Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Datganiad Polisi Iaith Gymraeg.
Datganiad Polisi Iaith Gymraeg
Diweddarwyd Chwefror 2024
Mae’r datganiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg, yn amlinellu ein cyfrifoldebau mewn perthynas â safonau’r Gymraeg, ac yn manylu ar ein prif egwyddorion a nodau, gan gynnwys sut byddwn ni’n defnyddio, yn hyrwyddo ac yn dathlu’r Gymraeg.
Yn rhan o’i gyfraniad at ddiwylliant a chymdeithas Cymru, mae Media Cymru yn ymroddedig i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd, a manteision, darparu gwasanaethau dwyieithog i’n cynulleidfaoedd.
I waith Media Cymru yn unig y mae’r datganiad hwn yn berthnasol, ond gan fod rhaglen Media Cymru yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, datblygwyd y datganiad gan gyfeirio at Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol – Yr Alwad a Safonau’r Gymraeg.
Egwyddorion
Mae Media Cymru yn ymdrechu i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r Gymraeg.
Rydyn ni’n cydnabod y gall pobl ddewis byw eu bywydau yn eu dewis iaith, a thrwy ein gwaith rydyn ni’n ymroddedig i gefnogi, i hyrwyddo ac i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Byddwn ni’n hyrwyddo ac yn cefnogi Cymru ddwyieithog ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050, drwy gyfrannu at gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn sector y cyfryngau yng Nghymru drwy ein gweithgareddau ymchwil, ymgysylltu ac arloesi.
Mae hunaniaeth Gymreig ac ymdeimlad o le wrth wraidd brand Media Cymru.
Fel prosiect ar sail lle a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), rydyn ni’n chwarae rhan yn helpu i siapio dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, gan adeiladu canolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd a chynhyrchu’r cyfryngau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau – lle mae’r Gymraeg yn hanfodol i naratif greadigol y rhanbarth.
Byddwn ni’n sicrhau bod cynrychiolaeth o Gymru a’r Gymraeg yn ganolog i’n cenhadaeth, yn ymrwymo i arddangos y Gymraeg lle bynnag bo’n bosibl, ac i ehangu ei defnydd yn ein hamgylchedd ac yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud. Adlewyrchir hyn yn natur ddwyieithog ein henw, a fydd bob amser yn cael ei ysgrifennu fel ‘Media Cymru’, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Media Cymru yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Rydyn ni’n ymroddedig i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yn ein holl gyfathrebiadau a byddwn ni’n annog defnydd o’r Gymraeg gan ein cynulleidfaoedd, ein staff, ein partneriaid a’n harianwyr.
Rydyn ni’n croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn ni’n darparu gwasanaeth cyson i bawb yn eu dewis iaith.
Rydyn ni’n cydnabod manteision ymagwedd ddwyieithog, fel cyfoethogi ein rhaglen a meithrin cysylltiadau cryfach gyda chynulleidfaoedd.
Mae Media Cymru yn annog y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn rhan annatod o fabwysiadu ffordd ddwyieithog o weithio, a byddant yn cael eu cefnogi i helpu i ymgorffori, i ddefnyddio ac i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gweithle a gyda phartneriaid consortiwm.
Byddwn ni’n annog staff i ddysgu Cymraeg ac yn darparu cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau.
Nodau
Cynrychioli’r Gymraeg yn greadigol, drwy wneud y canlynol:
- Cynrychioli Cymru a’r Gymraeg i’r safon uchaf
- Helpu i feithrin cydnabyddiaeth gadarnhaol o ran y Gymraeg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o frand Media Cymru
- Sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg yr un mor amlwg a hygyrch â’r rhai Saesneg
- Gwerthfawrogi natur ddwyieithog y diwydiant rydyn ni’n gweithio ynddo, gan ei chryfhau ac eirioli drosti.
Ystyried y Gymraeg fel cyfle i ddatblygu ein gwaith, drwy wneud y canlynol:
- Adeiladu enw da cryf fel cydweithrediad cyfryngau yng Nghymru sy’n denu cynulleidfaoedd rhyngwladol ac sy’n rhoi Cymru ar y map fel canolbwynt byd-eang ar gyfer arloesedd a chynhyrchu’r cyfryngau
- Cynnig mynediad ehangach at ein gwaith drwy ddarparu gwasanaethau Cymraeg, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach drwy ddefnyddio’r Gymraeg ac ehangu’r ffrwd o bobl sy’n ymgysylltu â’n rhaglen drwy gyfleoedd Cymraeg
- Creu cynnwys dwyieithog cyfoethocach i gryfhau ein hapêl yng Nghymru a’r tu hwnt
- Creu galwadau her newydd o gwmpas cynhyrchu dwyieithog, a fydd yn helpu i arwain at syniadau ac arloesiadau Cymraeg newydd
- Arddangos gwaith cynhyrchu cyfryngau Cymraeg wrth gael sylw yn y cyfryngau yng Nghymru a meithrin cysylltiadau gyda’r cyfryngau yng Nghymru.
Annog siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â’n gwasanaethau a’n hadnoddau Cymraeg, drwy wneud y canlynol:
- Gwneud siaradwyr Cymraeg yn ymwybodol o’n gwasanaethau Cymraeg
- Cyfeirio cynulleidfaoedd a staff Cymraeg eu hiaith i fanteisio ar ein gwasanaethau Cymraeg
- Meithrin cysylltiadau cryfach gyda siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y cyfryngau Cymraeg a’r cyfryngau a’r diwydiannau creadigol ehangach.
Sefydlu gweithdrefnau gweithio cryf o ran y Gymraeg, drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn y datganiad hwn a sut i’w gweithredu
- Sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg yr un mor amlwg a hygyrch â’r rhai Saesneg
- Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff ynglŷn â Safonau’r Gymraeg a chefnogi’r rhai y mae angen cymorth arnynt gyda’r Gymraeg
- Cynnig hyfforddiant a chyfleoedd i staff ddatblygu sgiliau Cymraeg, gan wneud defnydd llawn o’r adnoddau sydd ar gael gan Brifysgol Caerdydd drwy gynllun Dysgu Cymraeg
- Hyrwyddo ac annog y defnydd o Gymraeg yn y gweithle a datblygu presenoldeb cryfach i’r Gymraeg yn y swyddfa.
Gwella safle’r Gymraeg yn ein cymuned a’n diwydiant, drwy wneud y canlynol:
- Dod yn ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer cyfathrebiadau dwyieithog am y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru
- Dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg
- Dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru
- Meddwl am y manteision y gall dwyieithrwydd eu cynnig yn rhyngwladol
- Hyrwyddo’r Gymraeg a’i defnyddio’n ehangach drwy ein gwaith, gyda chynulleidfaoedd a staff.
Rhagor o wybodaeth
I ddysgu mwy am Media Cymru, ewch i: media.cymru
Os oes gennych gwestiynau ynghylch y datganiad hwn neu os ydych chi’n dymuno trafod dwyieithrwydd yn Media Cymru, cysylltwch â Caleb Woodbridge – Swyddog Cyfathrebu Digidol: woodbridgec@caerdydd.ac.uk.