Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Cyfweliad gyda Rhys Miles-Thomas, Glass Shot Rheolwr Gyfarwyddwr – Hygyrchedd × Cynhyrchu rhithwir

Ynglŷn â Glass Shot – yr hyn yr ydym yn ei wneud
Glass Shot yw gwmni sy’n gwneud yr anhygyrch yn hygyrch yn y diwydiant ffilm a theledu. Wedi’i sefydlu yn 2006, prif nod y cwmni yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol – ac yn enwedig y cyfle i weithio yn y diwydiannau creadigol a chael gwared ar unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu.
Rydym yn canolbwyntio ar weithio gyda’r unigolyn yn hytrach na mynnu ei fod yn ffitio i mewn i beth bynnag yr ydym ni’n ei wneud … O’r dechrau roeddem wir am weithio gyda phobl a oedd yn byw ychydig y tu allan i’r brif ffrwd – pobl a oedd ar gyrion cymdeithas. Roedd gennym bob amser ddiddordeb mewn helpu pobl i ddod o hyd i’w llais, mewn rhoi cyfle iddynt neu ffordd i mewn trwy’r drws. Ar y dechrau roeddem yn gweithio gyda grwpiau o bobl LHDTC, gyda Cymorth i Ddioddefwyr. Wrth i f’anabledd ddatblygu, aethom ati i ganolbwyntio mwy ar weithio gyda phobl greadigol fyddar, anabl a niwroamrywiol.
Yn y cwmni rydym yn dyfeisio ac yn cysyniadoli syniadau newydd ac yna’n eu rhoi ar waith. Rydym yn gyfrifol am gynyrchiadau ar raddfa lawn, yn gwneud cryn dipyn o ymchwil a datblygu, ac yn cynghori sefydliadau a’u helpu i ddeall y camau sy’n gysylltiedig â dod â phobl greadigol fyddar, anabl a niwroamrywiol i’r set.
Moment hollbwysig
Mae yna foment yn fy ngorffennol sydd, rwy’n teimlo wedi f’arwain at y pwynt hwn yn fy ngyrfa – gan hyrwyddo’r achos dros hygyrchedd. Pan fyddaf yn edrych ’nôl ar f’amser fel actor corfforol abl, bu’n rhaid i ni hedfan i gopa mynydd yn Nhwrci un tro i ffilmio golygfa ar gyfer teledu America. Dim ond mewn hofrennydd y gallech gyrraedd y copa, felly aeth pob un ohonom ni yn y cast i fyny yn yr haul tanbaid. Wrth edrych yn ôl, roedd yn gwbl anhygyrch i unrhyw un nad oedd yn gorfforol abl.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth feddwl am y cyfnod hwn, roeddwn i’n siarad amdano â’m cyd-weithiwr Paul Burke, gan feddwl tybed a fyddwn fyth yn gallu gwneud rhywbeth fel ‘na yn y dyfodol a sut y gallwn ei gyflawni, o ystyried y problemau hygyrchedd. Roedd Paul yn gweithio ym maes cynhyrchu rhithwir ar y pryd, ac fe’m hanogodd i edrych ar hyn fel mecanwaith posibl – tyfodd y cyfan o’r fan honno mewn gwirionedd. Mae Cynhyrchu Rhithwir yn caniatáu ar gyfer unrhyw sefyllfa – unrhyw senario, pa un a ydych o dan y môr, ar ben mynydd, neu’n gyrru’n gyflym ar hyd priffordd.
Gellir gwneud unrhyw sefyllfa, unrhyw leoliad yn hygyrch…
Mentro i fyd Ymchwil a Datblygu am y tro cyntaf
Cawsom gyllid Ymchwil a Datblygu Media Cymru i weld a allech ddefnyddio technoleg – yn enwedig technoleg cynhyrchu rhithwir – i wella mynediad i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol at y byd ffilm a theledu.
Dechreuasom trwy wneud prosiect blwyddyn o hyd; ar y prosiect hwnnw buom yn gweithio gyda sefydliadau a chwmnïau teledu/ffilm mawr eu bri ledled y DU, gan ymchwilio a thrafod â chyfarwyddwyr a chynhyrchwyr beth y gallem ei wneud a sut y gallem ei wneud. Aethom ati i edrych ar y technolegau sydd ar gael, gan archwilio’r modd y gallem ddefnyddio technolegau penodol i gael y gorau o’r dechnoleg a hefyd i gefnogi pobl ar y set ar yr un pryd.
Ar ôl y prosiect, roedd ein hadroddiad yn un go amlwg – gan ei fod yn tynnu sylw at ddulliau i sicrhau hygyrchedd ar y set, ac fe’i canmolwyd gan brif chwaraewyr yn y diwydiant, a oedd yn anhygoel i’w weld. Roedd yn ymddangos nad oedd unrhyw un wedi mynd i’r afael â’r mater yn iawn a chynnal astudiaeth fel hon o’r blaen.

