string(32) "/cym/funding/future-growth-fund/" Skip to main content
int(5625)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 25.11.2026

Cronfa Twf y Dyfodol

Gyda grantiau o hyd at £30,000 ar gael, mae’r gronfa hon ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu blaengar yn y sector cyfryngau, a fydd yn arwain at effaith fasnachol. Rhaid i syniadau fod yn feiddgar, yn uchelgeisiol a chael y potensial i drawsnewid eich busnes.

Ceisiadau ar agor: Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026

Ceisiadau yn gau: Dydd Iau 17 Rhagfyr 2026, hanner dydd

Trosolwg

Mae Media Cymru a Tramshed Tech yn gyffrous i ddatgan cronfa newydd sbon – Cronfa Twf y Dyfodol.

Gyda grantiau o hyd at £30,000 ar gael, mae’r gronfa hon ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu blaengar yn y sector cyfryngau, a fydd yn arwain at effaith fasnachol. Rhaid i syniadau fod yn feiddgar, yn uchelgeisiol a chael y potensial i drawsnewid eich busnes.

Os yn llwyddiannus, bydd gennych dri mis i gwblhau eich prosiect ymchwil a datblygu. Yn ystod yr amser hwn, bydd carfanau yn gweithio gyda Tramshed Tech, a fydd yn cynnig cymorth Parodrwydd i Fuddsoddi.

Cwmpas

Gall eich prosiect ffocysu ar un neu fwy o’r canlynol:

  • Fformatau cyfryngau newydd a datblygu cynnwys arloesol
  • Modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol
  • Cynhyrchu cyfryngau uwch, gan gynnwys cydgyfeirio cynhyrchu rhithwir a chynhyrchu traddodiadol
  • Adrodd straeon drwy dechnolegau ymgolli realiti estynedig (XR), gan gynnwys realiti rhithwir (VR), realiti estynedig (AR) a realiti cymysg (MR)
  • Creu cynnwys gemau fideo a’u cynhyrchu, gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill
  • Sero net a datgarboneiddio’r sector sgrin (mae croeso arbennig i brosiectau sy’n ymateb i ganfyddiadau Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru)
  • Creu lleoedd, gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol a’r cyfryngau
  • Cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog
  • Newyddion a gwybodaeth gyhoeddus
  • Cynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain, gan gynnwys perfformio a dosbarthu
  • Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau eraill fel offer ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau

Ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr nac yn gyfyngedig.

Nid yw Cronfa Twf y Dyfodol yn addas ar gyfer y canlynol:

  • Datblygu cynnwys generig (e.e. datblygu ffilmiau byrion, ffilmiau nodwedd neu benodau peilot ar gyfer y teledu sy’n cydymffurfio â genres ac arferion adrodd straeon safonol)
  • Gweithgarwch busnes fel arfer cyffredinol, neu
  • Gomisiynau celf untro.

Hygyrchedd

Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (e.e. cyngor, trawsgrifio neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), anfonwch neges e-bost at media.cymru@cardiff.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434.

Dyddiadau pwysig

  • Dydd Llun 23 Tachwedd 2026 – Cyfnod ymgeisio yn agor
  • Dydd Iau 17 Rhagfyr 2026 – Cyfnod ymgeisio yn cau am ganol dydd (12pm): sylwch, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ôl yr amser hwn
  • 20 a 21 Ionawr 2027 – Dyddiadau’r cyfweliadau panel
  • 1 Chwefror 2027 – Hysbysu ymgeiswyr (cofiwch y gall gymryd hyd at 4 wythnos i gyhoeddi’r contractau)
  • 15 Mawrth 2027 – Prosiectau’n dechrau
  • 15 Mawrth 2027 – Diwrnod Carfan yn Tramshed Tech
  • 18 Mehefin 2027 – Prosiectau’n gorffen

Cymhwysedd

Meini prawf cymhwysedd:

  • Mae gennych syniad ymchwil a datblygu wedi’i fynegi’n glir
  • Rydych chi’n gweithio yn niwydiant cyfryngau Cymru, neu mae eich syniad o fudd uniongyrchol i ddiwydiant cyfryngau Cymru
  • Rhaid i’ch cwmni fod yn fusnes cofrestredig yn y DU gyda chyfeiriad busnes yng Nghymru
  • Gallwch neilltuo amser ac ymdrech i gwblhau prosiect ymchwil a datblygu rhwng mis Ebrill 2027 a mis Mehefin 2027

Sylwch, dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn a’i ariannu fesul cwmni fel arweinydd prosiect.

Beth yw Ymchwil a Datblygu?

Diffinnir gweithgareddau ymchwil a datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well.

Gan ystyried cyd-destun y cyfryngau, gallai hyn olygu archwilio, profi neu arbrofi gyda thechnoleg newydd fel realiti estynedig, deallusrwydd artiffisial neu gynhyrchu rhithwir. Gallai hefyd olygu archwilio ffyrdd o weithio sy’n flaengar, yn decach ac yn fwy cyfeillgar i’r blaned. Gallai gynnwys profi dulliau newydd o gynhyrchu, dosbarthu a phrofi cynnwys, neu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a bod yn fwy sensitif i’w hanghenion a’u gofynion.

Dyma’r math o brosiectau ymchwil a datblygu rydym ni’n chwilio amdanynt:

  • Gwreiddiol: byddant yn seiliedig ar gysyniadau a damcaniaethau gwreiddiol, nid rhai amlwg
  • Creadigol: byddant yn defnyddio dulliau arbrofol ac yn cynhyrchu canfyddiadau newydd
  • Ansicr: byddant yn dechrau gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y canlyniadau terfynol
  • Systematig: byddant yn seiliedig ar ddull gweithredu sydd wedi’i gynllunio a’i gyllidebu
  • Trosglwyddadwy: byddant yn cynhyrchu canlyniadau y gellir eu hatgynhyrchu er mwyn sicrhau manteision ehangach

Gweminar Holi ac Ateb

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Twf y Dyfodol , a’r mathau o brosiectau rydym yn awyddus i’w cyllido, byddwn yn cynnal gweminar Holi ac Ateb ar Teams ar Dydd Iau, 3 Rhagfyr am 10:30am.

Bydd y weminar hon yn gyfle gwych i glywed gan ein tîm, i ofyn cwestiynau a chael dealltwriaeth o sut beth fyddai gwaith ymchwil a datblygu yn y cyd-destun hwn.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â media.cymru@cardiff.ac.uk