Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Stori Arloesedd: Angela McMillan, Sylfaenydd Elemental Health

Ynglŷn ag Elemental Health
Mae Angela McMillan yn Gwnselydd, ac mae’n helpu pobl ifanc sy’n mynd trwy gyfnodau anodd. Dechreuodd ei chwmni, Elemental Health, yn 2015 ar ôl gweithio gydag ysgolion a cholegau.
Gan ategu ei phrofiadau bywyd ei hun, mae hyfforddiant Ange yn ystyried trawma, ac yn canolbwyntio ar greu gofod cynhwysol i bawb.
Mae Ange wedi addysgu miloedd o bobl ym mhedwar ban byd – gan gynnwys athrawon, rhieni a phlant – yn defnyddio strategaethau clyfar a defnyddiol sydd wir yn gweithio.
Yn ogystal â gwaith Ange yn helpu pobl ifanc i oresgyn gorbryder, mae’n hyfforddi rhieni a gofalwyr i ddeall sut i gefnogi plant sy’n poeni neu’n teimlo’n bryderus.
Rhagor o wybodaeth am Ange ac Elemental Health
Elemental Health × Media Cymru: Defnyddio technolegau trochol i leddfu gorbryder ymysg pobl ifanc
Mae prosiectau Media Cymru Elemental Health wedi canolbwyntio ar ddefnyddio techoleg drochol, megis realiti estynedig (lle rydych chi’n gweld pethau ar sgrîn nad ydynt yn bodoli go iawn), i helpu pobl ifanc boeni llai, neu deimlo’n llai pryderus.
Lab Syniadau
Ymunodd Ange â Lab Syniadau Media Cymru yn 2022, lle dechreuodd feddwl am sut y gallai technoleg leddfu gorbryder pobl ifanc.
Cronfa Sbarduno
Yn 2023 dyfarnwyd cyllid iddi er mwyn iddi allu ymchwilio a datblygu ei syniad.
Cronfa Datblygu
Erbyn 2024, roedd Ange wedi ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a’r asiantaeth ddylunio, Sugar Creative. Gwnaethant greu app yn defnyddio realiti estynedig i helpu pobl ifanc ymlacio a rheoli eu pryderon. Cafodd yr app ei brofi gyda phobl ifancac mae tystiolaeth yn dangos ei fod wedi lleddfu eu pryderon.
Cawsom sgwrs ag Ange am ei gwaith yn creu app realiti estynedig i bobl ifanc…

Amdanaf i ac Elemental Health
Ange McMillan ydw i, a dechreuais Elemental Health i helpu pobl ifanc sy’n poeni neu’n teimlo’n bryderus. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy therapïau siarad, helpu rhieni a gofalwyr, a gweithgareddau grŵp.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n bryderus neu’n niwroamrywiol, fel arfer rhwng 10 a 25 oed.
Ein prosiect gyda Media Cymru
Fe wnaethon ni dderbyn cyllid gan Media Cymru i greu rhaglen grŵp therapi estynedig ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 18 oed. Ro’n ni’n awyddus gweld a allai technoleg drochol helpu i leddfu gorbryder.
Defnyddio Realiti Estynedig (AR) i leddfu gorbryder
Gofynnon ni: Sut allwn ni ddefnyddio technoleg drochol i helpu pobl ifanc i deimlo’n llai pryderus? Mae Realiti Estynedig (AR) yn wahanol i realiti rhithwir (VR). Mae AR yn ychwanegu pethau at y byd go iawn o’ch cwmpas, tra bod VR yn mynd â chi i le hollol wahanol.
Creu Gêm AR
Nes i ddatblygu gêm AR a’i phrofi gyda phobl ifanc i weld a allai leddfu gorbryder. Roeddwn i eisiau dysgu a oedd y dechnoleg yn addas i’w defnyddio’n therapiwtig. Ar ôl profi’r app, gwnaethom ymchwilio ymhellach a datblygu gan ddefnyddio Cronfa Ddatblygu Media Cymru.
Creu Profiad Therapi AR ar gyfer pobl ifanc
Gyda Sugar Creative a phartneriaid eraill, adeiladon ni brofiad therapi realiti estynedig i’w ddefnyddio ar ffôn symudol. Y bwriad yw i therapydd neu weithiwr ieuenctid ei ddefnyddio yn ystod sesiwn.
Dychmygwch eich bod yn rhywle newydd, ac mae planhigyn yn ymddangos o’ch blaen. Mae’r planhigyn yn eich cynrychioli chi. Drwy gyfuno technoleg a therapi, roeddem eisiau lleddfu gorbryder a gwneud i bobl deimlo’n fwy cysylltiedig.
Daeth i’r amlwg yn ystod y profion peilot bod defnyddio AR mewn therapi yn lleihau gorbryder, ac yn gwneud i bobl ifanc deimlo’n fwy cysylltiedig. Rydym yn bwriadu cynnal rhagor o brofion mewn ysgolion cyn bo hir.