Adeiladu ar gam cyntaf Ymchwil a Datblygu: newid y diwylliant ar y set
Aethom ati i ddatblygu’r syniad hwn ymhellach pan gawsom ni ail rownd o gyllid gan Media Cymru, felly roeddem wir am roi’r ddamcaniaeth ar waith. Bu i ni i sefydlu dwy sesiwn ffilmio prawf, a chanfuwyd nid yn unig y gellid defnyddio cynhyrchu rhithwir i wella hygyrchedd, ond bu i ni hefyd newid yr ethos cyfan o ran sut beth yw’r diwylliant ar y set.
Roedd gennym gydlynydd mynediad ar y set o’r cychwyn cyntaf. Roedd gennym “basbortau mynediad” cyn i bobl ddod i’r set, felly roeddem yn gwybod yn union beth fyddai eu hanghenion. Roedd gennym ystafelloedd tawel a byddem yn cael egwylion rheolaidd.
Roedd yr holl brofiad yn ystod y sesiwn ffilmio prawf yn ymwneud yn bennaf â’r unigolyn yn hytrach na’r cynnyrch. Felly yn hytrach na’r pwysau mawr o ran “rhaid i chi wneud hyn, hyn, a hyn o fewn yr amser byr hwn!”, roeddem am wneud pethau’n wahanol yn ystod ein sesiynau ffilmio prawf. Felly oedd – roedd gennym amgylchedd rhithwir lle byddem yn archwilio’r defnydd o dechnoleg, ond bu i ni hefyd addasu ein ffordd o feddwl; aethom ati i roi cyfle i bobl, ac mae’r canlyniadau yn y fideo yn siarad drostynt eu hunain…

Buom yn gweithio gydag actor byddar yn ystod y broses, a ddywedodd y byddai fel arfer yn cael ei adael allan o sgyrsiau, na fyddai’n gwybod beth oedd yn digwydd ar unrhyw adeg benodol, ac y byddai’n teimlo’n eithaf unig ar y set. Buom hefyd yn gweithio gydag aelod o’r criw a fu, mewn swyddi blaenorol, yn rhy ofnus i ddatgelu ei niwroamrywiaeth. Dywedodd y ddau ohonynt eu bod nhw’n teimlo wedi’u grymuso ar ein set ni, eu bod nhw’n teimlo’n rhan o bethau. Dywedodd yr aelod o’r criw ei bod hi bob amser wedi cuddio pethau a oedd yn broblemus iawn iddi ar y set. Dywedasant wrthym ein bod ni wedi creu amgylchedd agored lle roeddent yn teimlo’n gyfforddus ac yn cael eu parchu.
Roedd gennym hyfforddai celf ar y set a oedd ag awtistiaeth, ac a oedd yn llawn dychryn ac yn ofnus o amgylchedd y set, ac ni allai beidio â chrynu. Ar ddiwedd ei ddiwrnod cyntaf, ffoniodd un o aelodau criw’r adran gelf ef i ofyn a oedd wedi dod ar draws unrhyw broblemau neu a oedd yna unrhyw beth arall y gallai fod wedi’i wneud i’w gefnogi. Ei ateb oedd, “Na, hwn oedd diwrnod gorau fy mywyd!”
Dyma beth sy'n digwydd pan fydd pobl yn teimlo'n gyfforddus a’u bod yn cael eu cynnwys. Roeddem wedi dechrau ar daith i archwilio dulliau o ddefnyddio technoleg cynhyrchu rhithwir, ond mewn gwirionedd tyfodd y prosiect i fod yn un o arloesedd o amgylch yr amgylchedd ehangach – o amgylch adeiladu diwylliant cynhwysol ar y set..
The innovation became about the people and the environment…
Er i ni ddechrau arni ag awydd i arloesi mewn perthynas â thechnoleg, datblygodd yr arloesedd i fod â mwy o ffocws ar y bobl, ar greu’r amgylchedd cywir. Roedd yr holl brofiad hwn yn drawsnewidiol mewn sawl ffordd. Mae hyn yn mynd ymhellach o lawer na “bod yn gynhwysol” am mai dyna’r peth iawn i’w wneud; mae’n ymwneud ag ehangu’r gronfa dalent, a dwyn i mewn leisiau ffres, a safbwyntiau a syniadau newydd. Nid oedd yn ymwneud yn unig â phobl anabl a byddar chwaith – mae pawb ar eu hennill yn yr amgylchedd hwn. Mae ein dull o weithredu’n golygu y gall Mamau a Thadau sengl ddal i fod yno i gasglu eu plant o’r ysgol, ac y gall pobl LHDTC deimlo’n ddiogel.
Aethom ati’n fwriadol i gael gwared ar rwystrau. Gall setiau ffilmiau deimlo’n “macho” iawn; mae pobl am eu hymestyn a’u gwthio eu hunain i’w profi eu hunain. Cawsom wared ar hynny i gyd. Roedd gan bawb ran bwysig i’w chwarae, ac roeddent yn cael eu parchu oherwydd pwy oeddent a’r hyn oedd ganddynt i’w gynnig. Yn ystod ein sesiynau ffilmio prawf, diolch i’r amgylchedd yr oeddem wedi’i greu, cawsom gyfraniad mwy gan bobl mewn gwirionedd. Roeddent am wneud a rhoi mwy oherwydd bod y diwylliant yn iawn – roeddent yn eu mwynhau eu hunain. Mae’n ffordd radical o feddwl, mae’n debyg – mae pobl am wneud hyn, ond nid ydynt o reidrwydd yn gwybod sut. Roedd cyllid Media Cymru wedi ein galluogi i roi prawf ar y cysyniad a phrofi ei fod yn bosibl.

