string(66) "/cym/blog-posts/innovation-story-joe-howden-director-of-dark-arts/" Skip to main content
Blog

Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025

Stori Arloesi: Joe Howden, Cyfarwyddwr Dark Arts

Mae Dark Arts yn asiantaeth sydd ar flaen y gad o ran gwasanaethau cynulleidfa ar gyfer artistiaid eiconig sydd â chatalogau cerddoriaeth sy’n bwysig yn ddiwylliannol. Ar y groesffordd rhwng y traddodiadol a’r arloesol, maent yn sicrhau bod cleientiaid yn ffynnu yn y dirwedd ddigidol sy’n esblygu drwy’r amser. 

Drwy gyllid Media Cymru, mae Dark Arts yn edrych ar yr heriau y mae’r diwydiant cerddoriaeth yn eu hwynebu wrth ysgogi cerddoriaeth catalog hanesyddol.   

Mae Joe yn dweud wrthym sut mae cofleidio ymchwil a datblygu wedi trawsnewid ei fusnes.   

Joe Howden, Cyfarwyddwr Dark Arts:

Archwilio’r heriau sy’n wynebu catalogau cerddoriaeth eiconig. 

Joe Howden ydw i, a fi yw Cyfarwyddwr Dark Arts. Rydym yn asiantaeth gwasanaethau cynulleidfaoedd sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ac, fel arfer, rydym yn gweithio gydag artistiaid eiconig sydd â chatalogau enwog. Rydym yn rheoli pob pwynt cyswllt digidol ar gyfer ein cleientiaid, gan gynnwys sianeli cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, proffiliau ffrydio ac unrhyw le arall y daw artist i gysylltiad â chynulleidfa ar-lein.  

Y llynedd, fe wnaethom ddechrau prosiect i archwilio’r heriau y mae ochr catalog y diwydiant cerddoriaeth yn eu hwynebu. Datblygodd hyn yn brosiect ymchwil a datblygu, gyda chefnogaeth Media Cymru.   

 

Stori Arloesi: Joe Howden, Cyfarwyddwr Dark Arts

Adnoddau Trawsnewidiol ar gyfer y Diwydiant Cerddoriaeth 

Wrth i’r rhyngrwyd esblygu, mae artistiaid yn wynebu’r her o gadw eu heiddo deallusol yn gyfoes â’r technolegau, y tueddiadau a’r fformatau a’r safonau modern cyfredol. Rydym wedi sylwi ar yr her hon fel rhan o’n gwaith, felly drwy ein prosiectau ymchwil a datblygu rydym wedi archwilio nifer o ffyrdd o fynd i’r afael â hyn er mwyn sicrhau bod ôl troed digidol ein cleientiaid yn gystadleuol yn fyd-eang. 

Rydym wedi datblygu adnodd archwiliad iechyd digidol sy’n ein galluogi i sefydlu ansawdd ôl troed digidol artistiaid mewn nifer o wahanol feysydd, gyda 190 a mwy o bwyntiau data yn cael eu mesur ar draws llwyfannau gwe, cymdeithasol, ffrydio a YouTube. Datblygodd hyn yn ail brosiect, sef datblygu adnodd sy’n archwilio sianel YouTube a phob fideo sydd arni ac yn sefydlu’r holl bosibiliadau optimeiddio sydd ar gael ar draws yr holl gynnwys a lwythwyd i fyny.  

Cawsom wybod llawer am y broblemau hon drwy siarad â’n cleientiaid a’n cysylltiadau sy’n gweithio mewn adrannau catalog mewn labeli recordiau ymhob rhan o’r diwydiant cerddoriaeth, a pho fwyaf y cawsom wybod am y broblem, y mwyaf y deallon ni fod nodi’r dulliau optimeiddio hyn yn gyflym ac yn hawdd yn hanfodol i’r diwydiant cerddoriaeth, sydd fel arfer brysur iawn.  

Mae adrannau catalog yn gofalu am gannoedd o filoedd o ganeuon a fideos i ofalu amdanynt ar yr un pryd. Er mwyn iddyn nhw ddeall yn iawn beth mae angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau bod gwaith un artist penodol yn gyfredol, mae angen llawer o waith deall. Felly, ein dull gweithredu oedd ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i’r diwydiant weld beth yw’r problemau er mwyn iddynt allu eu datrys mewn ffordd benodol ac effeithiol.  

O ganlyniad i gyllid ymchwil a datblygu, mae ein hadnoddau digidol yn cael eu defnyddio gan ein cwmni yn fewnol ac mae hefyd ar gael fel gwasanaethau y gellir ei brynu gennym ni. Rydym eisoes wedi canfod bod rydym yn ei ddefnyddio yn arbed oriau gwaith i’n cwmni, gyda mwy o gywirdeb a dim risg o wallau dynol. Rydym yn gallu llunio adroddiad sy’n cynnwys hyd at 150 o fideos mewn tua deg munud ar hugain – yn y gorffennol, byddai aelod o’n tîm wedi treulio diwrnod cyfan yn llunio adroddiad o’r fath. Mae hyn cynnig llawer o fanteision i ni fel cwmni ac i’n cleientiaid, gan ein bod bellach yn gallu eu cefnogi gydag adnodd arloesol, unigryw. Yn ogystal â hynny, mae’n ennyn diddordeb artistiaid, cwmnïau rheoli, labeli recordio a chwmnïau dal hawliau sydd hefyd â diddordeb personol mewn canfod a datrys problemau ar YouTube. 

