Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Stori Arloesedd: Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla

Nod prosiect ôl-gynhyrchu hybrid o bell Gorilla yw ceisio tyfu marchnad ôl-gynhyrchu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy gynnig profiad ôl-gynhyrchu hybrid o bell a ffisegol. Mae hefyd yn darparu staff technegol a seilwaith a gyflenwir o Bencadlys GloWorks yng Nghaerdydd.
Nod eu gwasanaeth yw cynyddu’r farchnad sydd ar gael i Gymru, denu cynyrchiadau proffil uchel a gwella ein natur gystadleuol ranbarthol fel sector.
Yn ei stori, mae Rich yn egluro sut roedd Gorilla wedi paratoi’r ffordd ar gyfer dulliau arbrofol o weithio cyn i weithio hybrid ddod yn gyffredin, pam mae angen i Gymru ganmol ei chyflawniadau a sut mae ffordd Gorilla o weithio yn cefnogi amrywiaeth a hyblygrwydd yn y diwydiant.
Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla:
About Gorilla…
Fi yw rheolwr gyfarwyddwr Gorilla TV. Ni yw prif gyfleuster ôl-gynhyrchu Cymru. Rydym yn golygu pob genre gan gynnwys rhaglenni teledu, ffilmiau, hysbysebion, fideos cerddoriaeth, plant a chwaraeon.
Ein prif gleientiaid yw cwmnïau cynhyrchu annibynnol ac rydym yn cynnig ein gwasanaethau iddynt ar gyfer graddio lliwiau, effeithiau gweledol, graffeg a chymysgu sain ac yna’n cyflwyno’r rhain yn uniongyrchol i ddarlledwyr neu ffrydwyr.
Dechreuon ni ym 1999 gydag un ystafell olygu ac mae gennym ni tua 150 neu fwy nawr. Fel busnes, rydym yn 25 mlwydd oed ac yn cyflogi tua 100 o bobl a nifer fawr o weithwyr llawrydd dawnus o Gymru.

Gorilla’s Media Cymru project
Mae Gorilla yn bartner consortiwm Media Cymru, sy’n golygu ein bod ni ar daith 5 mlynedd gyda Media Cymru i ddatblygu ein Prosiect, sef ymchwil ac arloesedd i dyfu ein marchnad ôl-gynhyrchu teledu yng Nghymru gan ddefnyddio technolegau hybrid o bell newydd. Fe wnaethon ni enwi ein prosiect yn “ôl-gynhyrchu hybrid o bell”, na fydd yn golygu llawer i lawer o bobl, ond mae’n ymwneud â thyfu ein marchnad, mewn gwirionedd.
Cyn COVID, roedd ein marchnad yn seiliedig ar ein lleoliad oherwydd bod pawb yn gweithio mewn ystafelloedd yn ein hadeilad. Newidiodd y pandemig y ffordd rydyn ni i gyd yn gweithio oherwydd angenrheidrwydd, a thrwy’r aflonyddwch hwn, gwelsom gyfle i gynyddu ein marchnad.
Roedden ni eisiau ennill marchnadoedd a thiriogaethau nad oedden ni’n gallu gweithio ynddyn nhw’n ddaearyddol, wrth hefyd amddiffyn ein marchnad yng Nghymru. Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yw sefydlu cysyniad, sef model busnes sy’n defnyddio model hybrid o bell. Mae ein cyfleuster ôl-gynhyrchu hybrid newydd ym Mryste yn ddigon agos fel y gallwn ni barhau i fynd yn ôl ac ymlaen yn gorfforol ond mae hefyd wedi’i gysylltu o bell â Chaerdydd.
Dechreuon ni gyda nifer fach o ystafelloedd, ond gallem ddarparu capasiti enfawr trwy ein gwasanaethau o bell. Drwy gael presenoldeb ffisegol bach ym Mryste, wedi’i gefnogi gan ein holl staff a’n seilwaith yng Nghaerdydd, roeddem yn gallu ymestyn ein sylfaen marchnad yng Nghymru i ranbarth yn Lloegr.
