Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 7 Ionawr 2026
Sut mae Unquiet Media yn hyrwyddo ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a derbyniad o niwrowahaniaeth yn y Diwydiannau Creadigol
Pecyn cymorth Exceptional Minds i fusnesau yn y Diwydiannau Cyfryngau
Llynedd, lansiodd Unquiet Media Exceptional Minds, pecyn cymorth i fusnesau yn y diwydiannau cyfryngau i’w helpu i gefnogi, cadw a gwerthfawrogi talent niwrowahanol yn well.
A ddatblygwyd gan Unquiet Media gyda cyllid Ymchwil a Datblygu Media Cymru, mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllaw manwl a gwefan ryngweithiol.
Mae Exceptional Minds yn rhoi arweiniad i fusnesau ar sut i adeiladu gweithfannau ac arferion mwy niwro-gynhwysol ar gyfer eu timau, o gydweithwyr a gweithwyr llawrydd i aelodau criw. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i bobl niwrowahanol ar weithio yn y sector, a all fod yn anodd yn aml.
Datblygodd Unquiet Media y pecyn cymorth gan ddefnyddio corff mawr o ymchwil a phrofiadau bywyd cannoedd o unigolion niwrowahanol, yn ogystal â mewnbwn gan sawl busnes cyfryngau ac arbenigwyr mewn byd y cyfryngau a seicoleg.
Gwyliwch eu ffilm fer, Navigating Neurodiversity and the media sector – lle mae gweithwyr proffesiynol niwrowahanol yn rhannu eu profiad o swyddi amrywiol.
Mae Unquiet Media yn annog cwmnïau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – a thu hwnt – i ymgysylltu â’r pecyn cymorth Exceptional Minds i ddysgu mwy am arferion gwaith cynhwysol a deall anghenion gweithwyr niwrowahanol yn well.
Mae’r pecyn cymorth bellach ar gael i’w brynu mewn print, ar gyfer busnesau’r diwydiant ac unigolion creadigol.
Ap newydd ar gyfer talent niwrowahanol, anabl a B/byddar (DDN) yn y diwydiannau sgrîn
Yn dilyn lansio’r pecyn cymorth Exceptional Minds, mae Unquiet Media bellach yn cychwyn ar brosiect newydd gyda chyllid Ymchwil a Datblygu Media Cymru.
Maen nhw’n dylunio ap arloesol i symleiddio prosesau cyn-gynhyrchu cymhleth a gwneud y broses ymuno’n haws i bobl niwrowahanol, anabl a byddar ddawnus yn y diwydiannau sgrîn.
Bydd y platfform yn caniatáu i aelodau o’r cast a’r criw rannu mynediad dietegol yn ddiogel ac ymgyfarwyddo â lleoliadau, amserlenni a disgwyliadau ymlaen llaw. Bydd hyn yn helpu i leihau rhwystrau ac adeiladu amgylchedd cynhyrchu mwy cynhwysol a chydradd.
Dywedodd Rosie Higgins, Sylfaenydd Unquiet Media: “Un o’r rhwystrau mwyaf cyffredin y mae pobl niwrowahanol greadigol yn ei wynebu yn y byd cynhyrchu, y gwnaethon ni ei nodi drwy ymchwil Exceptional Minds, oedd gorbryder ynghylch dechrau swydd newydd – poeni am ofyn cwestiynau i bobl ar lefel uwch; ffyrdd anghyson o gyfleu gwybodaeth; dogfennau annarllenadwy; ansicrwydd o ran addasiadau rhesymol; a rheolau a disgwyliadau amhendant.
Rydyn ni’n gwybod o’n profiadau ein hunain yn y byd cynhyrchu bod y prosesau hyn yn aneffeithiol i reolwyr cynhyrchu hefyd, a bod goblygiadau ar y ddwy ochr o ran cynhyrchiant, iechyd meddwl, a thebygolrwydd o wneud camgymeriadau.
Beth os oedd ffordd o wneud y broses ymuno yn ystod y broses cyn-gynhyrchu yn well, gan ei gwneud hi’n haws i bawb? Dyma bwnc ein prosiect Ymchwil a Datblygu newydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Media Cymru am y cyfle i wneud hynny.”
Hyfforddiant niwroamrywiaeth i fusnesau creadigol yng Nghymru
Mae Unquiet Media yn cynnig hyfforddiant Niwroamrywiaeth hyblyg o’r radd flaenaf – wedi’i achredu’n broffesiynol – i gwmnïau creadigol yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant yn cael ei ariannu gan Gronfa Sgiliau Creadigol Cymru Greadigol i rymuso gweithleoedd a galluogi arferion mwy cynhwysol, seicolegol-ddiogel a chynhyrchiol.
Mae’r cwrs yn ddwyieithog ac yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac mae modd ei gyflawni yn eich pwysau eich hun. Dysgwch fwy ar blatfform e-ddysgu Screen Alliance Wales.
Dolenni
- I fusnesau a chyflogwyr: ewch i wefan Exceptional Minds i gael mynediad at gymorth ac arweiniad ar greu gweithleoedd mwy cynhwysol. Mae fersiwn fanwl o’r pecyn cymorth hefyd ar gael mewn print ar gais.
- I unigolion niwrowahanol: ewch i’r adran hon o wefan Exceptional Minds am gyngor, adnoddau, a chefnogaeth wedi’u teilwra i’ch anghenion chi.
- Mae fersiwn fanwl o’r pecyn cymorth hefyd ar gael mewn print ar gais.
- I weld y newyddion diweddaraf am hyfforddiant: Dilynwch dudalen LinkedIn Unquiet Media neu anfo e-bost i Unquiet Media i gael gwybod pryd fydd y sesiynau hyfforddi niwroamrywiaeth yn digwydd. Gallwch chi hefyd fynd i blatfform e-ddysgu Screen Alliance Wales.
- Rhagor o wybodaeth: Darllenwch erthygl gan Rosie Higgins o Unquiet Media, Mantais Gystadleuol Sector Creadigol Niwroamrywiol.
- Gwasanaethau brand a dylunio: Mae Unquiet Media yn cynnig gwasanaethau brand a dylunio cynhwysol. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch ag Unquiet Media drwy e-bost.
- Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf: i ddilyn prosiectau Unquiet Media a ariennir gan Media Cymru, ewch i wefan Media Cymru, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Media Cymru neu dilynwch ar LinkedIn ac Instagram.
Gwybodaeth am Unquiet Media
Mae Unquiet Media, consortiwm partner Media Cymru, yn gwmni ymgynghori a chynhyrchu unigryw sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Maen nhw’n gweithio ar draws cynhyrchu cynnwys, seicoleg a niwrowyddoniaeth, gyda ffocws ar niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl.
Gwybodaeth am Rosie Higgins
Rosie Higgins yw cyfarwyddwr Fields Park Productions, cangen ffilm a theledu o’r Fields Park Media Group, ac UnquietMedia, cwmni cynhyrchu ac ymgynghori unigryw sy’n arbenigo mewn themâu seicoleg, gyda’i harbenigedd a’i phrofiad yn croestorri’r meysydd cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau (lle bu’n gweithio am 10+ o flynyddoedd) a gwyddoniaeth wybyddol (M.Phil. mewn Seicdreiddio, MSc mewn Seicoleg).