Stori Arloesi: Joe Howden, Cyfarwyddwr Dark Arts

Mae buddsoddi mewn gwaith ymchwil a datblygu yn creu cyfleoedd newydd 

Mae buddsoddi mewn gwaith ymchwil a datblygu wedi rhoi cyfle cwbl newydd i ni fel cwmni. Mae wedi ein galluogi i greu niche a brandio ein hunain fel cwmni sy’n canolbwyntio ar gatalogau, rhywbeth sy’n ein gwahaniaethu ni oddi wrth asiantaethau eraill. Roedd hefyd yn creu ffrydiau refeniw nad oeddent yn bodoli o’r blaen yn ogystal ag adnoddau sy’n arloesol yn y diwydiant ac sy’n arbed llawer iawn o amser i bawb. Ar lawer o lefelau, mae wedi bod yn broses hynod werthfawr ac mae wedi siapio’r cwmni i’r hyn ydyw nawr.  

Oherwydd y gwaith ymchwil a datblygu, rydym bellach yn gwmni sy’n canolbwyntio ar gatalogau. Fel busnes, rydym nawr yn blaenoriaethu gwaith ymchwil a datblygu sy’n rhoi’r cyfle i ni edrych yn fanwl ar y diwydiant cerddoriaeth mewn ffordd hollol newydd. Rydym yn gofyn cwestiynau ac yn archwilio heriau er mwyn ceisio gwthio ein diwydiant yn ei flaen ac mae hyn yn darparu ffrydiau refeniw newydd, gan ein gwneud ni a’n cleientiaid yn fwy parod ar gyfer y dyfodol ac yn ein cyfleu ni fel un o’r cwmnïau blaenllaw yn y maes hwn. 

Un o fanteision uniongyrchol y gwaith ymchwil a datblygu hwn i artistiaid fyddai’r cyfle i ddiweddaru eu catalog fideo i’w gadw’n ffres ac yn hawdd ei ddarganfod. Mae’r rhyngrwyd yn esblygu o hyd, ac mae angen diweddaru fideos ar YouTube o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn gyfredol. Pan na fydd hyn yn digwydd, ni fydd fideo a gafodd ei lwytho i fyny flynyddoedd yn ôl, mewn cydraniad a oedd yn safonol yn y cyfnod, mor gystadleuol yn yr algorithm â fideo a gafodd ei lwytho i fyny mewn HD neu 4K yr wythnos diwethaf. Dros amser, bydd llai o bobl yn gwylio’r fideo bob mis ac, yn y sefyllfa waethaf bosibl, bydd yn mynd yn angof. Dim ond un enghraifft yw hon.  

Yn y byd celf, mae darnau o waith celf arbennig yn cael eu tynnu i lawr i gael eu hadfer a’u glanhau ac yna’n cael eu hailgyflwyno yn y ffordd orau bosibl i bobl eu mwynhau. Mae’r un peth yn wir am fideo a sain yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae angen diweddaru eiddo deallusol cerddoriaeth, a pheidio â’i adael i hel llwch. Os ydym am i bobl barhau i’w fwynhau, mae angen inni ofalu amdano. 

“Mae canolbwyntio ar waith ymchwil a datblygu wedi rhoi cyfle i ni edrych ar y diwydiant mewn ffordd hollol newydd” 

 

"“Mae canolbwyntio ar waith ymchwil a datblygu wedi rhoi cyfle i ni edrych ar y diwydiant mewn ffordd hollol newydd. Mae'r gwaith ymchwil a datblygu rydym wedi'i wneud yn helpu i sicrhau bod cerddoriaeth eiconig yn cael ei chadw'n gyfoes ac yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol ei darganfod."

Stori Arloesi: Joe Howden, Cyfarwyddwr Dark Arts

Media Cymru × Dark Arts 

Working with Media Cymru has been really important. It’s taken the process of R&D – which we were doing to some extent – and it has formalised it and added accountability, which has meant we’ve been able to push forward and complete projects that we started.   

Working with PDR has been brilliant in helping us to formalise our thinking and approach to R&D and they’ve collaborated with us through both Media Cymru projects that we’ve done. We also worked with Alacrity Foundation on the business side, and with a data scientist, who has helped us with various aspects of the YouTube tool. 

My view of R&D before working with Media Cymru was very unclear. I really wasn’t sure what it actually was but it turns out I’ve been doing it all along, albeit in a haphazard way. Having spent so much time over the last couple of years refining my approach, thinking about it, working with my team, Media Cymru and the various partners they have and constantly talking to my clients about it, it’s clear to me how powerful and transformational R&D can be. I and Dark Arts have fully embraced it as a result and that’s the way it’s going to stay.  

If you are embarking on a similar R&D journey… 

My lessons learned would be to not hold on too tightly to whatever it is you think the project is going to be. Our project had twists and turns and what we ended up with was not what we thought we were going to do. But we followed the research and let it direct the project and we ended up with something we never thought we would have because of that.  

If I had to give one piece of advice to a company starting an R&D journey it would be to ask questions, not assume you know what needs to be developed, but ask the people who are going to be using it what they need. 

About Dark Arts Digital 

Dark Arts is a vanguard agency at the forefront of audience services for iconic artists with storied music catalogues. Operating at the crossroads of legacy and innovation, Dark Arts ensure that clients flourish in the ever-evolving digital landscape. 

Before founding Dark Arts in 2014, Joe Howden was working with Björk on the pioneering Biophilia multimedia album project. This experience of helping one of the world’s most original artists and innovators to realise such a groundbreaking digital project was the inspiration for the company. 

Dark Arts is all about championing great artistry and helping it to thrive through compelling storytelling, proactive innovation and continuous improvement. The industry, platforms, technologies, trends and approaches evolve, but their underlying ethos remains the same.  

Dark Arts are passionate about the catalogue side of the business so they invest in research and development to better understand the challenges faced by catalogue departments, rights holders and artists. Their specialism in evergreen marketing and digital optimisation have grown from their belief that iconic music and stories should be a focus all year round, not just during a promotional cycle.