Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Stori Arloesedd: Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru
Mae Canolfan Darlledu Whisper Cymru yn gyfleuster cynhyrchu darlledu o bell sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr Carys Owens, gwnaeth Whisper Cymru gais i Channel 4 ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024 i wella darllediadau byw a chreu cynnwys digidol gyda thechnegau cynhyrchu o bell arloesol.
Mae Whisper am sicrhau mai Canolfan Darlledu Cymru yw cyfleuster cynhyrchu byw mwyaf hygyrch y DU.
Mae Carys yn trafod yr Ymchwil a Datblygu a gynhaliwyd gan Whisper Cymru sydd wedi newid y sector. Mae hefyd yn sôn am sut i wneud cynyrchiadau byw ym maes chwaraeon yn fwy hygyrch a chynaliadwy a sut y gwnaethon nhw roi’r ymchwil hon ar waith yn y pen draw yn eu cynhyrchiad o’r Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024.
Whisper Cymru – cyfleuster cynhyrchu o bell cyntaf Cymru…
Carys Owens ydw i, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru. Rydyn ni wedi ein lleoli yn Tramshed Tech yn Grangetown, Caerdydd.
Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu aml-genre sy’n arbenigo mewn adloniant a digwyddiadau chwaraeon ar gyfer cynnwys darlledu, llinol, byw, uchafbwyntiau a digidol.
Arwain y ffordd ym maes cynhyrchu byw hygyrch yng Nghymru
Ffocws prosiect Canolfan Darlledu Whisper Cymru yw gwneud cynhyrchu byw yn fwy hygyrch.
Yn 2021, gwnaeth Whisper gais i Channel 4 ar gyfer darlledu Gemau Paralympaidd Paris 2024. Roedd hyn yn golygu darparu’r holl uchafbwyntiau a’r darllediadau byw ar gyfer Channel 4, More 4 a chynnwys digidol, gan gynnwys sawl ffrwd fyw ar YouTube.
Roedden ni eisoes wedi dod i’r arfer â gwneud llawer o gynyrchiadau o bell, gydag un tîm fel arfer ar y safle yn ystod digwyddiad chwaraeon, fel y darllediadau Fformiwla Un rydyn ni’n eu gwneud i Channel 4. Ac yna ’nôl yn y DU byddai’r tîm cynhyrchu a golygu craidd i gyd mewn un lle. Doedd dim byd tebyg i hyn yng Nghymru, felly roedd yn gyfle gwych i ddod â mwy o waith i Gymru, i sicrhau bod gennym gyfleuster sydd â’r capasiti a’r cysylltedd i ddarparu ar raddfa ac ansawdd.
I gyflawni hyn, gwnaethom gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar wella cysylltedd allan o’n canolfan yma yng Nghaerdydd. Gwnaethom weithredu llwybr cysylltedd amrywiol yn llwyddiannus, sy’n golygu os bydd un rhwydwaith yn mynd i lawr yn ystod darllediad byw, y bydd y system yn cysylltu a chicio i mewn yn awtomatig i rwydwaith arall, sy’n golygu na fyddai unrhyw darfu ar y profiad gwylio. Bu’n bosibl i ni gyflawni hyn mewn partneriaeth ag Openreach ac Ogi, cyflenwr arall o Gymru.
Yn ffodus, roedden ni ar y llwybr i adeiladu cyfleuster cynhyrchu o bell newydd sbon yma yng Nghymru ac yn wir mae bellach yn un o’r adeiladau darlledu sydd â’r cysylltiadau gorau – yn sicr yng Nghaerdydd – ac mae ymhlith y gorau ledled y DU. Ein nod yma hefyd oedd dod â mwy o waith i Gymru a rhoi mwy o gyfleoedd i’r rhai ag anableddau weithio mewn cynhyrchu byw.
"Gyda'n cysylltiad â'r Gemau Paralympaidd a'n hymrwymiad i wneud timau cynhyrchu’n llawer mwy amrywiol, rydyn ni eisiau cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i unigolion ag anableddau..."
Ein targed gwreiddiol oedd y byddai 20% o’r dalent cynhyrchu a fyddai’n mynd i weithio ar y Gemau Paralympaidd y tu ôl i’r llenni ag anableddau, ac roedd hyn ar flaen y meddwl wrth gynllunio’r gwaith o adeiladu Canolfan Darlledu Cymru. Gwnaethom gynna digwyddiadau allgymorth yn fwriadol iawn, gan ddod â llawer o bobl leol i Gaerdydd, a hwyluso digwyddiadau allgymorth gyda grwpiau anabledd. Doedd gennym ni ddim byd tebyg (cyfleuster cynhyrchu o bell) yng Nghaerdydd ar y pwynt hwnnw a oedd â rhwydwaith ffibr amrywiol. Felly, ar ôl i ni gyflawni hynny, roedden ni eisiau adeiladu cyfleuster newydd o’r dechrau’n deg.
Ein huchelgais fawr oedd gwneud Canolfan Darlledu Cymru y cyfleuster cynhyrchu mwyaf hygyrch yng Nghymru, a’r DU. Gwnaethom weithio’n galed iawn gyda phartneriaid cysylltedd a chawsom gefnogaeth gan Tramshed Tech a Media Cymru, Llywodraeth Cymru – gyda Cymru Greadigol – a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i allu gwneud gwaith ymchwil a datblygu ar wneud darllediadau teledu byw yn fwy hygyrch.
