string(73) "/cym/blog-posts/innovation-story-andy-taylor-ceo-of-accordion-innovation/" Skip to main content
Blog

Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025

Stori Arloesedd: Cyfweliad ag Andy Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Accordion Innovation

Mae Accordion Innovation yn gwmni bach, arloesol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n anelu at ddatrys y broblem o “ormod o gynnwys, dim digon o amser” i gynulleidfaoedd a chrewyr trwy ei dri chynhyrchion: 

  • Accordion – rhoi rheolaeth i gynulleidfaoedd dros hyd cynnwys fideo neu sain heb gyflymu  
  • Flip Format – ei gwneud hi’n gyflym ac yn hawdd postio fideos o hyd perffaith a fformat delfrydol ar gyfer platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • Rough Cut – awtomeiddio’r gwaith caib a rhaw ar olygiadau hir.  

Buom yn siarad ag Andy am ei gwmni a’i gynnyrch – Accordion – a ddatblygwyd gyda chyllid Media Cymru. 

Dysgwch fwy am Accordion Innovation

Dywedwch wrthym am eich cwmni, Accordion Innovation 

Andy Taylor ydw i, Prif Swyddog Gweithredol Accordion Innovation – cwmni technoleg newydd sy’n dyfeisio cynhyrchion cyfryngau newydd. Rwyf hefyd yn rhedeg cwmni arall o’r enw Bwlb, sef cwmni cynhyrchu podlediadau.  

Rydym yn gwmni technoleg newydd cyffrous, uchelgeisiol, bach yng Nghaerdydd. 

Diolch i gyllid Media Cymru, datblygais Accordion – cynnyrch cyntaf Accordion Innovation. 

Stori Arloesedd: Cyfweliad ag Andy Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Accordion Innovation

Soniwch wrthym am eich prosiect, Accordion. 

Mae Accordion wedi’i gynllunio i roi pŵer yn ôl i gynulleidfaoedd. Dychmygwch eich bod chi’n darllen papur newydd ac mae’r golygydd wedi penderfynu pa mor hir yw’r erthygl – gallwch chi lywio eich ffordd drwyddo, ond ni allwch benderfynu faint o fanylion rydych chi ei eisiau. 

Mae’r sefyllfa yr un peth heddiw gyda chynnwys sain a fideo e.e. podlediadau, gweminarau. Mae’r cynnwys yn hyd penodol ac os nad yw’r hyd hwnnw’n cyd-fynd â’r amser sydd gennych yna mae gennych ychydig o ddewisiadau: 

  • peidio â gwrando/gwylio o gwbl oherwydd ei fod yn rhy hir 
  • gwrando/gwylio rhan ohono a pheidio â chael y stori lawn 
  • Cyflymu a cholli rhannau pwysig 

Roedd bob amser yn effeithio arnaf – pam na allwn ni roi rheolaeth i’r gynulleidfa dros hyd y cynnwys?  

Dyna lle mae Accordion yn berthnasol. Mae Accordion fel offeryn hud sy’n rhoi’r rheolaeth i chi newid hyd y cynnwys heb golli’r tôn, y strwythur a’r teimlad gwreiddiol. Os mai 30 munud yn unig sydd gennych, mae’n rhoi fersiwn i chi gyda’r holl ddarnau gorau – dechrau, canol a diwedd.  

Beth yw Accordion 2.0? 

Diolch i Gronfa Datblygu Media Cymru, mae Accordion hyd yn oed yn fwy clyfar.  

Cynlluniwyd Accordion 2.0 i fynd ag Accordion o fersiwn sylfaenol i bwynt lle gall wneud y canlynol:  

  • cymryd podlediad trwy ei borthiant RSS  
  • darganfod oes penodau neu uchafbwyntiau  
  • darganfod a oes hysbysebion a rhoi dewis os ydych chi eu heisiau  
  • rhoi fersiwn o unrhyw hyd i chi 
  • blaenoriaethu penodau neu uchafbwyntiau, yn seiliedig ar ddisgrifiad y bennod fel ei fod yn cyd-fynd â thôn y gwreiddiol 
  • cyhoeddi’n awtomatig i’n platfformau ein hunain 
Stori Arloesedd: Cyfweliad ag Andy Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Accordion Innovation

Sut mae Accordion wedi newid eich cwmni? 