Mae ein canolfan ym Mryste yn bwynt troi gwych i ni: rydym yn gallu harneisio a chael mynediad at bŵer cynhyrchu ym Mryste a’r de-orllewin, mae wedi agor ein marchnadoedd yn llwyr i waith na fyddai byth wedi dod i Gymru yn hanesyddol, ond sydd bellach â chyfran dda o staff o Gymru yn ymwneud â gwahanol brosiectau, ac mae wedi gweld y cyfleuster yn ehangu i gyflogi staff o Fryste hefyd.
“Y syniad cyfan y tu ôl i hyn yw tynnu gwaith yn ôl i Gymru, neu o leiaf ganiatáu i gyflogaeth ffynnu a thyfu ein busnes yng Nghymru o ddifrif.”

Ar y blaen: sut y cyflymodd y pandemig ein gwaith ymchwil a’n datblygiad
Rydyn ni wedi bod yn arloesi drwy gydol ein hanes, heb wybod mai dyna oedden ni’n ei wneud mewn gwirionedd. Rydym ni wastad wedi gwneud gwaith ymchwil ac wedi bod yn arloesol, ond bob amser yn ein hamser sbâr heb gyllideb, heb label arni. Ond rydyn ni bob amser wedi gorfod rhoi cynnig ar dechnolegau newydd gan ddefnyddio mwy o offer, rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio. Yn eironig, fe ddechreuon ni weithio o bell cyn y pandemig drwy ein prosiect ymchwil cyntaf gyda Clwstwr (dolen), a roddodd fynediad inni at rywfaint o gyllid cychwynnol ar gyfer hyn.
Penderfynon ni roi pwyslais ar weithio o bell cyn y pandemig, fel mae’n digwydd. Yn ddiddorol, un o’n risgiau mwyaf wrth roi cynnig ar y prosiect hwn oedd meddwl am “sut ydyn ni’n gwerthu hyn i gleient bod gweithio o bell yn syniad da?” Roedd yn rhaid i ni gyfleu’r hyn mae’n ei gynnig sy’n well na bod mewn ystafell. Yn llythrennol, roedd ar frig ein cofrestr risg. Pan ddaeth y pandemig, doedd dim angen meddwl ddwywaith am wneud hyn, felly fe wnaethon ni ddechrau’n syth, ac roedd hynny oherwydd ein bod ni wedi dechrau ein darn cyntaf o ymchwil ac arloesi yn swyddogol. O’r pwynt hwnnw ymlaen, rydyn ni wedi penderfynu bod hyn yn rhywbeth rydyn ni eisiau ei barhau, felly pan gyflwynwyd yr opsiwn i weithio gyda Media Cymru, fe wnaethon ni fanteisio arno mewn gwirionedd oherwydd ein bod ni’n gwybod y manteision y gallai prosiect ymchwil am hyn eu cynnig.

Hybu hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant
Wrth gwrs, mae ystod o fanteision ychwanegol i weithio gyda’r model hybrid o bell hwn sy’n cyd-fynd â nod ehangach Media Cymru fel consortiwm ar gyfer twf economaidd teg a gwyrdd. Gall cynhyrchiad ddewis y bobl ddawnus maen nhw eisiau gweithio gyda nhw heb fod yn seiliedig ar ffiniau daearyddol, ond i’r gwrthwyneb, mae hefyd yn golygu eich bod chi’n gwybod y gallwn ni nawr weithio gyda phwll talent llawer, llawer mwy amrywiol.
Mae’n well ym mhob agwedd: i deuluoedd, deinameg gymdeithasol bersonol a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, y manteision economaidd o ran cael gwared ar garbon ar y daith i’r gwaith, a dim ond cost pur teithio. Yn eironig, rydym wedi gweld mwy o’n staff yn symud rhwng ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bryste am yr un rhesymau cymdeithasol ac economaidd. Gall fod yn rhywun o Fryste sydd â phartner sydd yng Nghymru. Gall fod yn rhywun sy’n edrych i symud yn agosach at ffrindiau ym Mryste. Mae costau byw a rhent yn uchel, ac mae’r model gweithio hwn yn arwain at well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn falch o fod wedi bod ar flaen y gad o ran gweithio hyblyg efallai cyn iddo ddod yn air poblogaidd!
