string(14) "/cym/playback/" Skip to main content

PLAYBACK.

Gŵyl Media Cymru i ddathlu arloesi yn dod i Gaerdydd ym mis Medi eleni.

PLAYBACK

PLAYBACK yw gŵyl Media Cymru i ddathlu arloesi. Mae’n dod i Gaerdydd ar 16 a 17 Medi 2026.

Penllanw blynyddoedd o gynnydd ac arloesi yn sector y cyfryngau fydd arddangosfa ddeuddydd epig yn cynnwys cyflwyniadau, paneli a phrofiadau ymdrochol yng nghanolfan y cyfryngau mwyaf y DU namyn dau.

Beth i’w ddisgwyl

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Media Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn cannoedd o brosiectau ymchwil a datblygu ledled Cymru. Bydd PLAYBACK yn arddangos y prosiectau hyn, gan ganiatáu ichi gael golwg ar y cynhyrchion, y gwasanaethau a’r profiadau chwyldroadol newydd sy’n cael eu creu gan sector y cyfryngau yng Nghymru.

Yn cael ei chynnal yn Tramshed, Tramshed Tech a lleoliadau eraill ledled y ddinas, bydd PLAYBACK yn cynnwys paneli, cyflwyniadau cyflym, areithiau a phrofiadau ymdrochol yn ymdrin â phynciau fel: cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sector y cyfryngau, cynnwys digidol, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyllid a’r technolegau diweddaraf.

 

Archebwch eich tocynnau

 

Prif Areithiau

PLAYBACK

Takashi Kudo – teamLab

Ganwyd Takashi Kudo yn Tokyo yn 1977. Cafodd ei fagu yn Abu Dhabi, a graddiodd o Brifysgol Waseda yn 2000 gyda BA mewn Llenyddiaeth ac Athroniaeth. Ar ôl gweithio fel Prif Olygydd cylchgrawn gemau fideo yn Stockholm am bedair blynedd, dychwelodd i Japan i ymuno â teamLab. Mae teamLab yn gydweithrediad celf rhyngwladol sy'n llywio cydgyfeiriant celf, gwyddoniaeth, technoleg a'r byd naturiol, ac wedi'i leoli yn Tokyo, Japan.

Rhagor o wybodaeth
PLAYBACK

Sakurako (Saka) Naka - teamLab

Ganwyd Sakurako yn Japan a graddiodd o Brifysgol Efrog Newydd yn Abu Dhabi mewn Llenyddiaeth a Hanes Celf. Mae Saka wedi bod yn aelod o teamLab ers 2021. Mae teamLab yn gydweithrediad celf rhyngwladol sy'n llywio cydgyfeiriant celf, gwyddoniaeth, technoleg a'r byd naturiol, ac wedi'i leoli yn Tokyo, Japan.

Rhagor o wybodaeth

Panelwyr

Mae gennym 5 panel enfawr yn digwydd dros y ddau ddiwrnod: Ailysgrifennu'r sgript: Tuag at Sector Cynhwysol, Planet Positive Productions, Cymru i'r Byd, Ariannu'r Dyfodol ac Amser Sgrin: Cynnwys mewn byd digidol.

Emyr Afan

Emyr Afan

Mae Emyr Afan yn gynhyrchydd gweithredol teledu sydd wedi ennill gwobr Bafta, cyfarwyddwr aml-gamera a syniadau creadigol. Ym 1995, cyd-sefydlodd Afanti Media (Avanti Media gynt), ac fel Prif Swyddog Gweithredol mae wedi adeiladu un o'r cwmnïau cynhyrchu teledu hiraf a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth
PLAYBACK

Alison Lomax

Mae Alison Lomax, Rheolwr Gyfarwyddwr YouTube UK ac Iwerddon yn eiriolwr dros arloesi digidol, ac wedi treulio ei gyrfa ar y groesffordd rhwng technoleg a chreadigrwydd. Â dros ddegawd o brofiad yn rheoli timau masnachol a chreadigol yn Google, dydy hi ddim yn un sydd ag ofn trawsnewid.

Rhagor o wybodaeth
PLAYBACK

Nicole Wait

Mae Nicole Wait yn rheolwr cynaliadwyedd llawrydd ac yn ymgynghorydd ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm o'r radd flaenaf yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio gyda NBCUniversal ar Anemone, Sky ar Under Salt Marsh, a ffilm annibynnol The Queen of Fashion, ac, yn fwyaf diweddar, Deadpoint ar Channel 4.

Rhagor o wybodaeth
PLAYBACK

Todd Jones

William "Todd" Todd-Jones yw un o Gyfarwyddwyr Sylfaenol Wild Connect. Dros bedwar degawd ym myd ffilm, teledu a theatr, mae Todd wedi gweithio fel dylunydd creaduriaid, perfformiwr, cyfarwyddwr, ymgynghorydd symud, artist perfformio digidol ac awdur, gyda chredydau yn cynnwys Labyrinth, The Muppet Christmas Carol, Batman, Who Framed Roger Rabbit, Little Shop of Horrors, Harry Potter and the Order of the Phoenix a His Dark Materials, lle roedd yn Bennaeth Effeithiau Creaduriaid a Meistr Pypedwr.

Rhagor o wybodaeth

Dangosiadau

Bydd gennym amrywiaeth o'n cynnwys a ariennir yn cael ei arddangos yn y sinema.

PLAYBACK

Dead Reset YN FYW

Byddwn ni’n cynnal digwyddiad byw i sgrinio DEAD RESET – ffilm arswyd gan Wales Interactive a grëwyd ar y cyd â Dark Rift Horror. Bydd y digwyddiad yn brofiad tywyll, sinematig a GWAEDLYD, a’ch dewisiadau chi fydd yn llywio’r stori.

Rhagor o wybodaeth

Sgyrsiau Mellt

Bydd ein Sgyrsiau Mellt yn cynnwys cyflwyniadau cryno 20 munud ar bwnc penodol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: technoleg a lles, deallusrwydd artiffisial, argraffu 3D, a batris cynhyrchu cynaliadwy.

PLAYBACK

Osian Davies

Mae Osian yn arweinydd yn y sector cynhyrchu a darlledu, gyda hanes cryf mewn cyflenwi ac arloesi technegol. Ac yntau’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn Afanti Media, mae'n arwain rhai o'r darllediadau allanol mwyaf yng Nghymru ac mae ar flaen y gad o ran gwneud cynhyrchu'n fwy cynaliadwy drwy wella arferion gwaith, lleihau allyriadau carbon a chefnogi gwell lles.

Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth am docynnau

Methu dod i’r ddau ddiwrnod ond eisiau gwneud y mwyaf o’ch amser yn PLAYBACK?

Bydd ein rhaglen o ddigwyddiadau bob dydd yn cwmpasu gwahanol werthoedd Media Cymru gan edrych ar Gwyrdd a Theg ddydd Mercher (16) a Thwf a Byd-eang yn cael sylw ddydd Iau (17).

Mae tri math o docyn ar gael:

  • Yr ŵyl gyfan (Dydd Mercher A Dydd Iau)
  • Tocyn dydd Mercher YN UNIG
  • Tocyn dydd Iau YN UNIG

Byddwn yn ychwanegu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ymylol gyda’r nos yn PLAYBACK felly cadwch lygad ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i weld sut i gymryd rhan ynddyn nhw.

 

Archebwch eich tocynnau