string(44) "/cym/blog-posts/datblygu-meddylfryd-arloesi/" 13023323 Skip to main content
int(1302) 13023323
Blog

Cyhoeddwyd ar 14 Awst 2024

Datblygu Meddylfryd Arloesi

dyn sy'n siarad ymlaen cynulleidfa

Darganfyddwch pa fath o arloeswr ydych chi gyda theclyn rhyngweithiol newydd, a ddatblygwyd gan dîm ymchwil Media Cymru.

Datblygu Meddylfryd Arloesi

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ymwybodol o werth arloesi, sef syniadau newydd sy’n gwella ansawdd ein bywyd, yn ysgogi twf economaidd neu’n cynnig atebion i heriau anodd. Fodd bynnag, mae esbonio sut mae arloesi’n digwydd a sut y gallwn ei wneud yn well yn llawer anoddach.  

Gall hyd yn oed y term “arloesi” fod yn frawychus, felly mae angen i ni helpu pobl i ddod yn fwy cyfforddus â’r term a gyda’u gallu i arloesi, yn enwedig os yw Media Cymru am gyflawni’r nod o wneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau.  

Mae hyn yn arbennig o wir i bobl sydd â phrofiadau bywyd, arbenigedd ac agweddau amrywiol, na fyddai o reidrwydd yn ystyried eu hunain yn greadigol, heb sôn am ystyried eu hunain yn arloesol. Yn fy mhrofiad i, daw’r atebion mwyaf arloesol o’r safbwyntiau amrywiol hyn, gan bobl sydd agosaf at y broblem dan sylw, ond sydd yn aml y lleiaf hyderus yn eu gallu i ddatblygu a gweithredu datrysiad a’i gyflwyno ar raddfa fwy.  

Felly, sut allwn ni helpu pawb yn y sector i arloesi?  

Mae arloesi yn gofyn am set amrywiol o alluoedd 

n ôl ymchwil a wnaed gan Adobe, mae bron i hanner ohonon ni yn credu nad ydyn ni’n greadigol, heb sôn am fod yn arloesol. I lawer ohonon ni, mae cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd i ddod yn hyderus wrth fynd ati i arloesi – hyder bod gennym y meddylfryd iawn i ddatblygu atebion y dyfodol.  

Yn rhy aml ystyrir bod arloesedd yn gyfystyr â chreadigrwydd, sy’n broblem mewn diwydiant lle mae creadigrwydd yn bodoli fel mater o drefn. Mae hyn yn bennaf oherwydd stereoteipiau ynghylch pobl sy’n ymwneud ag arloesedd, sy’n canolbwyntio ar y broses o gael syniadau yn hytrach na’r broses o’u rhoi ar waith a’u cyflwyno ar raddfa fwy. Y gwir amdani yw ein bod ni’n chwilio am straeon ynghylch syniadau ac ysbrydoliaeth yn hytrach na rhai sy’n ymwneud â gwaith caled a dadansoddi trylwyr. Ond mae arloesi yn ymwneud â mwy na chael eiliad o ddyfeisgarwch, mae’n broses hir a chaled. Fel y dywedodd y dyfeisiwr Thomas Edison yn ei ddyfyniad enwog, dim ond 2% o’r broses yw’r ysbrydoliaeth – dyfalbarhau yw 98% ohoni.  

Ac wrth i ni drafod Thomas Edison, mae angen i ni hefyd chwalu’r myth mai athrylith unig yw’r dyfeisiwr. Defnyddiodd Edison ddull arloesol newydd ar gyfer dyfeisio, drwy ffurfio timau mawr o bobl gyda disgyblaethau gwahanol. Mae’n gofyn am gydweithio – tîm sydd â nodweddion gwahanol i gyflawni nod arloesol – nid creadigrwydd yn unig. 

Mae arloesi yn llawer rhy bwysig, yn llawer rhy gymhleth ac yn llawer rhy ddwys i’w adael i unigolion. Mae angen timau amrywiol gydag ystod o agweddau, sgiliau a phrofiad sy’n ategu ei gilydd. 

Ar y cyd ag ymchwilwyr Media Cymru, rydyn ni wedi bod yn edrych ar y galluoedd amrywiol sy’n ffurfio meddylfryd sy’n gallu cyflawni gwaith arloesol. Gobeithio, drwy eich helpu i asesu eich galluoedd presennol, y byddwn ni’n gallu dangos i chi’r camau y gallwch eu cymryd i ddatblygu Meddylfryd Arloesi. Rydyn ni hefyd yn gobeithio eich helpu i nodi’r mathau cywir o bobl i gydweithio â nhw, fel y gallwch gael mynediad at y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ysgogi arloesedd.  

Beth yw’r Meddylfryd Arloesi? 

Yn seiliedig ar brofiad ein tîm ni a chorff mawr o lenyddiaeth ymchwil, rydyn ni wedi dewis saith rôl allweddol sy’n bwysig ar gyfer ysgogi arloesedd. Credwn fod y rolau hyn yn adlewyrchu’r trawstoriad o alluoedd sy’n ofynnol ar draws y broses arloesi.  