“Mae ein gwaith ymchwil am ein model hybrid o bell wedi cefnogi’r manteision a welwn o ran gwella amrywiaeth a hygyrchedd mewn diwydiant a all fod yn heriol i weithio ynddo weithiau. Mae'n llawer haws nawr nag yr oedd o'r blaen ac mae'n gam i'r cyfeiriad cywir i'r diwydiant. I ni - mae pawb ar eu hennill gyda'r dull hwn...”
Gwersi a ddysgwyd
Rwy’n credu, heb os, ein bod ni wedi dod i ddeall gwerth anhygoel ymchwil ac arloesi i fusnesau a’i fod yn rhan o fusnes parhaus. Mae’n rhaid i chi ddatblygu’n barhaus yr hyn rydych chi’n ei wneud, yr hyn rydych chi’n ei gynnig. Manteisiwch ar dechnoleg newydd. Mae arloesi’n barhaus yn golygu y bydd o fudd i’r busnes yn yr hirdymor. Nid yw’n rhywbeth i’w ofni, nid yw’n rhywbeth sydd angen costio. Mae’n rhywbeth sydd angen bod ym meddyliau pobl, efallai gan ofyn yn fewnol “beth ydych chi’n meddwl y gallem ni ei wneud yn well?”. Dyna ystyr ymchwil ac arloesedd ac mae’n rhywbeth rydyn ni wedi’i groesawu’n llwyr.
Rydym yn fusnes creadigol, ond rydym yn greadigol drwy dechnoleg, felly mae’n rhaid i ni barhau i arloesi yn bendant. Os ydym yn sefyll yn llonydd, rydym yn symud yn ôl…

Athroniaeth “Cymru’n Gyntaf”
Mae llawer o arloesi o’n cwmpas, ond yn sicr yr hyn sydd wedi deillio o’r broses hon gyda Media Cymru yw cydweithio. Nid yw’n ymwneud â Chaerdydd, Bryste, Llundain yn unig chwaith. Mae yna natur agored nawr i bob busnes gydweithio. Er enghraifft, efallai ein bod ni’n gweithio ar brosiect yng Nghaerdydd ond angen sgrinio gyda chomisiynwyr yn Llundain, ac i’r gwrthwyneb, efallai y bydd cwmni sydd wedi’i leoli yn Llundain eisiau gwasanaethau yng Nghymru neu Fryste. Rydyn ni’n helpu ein gilydd ar brosiectau, ac mae wedi agor marchnadoedd pawb. Erbyn hyn, rydym yn gallu gweithio gyda’r busnesau hyn a gwybod â llaw ar ein calon ein bod yn cynnig manteision i Gymru ac i’r diwylliant. Hyd yn oed os mai dim ond trwy gyflogi’r nifer o bobl rydyn ni’n eu cyflogi, gallant rentu tai, prynu tai, dechrau teuluoedd, mynd i’r ysgol a byw a gweithio a chael gyrfa yng Nghymru yn hytrach na theimlo bod yn rhaid iddynt adael Cymru… nawr gallwn ni ddod â gwaith o ansawdd uchel i Gymru.
Yn Gorilla, gwnaethom “Cymru yn gyntaf” yn athroniaeth. Busnes ydyn ni ac oes – mae angen i ni wneud arian. Ond mewn gwirionedd, ar ôl 25 mlynedd, yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw sicrhau bod diwydiant sgrîn Cymru yn ffynnu ac yn goroesi ac yn tyfu a gwybod ein bod ni’n rhan o hynny. Mae popeth a wnawn yn ymwneud â llwyddiant Cymru a’r diwydiant sgrîn. Dyna beth yw ein pwrpas.
“Mae angen i ni ganmol ein llwyddiannau yng Nghymru!”