Yn dilyn ein gwaith Ymchwil a Datblygu, rydym yn gwthio’r ffiniau ymhellach fyth – mae Glass Shot wedi sicrhau cyfleoedd sy’n adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni o ganlyniad i’n gwaith gyda Media Cymru – prosiect sain ymgolli gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a phartneriaid eraill trwy Gronfa’r Cyfryngau Rhyngweithiol. Bydd hwn yn archwilio sut deimlad ydyw o safbwynt unigolyn anabl sy’n profi arhosiad yn yr ysbyty. Y nod wedyn yw dilyn hyn gyda chynhyrchiad llawn y flwyddyn nesaf.
Dyma uchafbwynt perffaith ein taith Ymchwil a Datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae’n cysylltu ‘nôl â man cychwyn y cwmni yn 2006 – rhoi llais i’r rheiny sydd heb lais.
Potensial creadigol Cymru
Mae gennym y dalent, y nerth, y grym a’r wybodaeth yng Nghymru a thu hwnt i fod yn arweinwyr byd. Rwyf wedi gweld pethau rhyfeddol yn digwydd yma nad wyf wedi’u gweld yn unman arall ar draws y byd, a minnau wedi gweithio a theithio’n rhyngwladol. Ond heb gefnogaeth rhaglenni tebyg i Media Cymru yn y dyfodol – beth wedyn?
Byddai’n gas gennyf pe bai’r dalent a’r wybodaeth hon yn cael eu colli, oherwydd pwy fydd yno i roi cyfle i bobl? Gall y diwydiant hwn fod yn dipyn o ras lygod, a dim ond goroesi tan y gorchwyl nesaf y mae pob un ohonom – nid oes amser na lle bob amser ar gyfer Ymchwil a Datblygu a meddwl am y syniad mawr nesaf; rydych chi’n dawnsio ar ôl pob ffliwt …

Myfyrdodau olaf: fy nhaith Ymchwil a Datblygu
Rwy’n meddwl y byddai llawer o bobl yn dychmygu creu darn o dechnoleg neu declyn a fydd yn rhoi’r byd ar dân. Ond byddwn i’n dweud ei bod yn well dechrau gyda chwestiwn ysol y mae’n rhaid i chi ymchwilio iddo. Yn ein hachos ni, gofyn sut beth fyddai defnyddio technoleg VP i wneud ffilm a setiau ffilm yn fwy hygyrch wnaethom … ac yn y broses, aethom ati i archwilio ffordd radical o newid y modd y mae ffilmiau’n cael eu gwneud a thrawsnewid y ffordd y mae setiau ffilm yn gweithredu o’r gwaelod i fyny.
Gan gysylltu ’nôl â’m hatgofion cynnar o’r set ffilm, yr hofrennydd a’r mynydd – roedd arnaf eisiau meddwl am sut y gallwn fynd ’nôl i gopa’r mynydd, gan ddod ag eraill gyda mi a allai fod ag amrywiaeth o anghenion. I bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol, dyma’r model cymdeithasol o anabledd … oes, efallai fod gennyf salwch neu gyflwr ac mae hyn yn golygu heriau i mi, ond cymdeithas sy’n fy nghadw’n anabl…
Ynglŷn â Rhys
Mae Rhys yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm, theatr a theledu arobryn, anabl o Gymru sy’n arbenigo mewn cynhyrchu rhithwir, profiadau ymgolli, gweithio gydag actorion o bob gallu, a chreu cyfryngau hygyrch arloesol.
Yn raddedig o Goleg Cerdd a Drama Cymru ac Ysgol Ffilm Cymru, mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad o fod yn unigolyn creadigol ar ôl gweithio fel actor i A&E, Fox, Hallmark, Film Four, y BBC, S4C ac ITV. Yn ei rôl o fod yn awdur, mae Rhys wedi ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, gan gynnwys cyd-ysgrifennu’r gyfres deledu wyth rhan, Y Tŷ, ar gyfer S4C. Yn ei rôl o fod yn gyfarwyddwr, mae Rhys wedi gweithio ar draws y byd theatr, teledu a ffilm, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu rhithwir ac ymarfer cynhwysol gydag actorion o bob gallu.
Mae Rhys yn gwasanaethu ar fwrdd ymddiriedolwyr Theatr Cymru ac yn aelod cynghorol ar dechnoleg hygyrch ar gyfer y Prosiect Mynediad i Deledu, ac ef yw’r cynrychiolydd anabl ar Bwyllgor Gweithwyr Llawrydd De Cymru BECTU. Ef hefyd yw Pencampwr Cynhwysiant Fuseable 2024.