Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 14.04.2026
Yn cyflwyno: PLAYBACK
Penllanw pum mlynedd o gynnydd a 170 o brosiectau Ymchwil a Datblygu Media Cymru fydd arddangosfa epi gyn cynnwys cyflwyniadau, paneli a phrofiadau ymdrochol yng nghanolflan y cyfryngau mwyaf y DU namyn dau.
PLAYBACK yw gŵyl arloesi dridiau Media Cymru sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 15, 16 a 17 Medi 2026.
Bydd yr ŵyl ar ffurf cynhadledd ymchwil undydd yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd ar 15 Medi 2026.
Dilynir hyn gan ddau ddiwrnod o gyflwyniadau, paneli a phrofiadau yn arddangos y gwaith anhygoel o bob rhan o raglen Media Cymru. Fe’i cynhelir yn Tramshed, Tramshed Tech a lleoliadau eraill ledled y ddinas ar 16 a 17 Medi 2026.
Byddwn ni’n rhyddhau newyddion am ein prif siaradwyr, paneli a phrofiadau yn ystod y misoedd nesaf.
Cofrestrwch i gael gwybodaeth yn gynnar a derbyn gwybodaeth wedi’i theilwra i’ch diddordebau.
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddyddiadau, siaradwyr a thocynnau