string(43) "/cym/blog-posts/stori-arloesi-rusty-design/" Skip to main content
Blog

Cyhoeddwyd ar 3 Tachwedd 2025

Stori arloesi: Rusty Design – arloesi cynaliadwy yn niwydiant y cyfryngau

Cwmni peirianneg arloesol yw Rusty Design. Cafodd ei sefydlu gan ddau frawd (Bleddyn a Morgan Williams) yn 2017 Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli yn ne Cymru, yn cynnig gwasanaethau prototeipio a gweithgynhyrchu i fusnesau bach a phobl greadigol. Maen nhw’n adeiladu modelau hefyd ac yn treialu syniadau sy’n canolbwyntio ar leihau costau ac ôl troed carbon yn ogystal ag arbed amser. 

Gan ddefnyddio arbenigedd y tîm ym meysydd technolegau blaengar – fel argraffu 3D cyflym ar raddfa fawr a gwydr ffibr cyfansawdd – maen nhw wedi troi’r model diwydiant “traddodiadol” â’i ben i waered fel bod busnesau bach yn gallu treialu eu syniadau wrth eu datblygu, a chymryd llai o risg. 

Roedd gan Rusty nod syml o’r cychwyn cyntaf: dod â chreadigrwydd a pheirianneg ynghyd mewn ffordd ymarferol. Erbyn hyn, mae ganddyn nhw enw da am gyfuno arbenigedd technegol â datrys problemau mewn ffyrdd arloesol – gan ennill cydnabyddiaeth ar draws y sectorau creadigol a gweithgynhyrchu. 

Stori Rusty Design × Media Cymru hyd yma… 

Ymunodd Rusty Design â Media Cymru i drawsnewid sut mae propiau’n cael eu cynhyrchu.

Yn y fideo hwn, mae Rusty Design yn rhannu eu taith ymchwil a datblygu arbennig, ar ôl derbyn cefnogaeth gan Gronfa Sbarduno, Datblygu ac Uwchraddio Media Cymru.

Buom hefyd yn siarad â Bleddyn Williams, sy’n gyfarwyddwr yn Rusty Design. Dywedodd fwy wrthym am eu taith i wneud propiau ffisegol a rhithwir ar gyfer sector y cyfryngau…

Dywedwch ychydig wrthym am Rusty Design.  

Sefydlwyd Rusty Design yn 2017 gan fy mrawd (Morgan Williams) a oedd newydd orffen ei radd meistr mewn peirianneg chwaraeon.  Cwmni ymgynghori oedd Rusty ar y dechrau. Erbyn hyn, rydyn ni wedi ailgyfeirio i wahanol ddiwydiannau gan greu ein cynnyrch ein hunain. Sector y cyfryngau yw un o’r meysydd sy’n cael ein prif sylw.

Rydym yn adeiladu ein peiriannau ein hunain, gan gynnwys meddalwedd llwybr argraffu. Drwy ddefnyddio’r peiriannau hyn, rydym yn gwneud pob math o gynhyrchion.  Yn ein prosesau argraffu 3D cyflym sydd ar raddfa fawr, rydym yn aml yn gwneud eitemau unigryw sy’n addas i’r celfyddydau, gan fod angen rhywbeth unigryw ar gwmnïau yn aml. 

Dywedwch wrthym am eich tîm. 

 Mae Tom Murray a Danny Askew yn beirianwyr ac yn rhan annatod o dîm Rusty. Fe chwaraeon nhw ran enfawr ym mhrosiect Cronfa Sbarduno a Datblygu Media Cymru. Tom wnaeth ddylunio a chreu ein model maint go iawn o gar Fformiwla 1. Prototeip terfynol o brop oedd y model o gar F1, a chafodd ei ddewis i arddangos y raddfa y gallwn gynhyrchu a threialu ein proses.   

Fe wnaeth Morgan, sylfaenydd Rusty Design, greu propiau ar gyfer sioe deledu i blant o’r enw Deian a Loli (i’w gweld ar BBC iplayer ac S4C Clic). Yn y bennod dan sylw, mae’r cymeriadau’n mynd yn llai mewn modd hudolus ac yn chwarae gyda phêl-droedwyr bwrdd. Fe wnaethon ni sganio’r pêl-droedwyr bwrdd bach drwy ddulliau 3D a’u haddasu, i wneud fersiynau ar raddfa fwy ohonyn nhw er mwyn gallu eu ffilmio’n haws ar gyfer Cwmni Da (y cwmni cynhyrchu). Datblygwyd y gwaith hwn gyda chymorth arian Media Cymru a hwn oedd ein credyd cyntaf ar y teledu cyntaf – a oedd yn wych.  

