string(73) "/cym/blog-posts/cyfweliad-gyda-pete-andrews-pennaeth-chwaraeon-channel-4/" Skip to main content
int(1345)
Blog

Cyhoeddwyd ar 5 Medi 2024

“Bydd cael cyfleuster cynhyrchu o bell hygyrch yn creu cyfleoedd i bobl anabl yng Nghymru a thu hwnt…” Cyfweliad gyda Pete Andrews, Pennaeth Chwaraeon Channel 4

pobl yn edrych ar sgrin

Mae Canolfan Ddarlledu Cymru newydd sbon Whisper TV bellach yn weithredol ac yn ffrydio’n fyw o Gaerdydd yn ystod y Gemau Paralympaidd.

Cefnogwyd y cyfleuster cynhyrchu o bell gan Media Cymru a Channel 4, a ariannodd ar y cyd waith ymchwil a datblygu ynghylch hygyrchedd mewn cynyrchiadau byw ar y cyd â The Ability People. Y gobaith yw bod yn astudiaeth achos i gyfleusterau technegol eraill ei defnyddio fel arfer gorau ac i rannu canfyddiadau.

Gyda’r Gemau Paralympaidd ym Mharis yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, gwnaethom sgwrsio â Pete Andrews o Channel 4 ynghylch ymrwymiad Channel 4 i weithio gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y gwledydd a’r rhanbarthau, ei hymgyrch barhaus dros amrywiaeth a thegwch ac amrywiaeth yn y cyfryngau, a sut y gallai Canolfan Ddarlledu newydd Cymru newid y dirwedd ar gyfer darllediadau chwaraeon byw yn y DU.  

Ar ôl sefydlu stiwdio chwaraeon y BBC yn Salford, mae gan Pete brofiad helaeth ym maes darlledu chwaraeon byw. Yn enillydd gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol, gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cynhyrchu chwaraeon, yn cynnwys digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf, mae wedi arwain ar holl ddarllediadau chwaraeon Channel 4, gan gynnwys Gemau Paralympaidd Haf 2020 o Tokyo a’i darllediadau Fformiwla 1 yn 2019. 

Gyda chwe thwrnamaint Gemau Olympaidd a naw twrnamaint pêl-droed rhyngwladol i’w enw, mae hefyd wedi cyfarwyddo darllediadau o bedair rownd derfynol Wimbledon. At hynny, ef oedd prif gynhyrchydd y BBC o’i darllediadau Cwpan FA rhwng 2014 a 2018, ac roedd yn brif gyfarwyddwr ei darllediadau Gemau Olympaidd y Gaeaf o Sochi yn 2014 a Pyeongchang yn 2018. 

Cyd-ariannodd Channel 4 a Media Cymru y gwaith ymchwil a datblygu a oedd yn rhan o ddatblygiad Canolfan Ddarlledu Cymru Whisper TV. Pa mor bwysig oedd hyn i Channel 4? 

Dyna’n union yw pwrpas Channel 4, felly mae’n hanfodol inni fod ym mhobman yn y DU yn hyrwyddo lleisiau gwahanol a rhannau o’r diwydiant. Dechreuais weithio yn Central ITV yn Birmingham ar ddiwedd y nawdegau. Roedd yn stiwdio rhwydwaith fywiog a phrysur a nawr does dim llawer ar ôl ar wahân i newyddion lleol. Mae hynny’n drasiedi go iawn oherwydd dyna yw’r stori mewn sawl maes. Felly, mae’r prosiect yn y Tramshed yn gyfle enfawr i adael rhodd i Gymru a thalent anabl o bob rhan o’r wlad.  

Beth mae hyn yn ei olygu i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran ei galluoedd ym meysydd technoleg a darlledu a chwifio’r faner dros y cwmnïau teledu sy’n rhan o’r clwstwr creadigol?  

Mae gosod y seilwaith technegol yn golygu y bydd gan Gaerdydd bellach y gallu i gynnal digwyddiad aml-borth o bell yn y cyfleuster hwn. Mae hyn yn rhywbeth nad oedd yn bodoli yng Nghymru tan y Gemau Paralympaidd hyn, a bydd y seilwaith yno i unrhyw un ei ddefnyddio. Yr ail ran o hyn yw ein bod yn adeiladu’r orielau ac yn addasu’r adeilad fel bod hwn yn gyfleuster cwbl hygyrch. Mae’r rhwystrau i bobl anabl eu goresgyn yn y diwydiant darlledu chwaraeon yn enfawr. Nid yw pobl anabl yn gallu cael mynediad i dryciau darlledu allanol; yn aml nid oes toiledau nac addasiadau ar wahân ar y safle mewn tryciau darlledu allanol. Ac, wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o ddarllediadau chwaraeon yn dibynnu ar y tryciau hyn i weithredu, felly mae’n amhosibl cymryd rhan.  

Bydd cael cyfleuster o bell sy’n hygyrch yn agor cyfleoedd i bobl anabl yng Nghymru a thu hwnt. Ac nid dim ond yr orielau eu hunain – mae’n mynd mor bell â gwneud yr adeilad yn hygyrch trwy osod ymyl palmant isel ar gyfer cadeiriau olwyn a thoiled hygyrch o’r radd flaenaf. Mae’n gam bach i’r cyfeiriad cywir, ond mae ffordd ofnadwy o bell i fynd eto… 

Pa gamau all y cyfryngau eu cymryd i gau bylchau presennol o ran amrywiaeth a chynhwysiant a sicrhau canlyniadau teg i bawb?  

Mae angen i’r cyfryngau ddod at ei gilydd a dylunio systemau ar gyfer darlledu a thechnoleg gyda chynhwysiant mewn golwg. Dim ond os caiff ei wneud wrth ymgynghori â’r gymuned anabl a chynnal trafodaeth agored dda y bydd hyn yn gweithio. Mae technoleg yn esblygu drwy’r amser a gall fod o gymorth mawr i agor cyfleoedd, ond mae angen i bobl anabl gymryd rhan ar ddechrau’r broses i ddatblygu technoleg sy’n gynhwysol o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach na meddwl am hyn ar ôl ei chyflwyno… 

Unrhyw syniadau terfynol ar sut y gallwn greu sector cyfryngau gwirioneddol deg?  

Ystyr cyfiawnder yw trin pawb yr un fath, felly mae angen i ni ddod i adnabod y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw a sut maen nhw’n meddwl. Chwiliwch am gryfderau ac nid gwendidau. Mae angen i ni wneud yr ymdrech i ddod o hyd i ffordd o roi adborth effeithiol i bawb fel bod pawb yn cael y cyfle i wella a thyfu. Gobeithio y gallwn greu gweithle ac amgylchedd hygyrch heb unrhyw stigma ynghylch addasiadau os oes angen…a hefyd peidio ag eithrio pobl oherwydd nad ydym yn siŵr beth i’w ddweud. Ewch ati i’w hadnabod. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Mae cyfathrebu’n allweddol, dwi’n meddwl…

Mae Channel 4 yn dangos mwy na 1,300 awr o chwaraeon Paralympaidd byw am ddim ar draws Channel 4, More4, Channel 4 Streaming a sianel Channel 4 Sport ar YouTube.  

Pete Andrews – Pennaeth Chwaraeon, Channel 4

llun gwyneb dyn