Weithiau mewn busnes, mae angen i chi fod yn barod i bethau fynd i’r wal cyn i chi gael un peth sy’n llwyddo. Diolch i’r datblygiad rydyn ni wedi’i wneud ar Accordion, rydym yn gallu cynhyrchu refeniw trwy gwsmeriaid sy’n talu. Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn barod i weithio gyda phlatfformau podlediadau mawr. Rydyn ni wedi dysgu cymaint. Mewn ychydig fisoedd, rydym wedi cymryd camau enfawr ymlaen ac mae wedi gwella ein potensial i gynhyrchu mwy o refeniw a thyfu Accordion. 

Rydym yn cynnal trafodaethau gyda phlatfform podlediad mawr i weithio gyda’n gilydd. Mae’n broses hir a chymhleth, ond ni fyddwn yn gallu cael y sgyrsiau hynny hyd yn oed pe na bawn i’n deall galluoedd Accordion, ac mae’r prosiect hwn wedi gwthio’r rhain yn sylweddol ymhellach. 

Mae’n anhygoel beth mae Accordion wedi’i gyflawni hyd yn hyn. Nawr mae angen i ni chwilio am bartneriaethau yn y dyfodol, cyfleoedd a mwy o gwsmeriaid sy’n talu i dyfu’n organig. 

"Ni fyddai Accordion Innovation yn bodoli heb y syniad o Accordion yn sgil cyfle ariannu Clwstwr, a nawr diolch i brosiect diweddaraf Media Cymru. Roedd Accordion yn brototeip gweithiol yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae wedi tyfu i rywbeth llawer mwy gyda photensial enfawr."

Beth yw’r heriau sy’n ymwneud ag arloesedd? 

Mae her fawr ym maes ymchwil, datblygu ac arloesedd (R,D&I). Pan fyddwch chi’n adeiladu rhywbeth newydd, gall fod yn anodd i bobl ei ddeall yn syth. Dwi wedi cael y sylw yma o’r blaen am Accordion – ei hud, ond mae’n cymryd ychydig o amser iddyn nhw geisio deall bod yr hyn y mae’n ei wneud yn bosibl a’i fod yn gweithio mewn gwirionedd. 

Dyma’r peth: mae pobl wedi arfer â phodlediadau neu fideos o hyd penodol. Felly, pan fyddwch chi’n dweud wrthyn nhw ei bod yn bosibl newid hyd, ar unwaith, maen nhw’n meddwl “beth ydw i’n ei fethu?”, ond y ffordd y mae Accordion yn gweithio yw blaenoriaethu’r rhannau pwysicaf bob amser. Unwaith y bydd pobl yn rhoi cynnig ar Accordion ar ddarn o gynnwys maen nhw’n gyfarwydd ag ef (fel hoff bodlediad) ac maen nhw’n gallu gweld ei fod yn cadw strwythur, tôn a theimlad… maen nhw’n ei ddeall yn llwyr ac yn dechrau deall ei bŵer. 

Gydag arloesedd, weithiau y rhan anoddaf yw cael pobl i roi cynnig ar y cynhyrchion a’r profiad newydd rydych chi’n eu creu.  

Stori Arloesedd: Cyfweliad ag Andy Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Accordion Innovation

Beth mae ymchwil a datblygu yn ei olygu i chi? 

Mae ymchwil a datblygu yn ymwneud â dod o hyd i syniadau newydd a datrys problemau – ac mae angen datrys problemau ledled y byd, ym mhob diwydiant a sector. 

Rwyf bob amser wedi dwlu bod yn greadigol. Dyna pam roeddwn i eisiau gweithio ym meysydd cerddoriaeth, radio, ffilm, gemau cyfrifiadurol a fideo.  

Cyn i mi weithio gyda Media Cymru, gweithiais ar brosiectau ymchwil a datblygu eraill gyda Clwstwr ac Innovate UK. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi dysgu bod ymchwil a datblygu fel dull gwyddonol o greadigrwydd.  

Rwy’n credu’n gryf nad oes rhaid i bobl fod yn “berson syniadau” i fod yn greadigol – mae’n sgil a phroses y gall unrhyw un ei ddysgu. 

