string(47) "/cym/research/arolwg-gweithlu-sgrin-cymru-2026/" Skip to main content
Research

Published: 22 Medi 2026

Authors: James Davies, Richard Hurford

Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru 2026

Yn 2022, fel rhan o Media Cymru, cynhaliodd y tîm ym Mhrifysgol De Cymru arolwg cynhwysfawr o’r gweithle er mwyn cael darlun sylfaenol o’r gweithlu yn y sector sgrin yng Nghymru, ac i nodi lle roedd blaenoriaethau hyfforddiant yn dod i’r amlwg. Roedd yr arolwg gwreiddiol hwnnw’n sail i’n darpariaeth hyfforddiant ac, ochr yn ochr â mewnbwn gan y diwydiant, mae wedi helpu i lywio dyluniad a chyflwyniad y 22 cwrs hyfforddiant rydym wedi’u darparu rhwng 2023 a 2026. Nawr, ym mlwyddyn olaf rhaglen Media Cymru, rydym wedi ailadrodd yr arolwg hwnnw.

Mae Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru 2026 yn rhoi darlun cyfredol o’r gweithlu yn y sector sgrin yng Nghymru. Mae’n cynnwys manylion demograffig, lleoliad gwaith, a dosbarthiad ar draws is-sectorau, yn ogystal â data ar flaenoriaethau hyfforddiant cyfredol, gallu arloesi, lles ac amgylchedd gwaith, cynaliadwyedd, a heriau a phryderon ehangach sy’n parhau. Y bwriad yw llywio lle dylai blaenoriaethau hyfforddiant yn y dyfodol ganolbwyntio, a darparu gwybodaeth hanfodol er mwyn dylunio a darparu hyfforddiant sy’n ymatebol i anghenion gweithwyr llawrydd yn y sector sgrin, ac sy’n briodol, yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Darganfyddwch pa fath o arloeswr ydych chi