Defnyddio technoleg mewn ffordd greadigol a chwareus
Rydw i wrth fy modd yn defnyddio technoleg mewn ffyrdd chwareus a chreadigol. Mae therapi chwarae yn gweithio’n dda i bobl ifanc, ac mae’n bwysig iddyn nhw deimlo’n gysylltiedig, hyd yn oed os ydyn nhw weithiau’n teimlo’n unig.
Does dim llawer o therapyddion yn defnyddio AR, ac felly roedd rhaid dechrau o’r dechrau gyda’r app. Mae rhai therapyddion a Gwasanaethau Ieuenctid yn defnyddio technolegau gemau – fel Minecraft neu Roblox – ond o ran datblygu rhywbeth gyda dull therapiwtig, dydw i ddim yn gwybod am llawer.
Rydyn ni wedi dylunio’r app, ond y gobaith yw y bydd pobl ifanc yn helpu i’w ddylunio yn y dyfodol.
Edrychwch ar Lyfryn Therapi Augmenting Elemental Health am ragor o wybodaeth
Lle dechreuodd y syniad…
Dros dair blynedd yn ôl, bues i’n gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid YEPS i helpu plant oedd yn poeni am fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl COVID. Doedden nhw’m yn awyddus i fynd yn ôl i’r ysgol am sawl rheswm.
Buon ni’n gweithio gyda’r bobl ifanc yn gofyn iddynt beth oedden nhw eisiau ei weld, a dywedon nhw eu bod yn hoffi gemau ac arloesedd. Gwnaeth hyn i mi feddwl am faint o bobl ifanc yng Nghymru sydd heb fynediad at bethau fel hyn.
Roedd gan y bobl ifanc hyn weledigaeth ar gyfer y dyfodol, ond nid oedd addysg o reidrwydd yn bodloni’r anghenion hynny. Dyna wnaeth sbarduno’r syniad o brofiad therapi realiti estynedig.
Helpu pobl ifanc gorbryderus drwy dechnoleg
Ro’n i’n pendroni sut y gellid defnyddio technoleg i helpu pobl ifanc â gorbryder. Dyw llawer o bobl niwroamrywiol ddim yn hoff ar therapi traddodiadol, ond yn teimlo’n gyfforddus gyda thechnoleg. Oherwydd hyn, ro’n ni eisiau manteisio ar dechnoleg er da, gyda chymorth pobl ifanc a’u teuluoedd.
Nid yw pob person ifanc yn hoffi technoleg, nid yw pawb yn hoffi peintio. Oherwydd hyn, mae angen inni greu rhagor o adnoddau i helpu therapyddion, a meddwl am addysgu therapyddion i ddefnyddio technoleg mewn ffordd ddiogel a moesegol.

Lansio fy nghwmni newydd – Augmenting Therapy
Rydw i wedi sefydlu cwmni budd cymunedol o’r enw Augmenting Therapy. Mae’r cwmni’n defnyddio technoleg drochol i helpu pobl drwy therapi.
Bellach, rydym yn gweithio gyda rhagor o ysgolion ac yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen iechyd meddwl mawr yng Nghymru.
Mae llawer o bobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion eisiau mynediad i therapi realiti estynedig (AR). Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o bobl oedd â diddordeb mewn manteisio ar dechnoleg i deimlo’n well.
Sut newidiodd cyllid Ymchwil a Datblygu (R&D) fy musnes
Mae cyllid Media Cymru wedi helpu fy musnes i dyfu a chyrraedd mwy o bobl.
Gyda chymorth y cyllid Ymchwil a Datblygu, rydw i wedi dechrau elfen newydd ar fy musnes, wedi dysgu ffyrdd newydd o ymchwilio a pha mor bwysig yw gwrando ar bobl ifanc.

Gwersi a Ddysgwyd
Weithiau, mae gan lawer o bobl syniadau am yr hyn y dylech chi ei wneud a sut y dylech chi ei wneud. Yn aml, mae ‘na bwysau i fod yn llwyddiant masnachol. I mi, mae’n bwysicach cael fy ngyrru gan werthoedd a helpu pobl ifanc.
Fy mwriad oedd aros yn driw i’m cenhadaeth a pheidio â mynd ar goll mewn sgwrs fusnes. Gallwch chi fod yn llwyddiannus a pharchu eich gwerthoedd.
Efallai na fydd cwmni budd cymunedol yn gwneud llawer o arian, ond dyma’r ffordd orau o helpu pobl sydd angen cefnogaeth. Fy nghenhadaeth yw gwneud y cymorth hwn yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.
Fy Ngobeithion ar gyfer y Degawd Nesaf
Datblygu Gwasanaethau Technoleg Drochol
Gobeithio y gallwn ni gael cyllid i greu gwasanaeth cyfan gan ddefnyddio technoleg drochol fel realiti rhithwir (VR), realiti estynedig (AR), a gemau. Rydw i eisiau hyfforddi gweithwyr proffesiynol ieuenctid i ddefnyddio’r dechnoleg hon a helpu pobl ifanc. Fy mreuddwyd yw dod â’r rhaglen hon i ysgolion gyda chefnogaeth gan y llywodraeth.
Gwneud y Cyfryngau Cymreig yn Fwy Cynhwysol
Mae angen i sector cyfryngau Cymru fod yn fwy cynhwysol. Weithiau, mae sefydliadau’r cyfryngau yn dweud eu bod nhw’n gynhwysol, ond prin iawn y mae hynny’n wir. Dylen ni ganiatáu i fwy o bobl o’r diwydiannau creadigol rannu eu syniadau.
Cymorth ariannol pellach
Er y gallwn sicrhau cyllid, un her fawr yw gorfod darparu cyllid cyfatebol. Mae’n anodd i weithwyr llawrydd neu fusnesau bach gymryd risgiau mor fawr. Mae angen mwy o gyllid grant arnom i helpu gydag arloesedd.
Cefnogi Pobl Greadigol yng Nghymru i adrodd eu straeon
Mae gennym ni gymaint o straeon anhygoel i’w hadrodd yng Nghymru. Sut ydym yn ei gwneud hi’n bosibl i bobl ifanc greadigol adrodd eu straeon? Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli beth allan nhw ei wneud gyda’r gefnogaeth gywir. Gobeithio y bydd mwy o raglenni fel Media Cymru yn bodoli fel y gellir rhannu mwy o straeon pobl gyda’r byd.