Mae'n hanfodol buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Mae rhai pobl yn meddwl y gallai fod yn strategaeth risg uchel, ond dydw i ddim yn meddwl hyn. Bydd unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y broses ymchwil a datblygu ac yn rhoi cynnig ar syniadau newydd yn dysgu cymaint. Rydych chi'n dod yn well crëwr neu berson busnes. Mae'r ystadegau yn dangos, "am bob £1 sy'n cael ei wario ar ymchwil a datblygu, rhoddir £6 yn ôl i'r diwydiant".

Beth sydd wedi eich sbarduno i archwilio ymchwil a datblygu? 

Mae gen i gariad gwirioneddol at greadigrwydd a dod o hyd i syniadau newydd. Ar ôl gweithio gyda chwmnïau mawr fel y BBC a radio masnachol, roeddwn i eisiau gwneud gwaith cadarnhaol sy’n dilyn fy ngwerthoedd.  

Yn y cyfryngau a thechnoleg, mae’n anodd newid y status quo – ond nid yw hynny’n golygu na allwch roi cynnig arni. Dyna pam rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda Media Cymru – mae’r parch hwnnw at annibyniaeth, hyblygrwydd ac anogaeth. Dydyn nhw ddim yn dweud wrthych chi sut i ddatrys problem, yn hytrach maen nhw’n dweud, “Rydych chi’n mynd i ddod o hyd i’r ateb, byddwn yn rhoi’r gefnogaeth a’r platfform i chi ei datrys eich hun”.  

Mae yna ddyfyniad enwog ynglŷn â dyfeisio’r bwlb golau, rwy’n ei roi ar fy ngwefan Bwlb: “mae ffordd well, dewch o hyd iddo”. Rwy’n meddwl am y dyfyniad hwn y rhan fwyaf o ddyddiau.  

Ym mhob rhan o fywyd, mae pethau’n newid drwy’r amser ac mae technoleg yn datblygu. Rwyf bob amser yn ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o wneud rhywbeth, ac rwy’n gweld y broses honno’n gyffrous.  

Stori Arloesedd: Cyfweliad ag Andy Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Accordion Innovation

Dywedwch wrthym am bwysigrwydd cydweithio. 

Un o fy hoff bethau am Media Cymru yw’r rhwydwaith o bobl.  

Gwnaeth Sara Pepper (Cyd-gyfarwyddwr, Media Cymru) fy arwain at gyfle Catalydd Creadigol Innovate UK. Yna, i gwblhau’r cylch, lansiodd Media Cymru Gronfa Ddatblygu. 

Mae PDR wedi bod o gymorth mawr i mi dros y blynyddoedd. Maent wedi darparu hyfforddiant dylunio a chreadigol gwych, wedi fy rhoi mewn cysylltiad â phartneriaid cydweithredol y dyfodol ac wedi bod yn ffynhonnell wych o gefnogaeth. 

Un arall yw fy Natblygwr, Ana. Roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i ddatblygwyr llawrydd o safon uchel yng Nghymru a gofynnodd Cynhyrchydd Media Cymru, Gavin Johnson, i mi “oeddech chi wedi meddwl am siarad ag Iungo?” Dyna sut wnes i ddod o hyd i Ana (a oedd wedi dilyn cwrs Iungo yn ddiweddar).  

Es i hefyd i weithdy Media Cymru gyda PDR a chyfarfod â Bleddyn Williams (aelod arall o garfan Media Cymru o’r cwmni Rusty Design). Gofynnodd a oeddwn i wedi siarad â Hartree. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedden nhw a nawr maen nhw’n helpu gyda phrosiect mawr ar gyfer Accordion: ceisio datrys sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial wedi’i dargedu i wella prosesau Accordion.   

Fyddwn i ddim wedi cael y cysylltiadau hynny heb Media Cymru – maen nhw’n annog pobl i weithio gyda’i gilydd ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi.  

Beth ydych chi wedi’i ddysgu ar y daith hon? 

Rydw i wedi dysgu llawer wrth greu Accordion. Ond fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am gymryd rhan mewn ymchwil a datblygu yw mynd amdani. Cewch hyd i’r byd anhygoel hwn o ddysgu a chyfleoedd. Nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi adael proses Ymchwil a Datblygu heb fod yn well fel unigolyn neu gwmni. Byddwch chi’n gadael gyda phroses neu ddealltwriaeth well o’ch problem, eich cynnyrch a’ch hun. Felly peidiwch â meddwl amdano, ewch amdani ac archwilio.