Mae Kristian Movahed yn aelod arall o’r tîm ac mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad yn creu propiau a gosodiadau celf ar gyfer cynyrchiadau mawr fel Doctor Who. Mae’n eithriadol o fedrus – nid yn unig wrth wneud propiau o ansawdd uchel, ond hefyd wrth weithio gyda deunyddiau a gorffeniadau i fodloni briffiau creadigol heriol. Roedd Kristian yn chwilfrydig am ddefnyddio ein deunydd cyfansawdd, a ddatblygwyd ar gyfer byrddau syrffio yn wreiddiol, yn y sector celfyddydol. Fe wnaeth y syniad hwn ein helpu i’n harwain tuag at ddiwydiant y cyfryngau a’n galluogi i sefydlu ein hunain yn y maes. Pan gyhoeddwyd cronfa gyntaf Media Cymru, roedd Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd eisoes wedi rhoi gwybod i ni mai Caerdydd yw trydydd canolfan fwyaf y DU ym maes y cyfryngau — felly rydym wastad wedi bod yn ymwybodol bod angen arloesedd yn y sector. 

Stori arloesi: Rusty Design – arloesi cynaliadwy yn niwydiant y cyfryngau

Dywedwch wrthym am eich prosiectau Media Cymru. 

Dyfarnwyd arian o Gronfa Sbarduno, Datblygu a Uwchraddio Media Cymru inni. 

 Sbarduno: Cam un 

Ar y dechrau, roedden ni eisiau dysgu beth oedd ei angen ar bobl mewn gwirionedd. Felly, aethom ati i wneud llawer o ymchwil i’r farchnad gan ddefnyddio tîm PDR sy’n arbenigwyr ym maes Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn broses ddylunio sy’n rhoi defnyddwyr a’u hanghenion yn gyntaf ym mhob rhan o gylch bywyd prosiect.  Fe wnaethom greu holiaduron a chynnal cyfweliadau arbenigol. Fe ddangosodd y rhain fod galw am ein gwasanaethau. Fe wnaeth hyn ein helpu ni’n aruthrol i gael yr ail grant. 

Cronfa ddatblygu: Cam dau 

Nesaf, fe edrychon ni ar sut mae teledu a ffilm yn cael ei wneud yng Nghymru. Gwastraff yw un o’r problemau mwyaf.

“Mae gwastraff yn cael ei gynhyrchu’n gyflym iawn ac mae llawer iawn ohono gan fod setiau enfawr yn cael eu creu ac nid oes digon o amser nac adnoddau i’w gwaredu yn briodol a thrwy’r ffrydiau gwastraff cywir. Yn 2022, er enghraifft, yn ôl data ôl troed albert, defnyddiwyd dros 1,000 tunnell o bren mewn cynyrchiadau yng Nghymru a chafodd llai na 25% ohono ei ailgylchu.” (Bargen Newydd Sgrîn: Cynllun Trawsnewid i Gymru)

Fe wnaethom ddod i’r casgliad, yn fathemategol, mai’r ffordd symlaf o leihau gwastraff ar y set yw defnyddio llai o ddeunydd yn y lle cyntaf – dyma’r ffordd fwyaf uniongyrchol o gael effaith. 

Uwchraddio: Cam Tri

Rydyn ni bellach yn canolbwyntio ar ddefnyddio deunyddiau eco-gyfeillgar yn hytrach na deunyddiau traddodiadol, fel polystyren estynedig, drwy ddefnyddio deunyddiau PLA bioddiraddadwy a thechnoleg argraffu 3D arloesol. Drwy systemau ailgylchu datblygedig, integreiddio deallusrwydd artiffisial a phroses gynhyrchu gylchol, ein nod yw lleihau gwastraff ac allyriadau carbon yn sylweddol wrth ddiwallu’r galw cynyddol am arferion cynaliadwy yn niwydiant y cyfryngau.

Sut ydych chi’n gwneud prop rhithwir ffisegol? 

Yn draddodiadol, mae propiau fel colofnau neu waliau yn cael eu cerfio allan o flociau mawr o ffôm, sy’n creu llawer o wastraff. Rydym yn mynd ati mewn ffordd wahanol — drwy weithgynhyrchu ychwanegion i adeiladu yr hyn sydd ei angen yn unig. Gallwn wagio strwythurau mewnol, gan leihau’n sylweddol y deunydd a ddefnyddir, a hynny heb effeithio ar ei gryfder. Er enghraifft, roedd craidd prop o golofn a ddefnyddiwyd gennym yn defnyddio dros 80% yn llai o ddeunydd yn ôl cyfaint o gymharu â phrop polystyren o’r fath. 

Creu model 3D yw’r cam cyntaf yn y broses hon, sy’n golygu bod gennym fersiwn ddigidol hefyd ochr yn ochr â’r prop ffisegol. Mae’n ffordd fwy effeithlon a hyblyg o gynhyrchu “propiau rhithwir ffisegol yr olwg — ac mae’n pontio’r bwlch rhwng dylunio digidol a chreu rhywbeth go iawn. 