Agor y drysau i weithlu amrywiol
Mae cynhyrchu chwaraeon byw yn tueddu i fod mewn tryciau darlledu ar gyrion safle, heb fod yn hygyrch iawn, felly edrychom ar brosiect ymchwil a datblygu yn seiliedig ar “sut mae gwneud teledu byw a chwaraeon byw yn fwy cynaliadwy a hygyrch?”
Mae Canolfan Darlledu Cymru wedi agor y drysau ar gyfer recriwtio i Whisper. Rydyn ni nawr yn gallu dod â thimau llawer mwy amrywiol at ei gilydd wrth wneud cais ar gyfer y gwaith sy’n cael ei ddatblygu ac wrth gynhyrchu darllediadau byw – yn enwedig gyda chwaraeon, pan fyddwn ni fel arfer mewn tryciau darlledu ar gyrion y safle. Er mwyn gwneud chwaraeon byw yn fwy hygyrch, gallwn nawr groesawu pobl i Ganolfan Darlledu Cymru na fyddai wedi cael y cyfle i weithio ar ddigwyddiadau darlledu awyr agored byw yn y gorffennol. Mae cyfleuster Canolfan Darlledu Cymru yn cynnwys toiled Changing Spaces, llwybrau cerdded llydan, rampiau, drysau pŵer ac arwyddion hygyrch ac mae ei gynlluniau lliw a’i arwyddion wedi’u cynllunio i sicrhau y gall y ganolfan gael ei defnyddio gan ystod mor eang â phosibl o bobl.
Whisper × Media Cymru × Channel 4
Ar gyfer prosiect Canolfan Darlledu Cymru, cefnogodd Media Cymru ni ochr yn ochr â Channel 4 ar y gwaith ymchwil a datblygu. Gwnaeth hyn ein galluogi i gyflogi ymgynghorwyr, The Ability People, i edrych yn fanwl ar beth oedd ei angen mewn cynhyrchu teledu byw.
Ar sail canfyddiadau’r gwaith ymchwil a datblygu a thrwy’r gwaith gwirioneddol o adeiladu canolfan cynhyrchu o bell Canolfan Darlledu Cymru, adeiladom bartneriaeth â Channel 4 fel y Prif Gomisiynydd, Cymru Greadigol a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ein gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn gweithredu fel astudiaeth achos ar gyfer cyfleusterau technegol eraill, i’w defnyddio fel arfer gorau a rhannu gwersi.
Prosiect ymchwil a datblygu parhaus…
Un o’r pethau pwysicaf rydyn ni wedi’i ddysgu o’r prosiect hwn yw na fydd ein gwaith ymchwil a datblygu byth yn dod i ben – mae angen i ni bob amser barhau i ddysgu, esblygu ac arloesi. Mae angen i ddarlledwyr blaenllaw ystyried yr ymchwil hwn, i gadw ar ben eu gêm, a deall y cyfleoedd, yr heriau a’r disgwyliadau sy’n eu hwynebu yn y diwydiant ac mewn cymdeithas – a sut y gallant bwyso i mewn i’r tirweddau newidiol hyn.
Cryfder wrth gydweithio ar draws y sector
Credaf fod Canolfan Darlledu Cymru a’r holl waith ymchwil a datblygu sydd wedi mynd i mewn iddi yn unigryw i ni yng Nghymru, gan ganiatáu i Whisper fanteisio ar sylfaen ehangach o dalent, ychwanegu amrywiaeth o feddwl a phrofiad i’r busnes, a gweithredu fel asiant newid yn y diwydiant.
Mae gennym ni lawer o dalent greadigol yma ac rwy’n credu, trwy gael canolfannau creadigol fel Tramshed Tech yma yn Grangetown, ein bod ni’n dod ag ystod o bobl at ei gilydd ar draws gwahanol sectorau technolegol, creadigol a digidol.
Mae cael ecosystem mor ffyniannus yng nghanol CCR yn ein galluogi i weithio'n agos gyda'n gilydd – byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o gyfleoedd cydweithredu, gan ddefnyddio prosiectau ymchwil a datblygu fel ffordd o gadw’n gystadleuol yn y farchnad a chystadlu â gwledydd eraill sy’n fwy o faint.
Ynglŷn â Carys Owens
Carys Owens yw Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru. Ar ôl gweithio yn bennaf mewn ôl-gynhyrchu a darlledu byw ar gyfer digwyddiadau chwaraeon allbwn cyflym, daeth Carys yn Gynhyrchydd a Chynhyrchydd Gweithredol yn ddiweddarach. Sefydlodd ei chwmni cynhyrchu ei hun, Lens 360, ac ym mis Ionawr 2021, ymunodd Lens 360 â phartner cynhyrchu hirdymor, Whisper, i ddechrau ar daith newydd fel Whisper Cymru.
Ynglŷn â Whisper
Mae Whisper yn rhwydwaith byd-eang o arbenigwyr cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, cynnwys a darlledu sy’n newid tirwedd adloniant chwaraeon, di-sgript a brandio gyda dulliau arloesol o gynhyrchu teledu byw.