string(41) "/cym/funding/freelancer-development-fund/" Skip to main content
int(4755)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 03.06.2025

Cronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd

Gall llawryddion y sector sgrin yng Nghymru nawr wneud cais am gymorth ariannol i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi sy'n berthnasol i ddatblygiad gyrfa personol.

Manylion Y Cwrs

Gall llawryddion y sector sgrin yng Nghymru nawr wneud cais am gymorth ariannol i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi sy’n berthnasol i ddatblygiad gyrfa personol.

Mae prosiect Sgiliau a Hyfforddiant Media Cymru, a ddarperir gan Brifysgol De Cymru, yn cynnig hyd at gyfanswm o £1,500 y pen i dalu am golli enillion wrth ymgymryd â hyfforddiant.

Gan weithio mewn partneriaeth â Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) Llywodraeth Cymru, efallai y bydd hefyd yn bosibl talu cyfran o’r costau hyfforddiant (yn amodol ar asesiad gan Lywodraeth Cymru).

Manylion

Pwy all wneud cais?

  • Mae hwn yn alwad agored i lawryddion y sector sgrin yng Nghymru.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru fel unig fasnachwyr neu gwmnïau cyfyngedig.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli, neu ddarparu tystiolaeth o weithio yn y sector sgrin, yng Nghymru.

Beth sydd angen i mi ei wneud i wneud cais?

  • Rhaid i chi ddod o hyd i’r cyfle hyfforddi a chyflwyno achos dros berthnasedd yr hyfforddiant a ddewiswyd gennych. (Rhaid i’r hyfforddiant bara rhwng un diwrnod a chwe mis.)
  • Bydd angen i chi ddarparu CVs, a/neu gredydau diweddar i ddangos eich profiad yn y diwydiant, a chyfradd diwrnod blaenorol. Rydym yn fwy tebygol o gefnogi gweithwyr llawrydd profiadol ac rydym yn disgwyl gweld tri chredyd neu ragor.
  • Bydd angen i chi ddarparu manylion y cwrs hyfforddiant, gan gynnwys dyddiad, hyd, lleoliad, cost a darparwr yr hyfforddiant.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 25 diwrnod gwaith cyn i’r hyfforddiant gychwyn. Nodwch na allwn gefnogi hyfforddiant sydd eisoes wedi cychwyn.

Sut mae’n gweithio?

  • Mae cyllid yn gyfyngedig a bydd yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin, yn amodol ar asesiad.
  • Uchafswm y cymorth sydd ar gael gan Medai Cymru yw £1,500 y pen.
  • Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o bresenoldeb, cwblhad a thaliad am eich hyfforddiant dewisol.
  • Dim ond ar ôl i ni dderbyn yr holl dystiolaeth gydymffurfiaeth angenrheidiol y gellir gwneud taliadau o’r Gronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd.
  • Os byddwch yn llwyddiannus, ni chaniateir i chi wneud cais arall am rowndiau cymorth yn y dyfodol.

Wrth wneud cais am y Gronfa Datblygu Llawryddion, rydych yn cydsynio i gymryd rhan ym mhrosiect ymchwil parhaus Ffocws Lawrydd Media Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â media.cymru@southwales.ac.uk