Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 28.01.2025
BBC Cymru Wales a Media Cymru yn buddsoddi £100,000 mewn prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer cynnwys hinsawdd arloesol
Mae BBC Cymru Wales a Media Cymru wedi dyfarnu hyd at £20,000 yr un i bum cwmni cynhyrchu i ymchwilio a datblygu syniadau sy’n adrodd straeon arloesol am yr argyfwng hinsawdd.
Mae’r gronfa newydd wedi’i chynllunio i gefnogi cwmnïau cynhyrchu teledu i ymchwilio a datblygu ffyrdd newydd, arloesol o roi gwybod i gynulleidfaoedd am achosion, effaith a ffyrdd o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Er mai’r argyfwng hinsawdd yw’r broblem fwyaf dirfodol sy’n wynebu dynoliaeth yn yr 21ain ganrif, mae dealltwriaeth y cyhoedd o’r mater yn dameidiog ac weithiau yn ddryslyd. Mae’r gronfa yn dod â charfan o Gymru at ei gilydd i ymchwilio a datblygu syniadau uchelgeisiol ar gyfer cynnwys hinsawdd er mwyn ennyn diddordeb a hysbysu cynulleidfaoedd.
Mae’r newyddion yn dilyn Diwrnod Mewnwelediad (29 Ionawr 2025) yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd, ble cyflwynodd cwmnïau llwyddiannus eu cynigion Ymchwil a Datblygu buddugol. Mae’r prosiectau a ddewiswyd yn cwmpasu genres gan gynnwys comedi, adloniant a ffeithiol, pob un gyda ffocws ar ddulliau arloesol o gynnwys hinsawdd. Roedd mynychwyr y digwyddiad hefyd wedi ymgysylltu â Strategaeth Climate Creatives y BBC, trafod safbwyntiau gwyddonol ar newid yn yr hinsawdd a chael cipolwg ar sut mae cynulleidfaoedd amrywiol yn ymateb i gynnwys ar yr hinsawdd.
Cynhelir prosiectau Ymchwil a Datblygu rhwng 3 Chwefror a 30 Ebrill 2025, gyda photensial o’r BBC yn comisiynu syniad yn haf 2025.
Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Bydd y gronfa hon yn tanio dychymyg rhai o’n storïwyr gorau wrth iddynt ymgymryd â’r her ac adrodd un o straeon mwyaf arwyddocaol ein hoes. Gyda’r cyllid a’r lle i ganolbwyntio ar y diriogaeth hon rwy’n obeithiol y byddwn mewn sefyllfa i gomisiynu cynnwys y bydd ein cynulleidfa yn ei werthfawrogi. Mae BBC Cymru Wales yn cefnogi adrodd straeon cymhellol a pha stori allai fod yn fwy amserol na hon.”
Dywed yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: “Mae’n hanfodol ein bod yn ymrwymo i gynhyrchu cynnwys sy’n siarad â’r heriau ehangach sy’n ymwneud â’r argyfwng hinsawdd. Ynghyd â BBC Cymru Wales, rydym wedi gweld rhai syniadau cyffrous ar gyfer cynnwys sy’n ysgogi’r meddwl i ennyn diddordeb ac ysbrydoli cynulleidfaoedd prif ffrwd. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynigion hyn yn datblygu’n syniad rhaglen diriaethol a chymhellol.”
Mae’r cwmnïau a ddyfarnwyd yn cynnwys:
Carlam Ltd – The Climate Inspector: How Green is your basket?
Archwilio deietau eco-gyfeillgar gyda chynulleidfaoedd Cymru drwy ymchwilio i fasgedi siopa pobl gyda chywreinrwydd a hiwmor i ofyn a yw eu dewisiadau mor wyrdd ag y maent yn dybio.
Joio Cyf – Bioling Frogs
Edrych tua’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru 2030. Mae prinder adnoddau, seilwaith sy’n dadfeilio, llifogydd cyson, stormydd sy’n dwysáu, a phoblogaeth fudol cynyddol yn gwneud bywyd ar yr ystâd yn anodd. Brwydr un teulu i oroesi wrth i ddŵr godi yn ystod storm.
Kailash Films Ltd – Rhod Gilbert Saves the World
Cynnig atebion newid yn yr hinsawdd gyda’r digrifwr Rhod Gilbert i weld beth sy’n realistig i’r person cyffredin yng Nghymru a beth sydd ddim. Mae Rhod Gilbert yn mynd i achub y byd. Neu o leiaf mae’n mynd i roi cynnig da iawn arni!
Little Wander – The One Planet Show
Sioe siarad gomedi newydd sy’n cael ei chynnal gan y comedïwr Kiri Pritchard-McLean sy’n cynnwys prosiectau cymunedol Cymreig, arferion arloesol cynaliadwy a chyfweliadau ysgafn sy’n pontio adloniant ac amgylcheddaeth.
Teledu Telesgop Cyf – The Invisible Lines
Cyfres nodedig sy’n dangos effeithiau lleol a byd-eang newid hinsawdd ar ‘linellau’ cyfarwydd presennol – arfordir, gwelyau afonydd, tymheredd cyfartalog, ceryntau cefnfor, llwybrau mudo, ffiniau’r genedl ac ati. Yn ogystal â chynrychioliadau graffig arloesol o “linellau anweledig” newydd, yn y dyfodol, rydym yn gadael nodiadau atgoffa corfforol parhaol mewn rhai lleoliadau allweddol.