 

Stori arloesi: Rusty Design – arloesi cynaliadwy yn niwydiant y cyfryngau

Defnyddio deunyddiau cynaliadwy sy’n well i’r blaned… 

Rydym yn defnyddio deunydd o’r enw PLA (Asid Polylactig). Dewis amgen bio-seiliedig i polystyren yw hwn sy’n gallu cael llai o effaith ar yr amgylchedd yn dibynnu ar sut y ceir gafael arno a’r ffordd y caiff ei brosesu. Yn ystod ein gwaith ymchwil a datblygu, fe wnaethom gynnal dadansoddiad mewnol o gylch bywyd — dull sy’n asesu effaith amgylcheddol deunydd neu broses yn ystod ei oes llawn. Helpodd hyn i ni gael gwell dealltwriaeth o’r adegau pan mae PLA yn perfformio’n dda a lle mae angen gwelliannau o hyd. 

Gallai PLA gynnig manteision o ran diogelwch hefyd os oes tân o’i gymharu â ffomau plastig traddodiadol. Er nad ydym wedi cynnal profion ffurfiol i wirio hyn, mae rhywfaint o dystiolaeth sy’n awgrymu y gallai ein deunydd fod yn llai fflamadwy na pholystyren. Roedd yn ganfyddiad annisgwyl a ddaeth i’r amlwg tua diwedd y prosiect, gan amlygu gwerth ymchwil a datblygu — yn ogystal â’n helpu i nodi meysydd sy’n werth eu harchwilio ymhellach.

Mae'n gwbl hanfodol i sector creadigol Cymru fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Ni allwn ddibynnu ar ddulliau traddodiadol a disgwyl parhau i fod yn gystadleuol yn y tymor hir. I wneud argraff, mae angen atebion arloesol arnom ni. Mae gan Gymru seilwaith unigryw ac mae cyfarpar ar gael sydd, o'u defnyddio'n iawn, yn gallu cyflymu arloesedd yn gyflymach nag mewn llawer o leoedd eraill.

Yn sgîl cynnydd Modelau Iaith Mawr (LLMs) ac offer AI fel ChatGPT, mae modd prototeipio a datblygu yn anhygoel o gyflym. Mae Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar hyn, ond nid ydym eto’n defnyddio llawer o’r potensial sydd gennym ar hyn o bryd. 

Ymchwil a Datblygu yw’r allwedd er mwyn i Gymru barhau i gyflawni mwy na’r disgwyl. Mae’n ymwneud â diogelu’r dyfodol. Pan na fydd rhagor o arian grant ar gael neu os bydd llai o gynnyrch yn cael ei werthu, ymchwil a datblygu sy’n cadw’r busnes yn hyfyw a gwydn. 

Oes gennych chi gyngor i eraill sydd ar fin dechrau arni ym maes ymchwil a datblygu?

  • Cydweithiwch! Mae pobl hynod gefnogol yn y maes, felly cydweithiwch gymaint â phosibl. Peidiwch â bod ofn rhannu’r hyn rydych chi’n ei wneud.  
  • Ewch i ddigwyddiadau. Daeth un o’n syniadau o ddigwyddiad yr aethom iddo cyn inni gael arian sbarduno Media Cymru. Aethom i ddigwyddiad cynhyrchu rhithwir ac fe gawsom y syniad a’r ysbrydoliaeth i wneud ein model o gar F1. Ewch i’r mathau hyn o ddigwyddiadau, oherwydd yn aml, byddwch chi’n cwrdd â phobl sydd o’r un meddwl ac sydd eisiau helpu.  

Beth yw eich gobeithion ar gyfer sector y cyfryngau yng Nghymru dros y degawd nesaf? 

Rwy’n gobeithio gweld llawer o gwmnïau creadigol bach yn cael eu sefydlu ac yn gyrru arloesedd yn y sector. Weithiau, os bydd cwmnïau’n mynd yn rhy fawr, maen nhw’n symud yn araf ac maen nhw’n amharod i gymryd llawer o risgiau. Mae gennym enwau mawr eisoes fel y BBC ac S4C, sy’n wych – ond mae angen cwmnïau llai a grwpiau creadigol hefyd i gamu ‘mlaen ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros arloesedd yn y sector.

Gwyliais raglen o’r enw GoldenEra a oedd yn trafod sut aethpwyd ati i greu’r gêm GoldenEye ar gyfer N64. Cafodd ei datblygu gan dîm bach o bobl a oedd newydd raddio o’r brifysgol ac yn gweithio mewn ffermdy ger Birmingham. Er ei fod yn dîm bach, roedd yn hynod uchelgeisiol, ac roedd yr hyn a gynhyrchwyd ganddyn nhw yn rhyfeddol. Mae wir yn dangos bod timau bach yn gallu bod yn hynod bwerus ac arloesol. 

Mae llu o gyfleoedd i arloesi ledled y DU, ond nid oes digon o bobl yn sylwi ar hynny. Rydw i am i fwy o bobl sylwi a chefnogi’r pethau gwych sy’n digwydd drwy’r amser.