string(59) "/cym/research/adroddiad-ar-reoleiddio-darlledu-yng-nghymru/" Skip to main content
Research

Published: 9 Mawrth 2023

Authors: Dylan Moore, Enrique Uribe-Jongbloed, Marlen Komorowski

Adroddiad ar Reoleiddio Darlledu yng Nghymru

camera on set

“…y ‘ddarn ar goll’ fwyaf yn y dirwedd bresennol o ran rheoleiddio a pholisi darlledu (yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach) yw diffyg fforwm ystyrlon i leisiau cynulleidfaoedd a dinasyddion – y bobl eu hunain y mae’r cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i fod i’w gwasanaethu”

Datblygwyd adroddiad tair rhan a’i gyflwyno i’r Panel Arbenigol ar Ddatganoli Darlledu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys dau argymhelliad.

Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr Media Cymru ar y cyd â’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA), yn galw am ragor o reolaeth yng Nghymru dros ddyfodol ei diwydiant darlledu, gan argymell datganoli pwerau allweddol o San Steffan. Gan ddefnyddio astudiaethau achos rhyngwladol, mae’r adroddiad yn cymharu modelau o Sbaen, yr Almaen, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd i ddysgu gwersi ar gyfer llywodraethu sector y cyfryngau yng Nghymru.

Mae’n argymell trosglwyddo’r cyfrifoldeb am benodi darlledwyr, polisi darlledu masnachol, a phenderfyniadau sy’n ymwneud â’r BBC naill ai i Lywodraeth Cymru neu i gomisiwn annibynnol.

Mae’r adroddiad hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu Sefydliad y Cyfryngau yng Nghymru annibynnol erbyn mis Mai 2026 i hyrwyddo cynulleidfaoedd Cymru a sicrhau bod y cyfryngau yn adlewyrchu hunaniaeth ac anghenion y genedl yn well.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Gwyliwch lansiad yr adroddiad: