau yn berthnasol i gynelleidfaoedd yn y dyfodol, mae rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n arloesi a bo ni’n ymateb hefyd i sut mae gofynion y gynnelledifa newydd. A dyna pam fod y bartherniaeth yma gyda Media Cymru wedi bod yn bwysig. ‘Y’ni wedi creu’r gronfa yma er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’r sector yn enhangach ac yn arloesi gyda’r chynnwys a gyda thecnoleg, sydd wedi bod yn fuddiol yn sicr.
“Mae’r model comisiynu wedi newid – mae rhaid i ni barhau arloesi….”
Mae’r model comisiynu wedi newid ar draws y diwydiant yn y blynyddoedd diwethaf wrth i ni weld mwy o lwyfannau digidol yn dod i’r fei ac yn dod yn bwysicach i’n gynelleidfaoedd ni. Os gymerwch chi iPlayer, er enghraifft o ran y BBC, a sut mae hynnu bellach yn denu mwy a mwy a mwy o gynelleidfaoedd, ac yn tyfu gynelleidfaoedd newydd hefyd. Felly, mae rhaid i ni barhau arloesi er mwyn sicrhau ein bod ni’n datblygu cynnwys, datblygu fformatau er mwyn cyrraedd y cynelleidfaoedd hynny a’u denu nhw nôl fel bod nhw’n teimlo ei bod nhw’n cael gwerth am y ffî drwydded.
Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC
Mae’r Gronfa Arloesi gyda Chynnwys wedi bod mor gyfangwbl allweddol i ni. Wrth i ni ddatblygu syniadau er mwyn cyrraedd cynelleidfaoedd newydd. Gyda’r rownd gynta’, wnaethon ni edrych ar dechnolegau a fformatau, er mwyn cyfleu syniadau a streuon newydd i gynelleidfaoedd. Yn yr ail rownd, ‘y’ni wedi edrych ar yr amgylchedd a newid hinsawdd a sut allwn ni wahodd syniadau fydd yn caniatau i gynelleidfaoedd ymgysylltu a’r pwnc yma a deall y pwnc yna o’r newydd. Ac ‘y’ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddwyn y syniadau yna i’r sgrin.
Tanio’r Dyfodol diwidiannau creadigol
Mae’r diwidiannau creadigol ar ryw werth o £1.4bn y flwyddyn i economi Cymru (data 2022 Cymru Greadigol), sy’n dangos pa mor bwysig yw’r sector i Gymru a mae llwyddiant y sector yn cael ei drafod led led Prydain ac Ewrop. ‘Y’ni’n gwbod bod Cymru wedi troi’n ganolfan o rhagoriaeth ar gyfer y sector gynhyrchu ond er mwyn parhau ar frig y tabl yna, mae rhaid i ni arloesi…mae rhaid i ni ddatblygu syniadau newydd a thegnolegau newydd er mwyn caniatau i ni aros ar y brig.
Mae gan Gymru new gwych ar lefel prydeinig ac yn rhyngwladol am y sector gynhyrchu – mae’n creu cynnwys ardderchog, ar-lein, ar fideo ac ar radio ond dwo hefyd yn gwbl, gwbl ffyddiog y gallen mynd a hynnu gam ym mhellach. ‘Y’ni eisioes yn gyfrannu gymaint i economi Cymru – £1.4bn bpb blwyddyn ond dwi’n argyhoeddiedig y gallen ni adeiladu ar hyn, a chreu enw da yn fyd-eang ar gyfer cynhyrchu cynnwys.
Mae gen i bob ffydd y bydd y sector creadigol yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. ‘Y’ni eisioes wedi hawlio’n lle i fod ar frig y tabl ym Mhrydain pan mae’n dod at gynhyrchu cynnwys. Mae’r enw da sy’ gynon ni yn gael ei gydnabod gan bawb. Ond mi allwn ni barhau oi adeiladu ar hynny, dim ond i ni barhau i feithrin y sgiliau, y talent ac yn wir i arloesi gyda thechnoleg newydd a fformatau newydd fel bod ni’n parhau i gyrraedd cynelleidfaoedd newydd.
Y rheswm pam mae Tanio’r Dyfodol mor bwysig yw bod rhaid i ni fel darlledwyr barhau i arloesi pan mae’n dod at greu cynnwys a chyrraedd cynelleidfaoedd o’r newydd. Gyda chymaint o gystadleuaeth yn fyd-eang bellach ar gyfer llygaid a chlustiau bobol, a sylw pobol yn gyffredinol, mae rhaid i ni arloesi gyda’n cynnwys, gyda’n fformatau ni a gyda’n technoleg ni er mwyn creu straeon sydd yn ymgysylltu gyda’r gynelleidfa. Dwi’n gobeithio trwy’r partneriaethau hyn, trwy gweithio gyda’r sector a gyda Media Cymru, a gallen ni neud gwhaniaeth a sicrhau bod Cymru yn parhau ar y brig pan mae’n dod at arloesedd yn y sector creadigol.
Ynglŷn â Rhuanedd Richards
Cyfarwyddwr y Cenhedloedd yw Rhuanedd ac mae’n eistedd ar Bwyllgor Gweithredol y BBC ac ar bob un o Bwyllgorau’r Cenhedloedd ar Fwrdd y BBC.
Mae hi’n gyfrifol am arwain yr holl waith sy’n gwasanaethu gwledydd a chynulleidfaoedd lleol ledled yr Alban, Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae Rhuanedd, a chafodd ei phenodi ym mis Mehefin 2025, yn arwain gwaith y BBC yn gwasanaethu cenhedloedd a chynulleidfaoedd lleol ledled y DU.
Yn flaenorol, bu Rhuanedd yn gyfarwyddwr BBC Cymru gyda chyfrifoldeb cyffredinol am strategaeth cynnwys a blaenoriaethau golygyddol y genedl ar bob platfform a gwasanaeth y cyfryngau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Dechreuodd Rhuanedd ei gyrfa gyda BBC Cymru yn newyddiadurwraig cyn cyflwyno rhai o’r prif raglenni newyddion a gwleidyddol ar y radio a’r teledu.
Wedi hynny, bu’n gweithio ym maes llywodraeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru cyn dychwelyd i’r BBC fel Golygydd gwasanaethau Cymraeg yn 2018.
Yn wreiddiol o Gwm Cynon, aeth Rhuanedd i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd ysgoloriaeth y BBC iddi i astudio diploma ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae Rhuanedd yn Ddirprwy Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, yn Gymrawd Anrhydeddus y brifysgol, ac yn byw ym Mhontypridd gyda’i theulu.