Asesu ein galluoedd presennol yw’r cam cyntaf tuag at fanteisio ar ein cryfderau a chael y gefnogaeth neu’r broses ddatblygu sydd ei hangen arnom. 

Dyma’r saith prif nodwedd a ddewiswyd gennym:

  1. Creu Newid: Rydych chi’n ymwybodol o’r tueddiadau a’r cyfleoedd diweddaraf yn sector y cyfryngau ac yn mynd ati i addasu eich gwaith a hyrwyddo newid 
  2. Canolbwyntio ar y Defnyddiwr: Rydych chi’n canolbwyntio ar ddeall y defnyddiwr/cynulleidfa darged, gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i sicrhau bod yr ateb yn cyd-fynd â’i werthoedd a’i anghenion
  3. Adroddwr: Rydych chi’n gweld y darlun ehangach ac yn gallu ei greu a’i gyfleu gyda naratifau gafaelgar i ddod ag eraill ar y daith 
  4. Creadigol: Rydych chi’n datblygu syniadau newydd a gwreiddiol, yn herio syniadau confensiynol, ac yn ystyried safbwyntiau gwahanol 
  5. Arbrofi: Rydych chi’n cymryd risgiau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw er mwyn dysgu’n gyflym ac rydych chi wrth eich bodd yn symud gam wrth gam, gan adolygu a chyflwyno newidiadau hyd nes y byddwch yn cyrraedd canlyniad llwyddiannus 
  6. Meddwl yn Feirniadol:: Rydych chi’n meddwl yn systematig am brosesau cynhyrchu neu brosesau busnes, ac yn dilyn y data/tystiolaeth i wneud y penderfyniadau cywir 
  7. CydweithreduRydych chi’n rhwydweithio’n effeithiol ac yn creu ffyrdd newydd o gydweithio, er mwyn manteisio ar arbenigedd amrywiol a chreu gwerth a rennir

Mae’n ymddangos bod y gallu i ymgymryd â’r holl rolau hyn a’u nodweddion penodol yn beth prin, ac yn debygol o fod wedi’i gyfyngu i arbenigwyr arloesi. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn tueddu i ragori mewn un neu ddau, tra bod eraill yn teimlo’n annaturiol ac yn gweddu’n well i fathau eraill o bersonoliaeth yn ôl pob golwg. Er enghraifft, gall optimistiaeth yr Ysgogwr Newid wrthdaro â thueddiadau amheugar, ond cwbl angenrheidiol, y Meddyliwr Beirniadol. Mae’r Arbrofwr yn meddwl un cam ar y tro, tra bod yr Adroddwr dri cham ar y blaen yn cyfleu’r weledigaeth hirdymor. 

Mae gan bob un ohonom ni gymysgedd o’r nodweddion gwahanol hyn, a gallwn gamu’n haws i rai rolau nag i eraill. Yn hytrach na cheisio bod yn berffaith, y nod yw gweithio yn unol â’ch cryfderau a dod o hyd i strategaethau penodol i liniaru’r effaith mewn meysydd lle rydych chi’n llai hyderus. 

Pa fath o arloeswr ydych chi? 

Rhowch gynnig ar yr adnodd i’ch helpu i archwilio’ch Meddylfryd Arloesi ac i ddeall y nodweddion sydd gennych chi neu sy’n ddeniadol i chi. 

Darganfyddwch pa fath o arloeswr ydych chi

Drwy ddefnyddio’r adnodd, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n dysgu am yr amrywiaeth o sgiliau ac agweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arloesi. Gobeithio y gallwch chi hefyd ddechrau edrych ar eich cryfderau a’ch gwendidau, datblygu eich hun, ac yna yn y dyfodol dychwelyd i’r prawf i fesur eich cynnydd.

Rydyn ni ein hunain yn ceisio gwneud yr hyn rydyn ni’n ei arddel, ac mae hyn yn waith Ymchwil a Datblygu ynddo’i hun. Bydd cwblhau’r cwis – ac yn enwedig dychwelyd ato yn y dyfodol – yn ein helpu i’w mireinio a gwella’r wybodaeth ategol mae’n ei rhoi i chi.  

Robin Moore

Robin Moore yw Cyfarwyddwr SHWSH, sy’n gwmni technoleg creadigol ac yn Ymgynghorydd Arloesedd i Media Cymru, sy’n cefnogi arloesi yn y cyfryngau ar draws Clwstwr Cyfryngau Caerdydd. Mae hefyd yn gyn-Bennaeth Arloesedd BBC Cymru ac mae wedi datblygu a threialu’r defnydd o offer a phlatfformau newydd i nifer o frandiau mwyaf y BBC, o iPlayer i Newyddion y BBC, a’r Chwe Gwlad i Doctor Who. Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol, Cynhyrchu Rhithwir a Realiti Estynedig (XR) yn sector y cyfryngau, ac mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwyneb dyn