Daeth diwydiant cyfryngau Cymru i fri gyda chreu S4C – y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg. Ers hynny, ac yn dilyn llwyddiant Doctor Who, sefydlu Bad Wolf yng Nghaerdydd a stiwdios fel Wolf, Seren a Dragon, mae Cymru bellach yn cael ei hystyried yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer drama a theledu o safon uchel. Ond rydym hefyd yn esiampl o ragoriaeth ar gyfer sioeau heb sgriptiau gyda chwmnïau cynhyrchu mawr sydd eisoes yn bodoli a busnesau newydd yn cynrychioli Cymru. Gallwn wneud y cyfan yng Nghymru ac mae angen i ni weiddi mwy amdano. Rydyn ni’n cael ein gweld ledled y DU fel canolfan ragoriaeth nawr, sy’n wych i’w weld… a dyna’r rheswm pam nad oes angen i bobl adael Cymru i weithio nawr oherwydd bod y gwaith yn dod atom ni.
Rydym yn ffodus bod gennym Lywodraeth gefnogol, ddatganoledig sy’n gwybod gwerth Diwydiannau Creadigol Cymru. Nawr ein bod ni wedi cael y lefel hon o lwyddiant, mae angen i ni ddod â’r holl fusnesau sy’n ymwneud â gwerthu Cymru i’r DU yn ogystal â’r byd. Mae gennym bŵer a pherthnasedd wrth wneud rhaglenni Prydeinig ar lwyfan byd-eang. Gallem ni i gyd fod yn cynhyrchu mwy o raglenni cartref Prydeinig yn gyffredinol. Ond mae’n bwysig cynnal ein llais nodedig yn y gymysgedd – mae’n rhaid i ni fod yn ofalus nad oes rywun arall yn gyfrifol am ein hunaniaeth ddiwylliannol.
“Mae’r rhai sydd wedi bod yn y diwydiant hwn ers degawdau wedi gweld newid diwydiannol chwyldroadol go iawn. Mae gan dechnoleg ran enfawr yn y newid hwn ac mae cyfuno technoleg â chreadigrwydd dros dirwedd sy'n newid yn barhaus yn rhywbeth rydyn ni'n ei wneud yn dda. Rydyn ni’n parhau’n gryf…dwi’n meddwl bod hynny’n dweud llawer am bobl Cymru, heb sôn am y diwydiannau rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw - byddwn ni bob amser yn dod o hyd i ffordd….”
Gwybodaeth am Rich Moss
Daw Rich Moss – sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla – o gefndir golygu arobryn ac mae wedi tyfu’r cwmni i fod yn gwmni ôl-gynhyrchu sy’n uchel ei barch yn genedlaethol, gan ddarparu gwasanaethau golygu lluniau, dybio sain, graddio lliwiau a thechnegol i gleientiaid yng Nghymru a ledled y DU.
Mae Rich yn weithgar yn hyrwyddo Cymru a’n Diwydiannau Creadigol, a thrwy Gorilla, mae’n cyfrannu at y twf cyflogaeth cynaliadwy a’r sylfaen sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i gystadlu’n fyd-eang. Mae’n aelod o wahanol weithgorau a byrddau, gan gynnwys UK Screen, BAFTA a ScreenSkills.
Gwybodaeth am Gorilla
Sefydlwyd Gorilla TV ym 1999 a dyma’r prif gyfleuster ôl-gynhyrchu yng Nghymru. Mae eu pencadlys yn ymestyn dros bum llawr ac yn gweithredu 24/7 ochr yn ochr â’u hail gyfleuster yng nghanol dinas Caerdydd a’u cyfleuster newydd ym Mryste yn Finzel’s Reach.
Er bod ôl-gynhyrchu creadigol yn rhan fawr o’u cynnig, maent hefyd yn arbenigwyr llif gwaith technegol a’r cyfryngau, gyda chyfleusterau cyswllt i fyny/cyswllt i lawr lloeren, llinellau darlledu, stiwdios, rigiau sefydlog ac oriel darlledu byw. Mae arbenigwyr cyfryngau Gorilla yn rheoli cannoedd o derabeitiau o gyfryngau UHD/HDR gan gynnwys piblinellau effeithiau gweledol i nifer o werthwyr rhyngwladol ac oddi wrthynt. Mae Gorilla yn darparu cannoedd o oriau o raglenni o sawl genre, o deledu ‘yn ystod y dydd’ i HETV i bob darlledwr yn y DU a chleientiaid rhyngwladol gan gynnwys HBO, Netflix, Amazon, Disney+ a BBC WW/SD.