Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Mae Media Cymru, o blaid Cymru ac am Gymru, a nod pennaf ein gwaith yw canolbwyntio ar Brifddinas-ranbarth Caerdydd. Rydym yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol yn sector cyfryngau Cymru.
Mae Caerdydd a’r rhanbarth o’i chwmpas eisoes yn chwarae rhan fawr yn niwydiant y cyfryngau. Rydym ni’n credu ym mhotensial Cymru i lywio’r diwydiant ymhellach drwy fwy o gyllid, hyfforddiant a chyfleoedd i arloesi.
Consortiwm o 23 sefydliad partner i gyd gydag un nod. Ariennir Media Cymru yn sgîl £22m gan Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd, sef un o raglenni blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), £3m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, £1m gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol, a £23m o arian cyfatebol gan bartneriaid ym myd diwydiant a phrifysgolion.
