Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2024
Mantais Gystadleuol Sector Creadigol Niwroamrywiol – gan Rosie Higgins, Cyfarwyddwr Unquiet Media
Gan Rosie Higgins, Cyfarwyddwr Unquiet Media
Prosiect ‘Meddyliau Eithriadol’ Media Cymru Unquiet Media
Yn 2025, bydd Unquiet Media yn lansio’r gyfres ‘Meddyliau Eithriadol’ ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru, a fydd yn helpu busnesau a chyflogwyr i recriwtio a chefnogi talent niwrowahanol yn well – a helpu talent niwrowahanol i lywio ein sector sydd weithiau’n anodd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae prosiect Media Cymru wedi archwilio’r rhwystrau penodol y mae unigolion niwrowahanol yn eu hwynebu, yr hyn sydd ei angen i helpu i chwalu’r rhwystrau hyn, a sut y gall ein sector feithrin arferion a pholisïau gwell i sicrhau tegwch ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd o’n gwaith ymchwil cynradd ac eilaidd, arbenigedd ein hymgynghorwyr ym meysydd seicoleg a niwrowyddoniaeth, anghenion y nifer o fusnesau rydym wedi’u cynnwys ac, yn bwysicaf oll, lleisiau’r cannoedd o gyfranwyr niwrowahanol y buom yn siarad â hwy, rydym wedi creu cyfres o adnoddau a fydd yn cynnwys canllawiau, pecynnau cymorth, fideos, a llawer mwy, i helpu i wneud ein diwydiant yn fwy cynhwysol, hygyrch a mwy diogel i bawb.
Pam ‘Meddyliau Eithriadol’?
Er bod mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gan bobl am wahaniaethau cudd, nid yw unigolion niwrowahanol yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol o hyd ym myd gwaith.
- Mae dros 70% o bobl awtistig heb waith digonol neu’n ddi-waith, er bod tri chwarter eisiau bod mewn gwaith (Adroddiad Buckland, 2024)
- Mae 4 o bob 10 o bobl ddi-waith sy’n defnyddio Canolfan Waith yn ddyslecsig (Y Farwnes Walmsley, 2010), a dim ond tua 5% o oedolion o oedran gweithio â chymorth ag anabledd dysgu sydd mewn cyflogaeth â thâl yn y DU (Y GIG, 2022)
- Mae diagnosis ADHD yn lleihau cyflogaeth 10%, enillion 33% (Fletcher, 2014), ac yn gwneud rhywun 60% yn fwy tebygol o golli ei swydd (Barley, 2008)
- Mae diweithdra bum gwaith yn uwch ar gyfer pobl â syndrom Tourette (Byler, 2015)
- Ac, yn drasig, mae bron i dri chwarter (70%) o weithwyr niwrowahanol yn profi problemau iechyd meddwl yn y gweithle (WTW, 2022).
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y poblogaethau hyn yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ym myd gwaith.
Ond ni ddylai hwn gael ei ystyried yn ymarfer ticio blychau yn unig – un sy’n gwasanaethu ein rhwymedigaeth foesol, a chyfreithiol, i sicrhau cyfle cyfartal i unigolion niwrowahanol. Mae yna fantais weithredol, gystadleuol i weithlu niwroamrywiol.
Mantais gystadleuol
Ledled y byd, rydyn ni’n dechrau manteisio ar botensial yr ymennydd niwrowahanol, nad yw wedi’i ddarganfod. Mae rhai o’n dyfeisiadau pwysicaf, darnau o gelf a cherddoriaeth, a darganfyddiadau ym maes gwyddonol wedi dod o feddyliau niwrowahanol. Mae cewri byd-eang y byd busnes, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau wrthi’n chwilio ac yn recriwtio talent niwrowahanol nid yn unig oherwydd bod yn rhaid iddynt, ond oherwydd eu bod yn ysu i ddefnyddio ein galluoedd uwch (yn aml) mewn meddwl yn arloesol, datrys problemau, dyfalbarhad, ffocws uwch ac adnabod patrymau*.
Mae gan arweinwyr fel NASA, Google, Microsoft, GCHQ ac IBM i gyd raglenni recriwtio a hyfforddi gweithredol sy’n darparu’n benodol ar gyfer talent niwrowahanol, gan gydnabod y doniau unigryw y mae ffyrdd amrywiol o feddwl, o brosesu gwybodaeth ac o weld y byd yn eu cyflwyno.
Ac mae yna fanteision diriaethol, hefyd.
Mae cwmnïau sy’n arwain mewn cynhwysiant DDN (Byddar, Anabl, a/neu Niwrowahanol) 25% yn fwy tebygol o berfformio’n well o ran cynhyrchiant. Maent yn cynhyrchu 1.6x yn fwy o refeniw, 2.6x yn fwy o incwm net, a 3x yn fwy o elw economaidd na’u cystadleuwyr uniongyrchol (Accenture, 2023). Gall gweithwyr awtistig yn unig, pan gaiff eu gofynion o ran mynediad eu cefnogi’n briodol, fod hyd at 140% yn fwy cynhyrchiol na’u cyfoedion niwronodweddiadol (JPMorgan Chase, 2022).
Mae gweithleoedd niwro-gynhwysol ac, felly, gweithwyr hapusach ac iachach, hefyd yn golygu cronfeydd recriwtio mwy, y gallu i gadw staff, yn ogystal â llwybrau i farchnadoedd a chynulleidfaoedd newydd.
Yr ymennydd creadigol
Mae ein diwydiant penodol yn lle perffaith i’r rhai ohonom sy’n meddwl ac yn gweld y byd mewn gwahanol ffyrdd, hefyd. Mae safbwyntiau amrywiol yn dod ag arloesedd a chreadigrwydd yn naturiol, ond mae llawer ohonom hefyd yn rhoi llawer o sylw i fanylion, yn ffynnu dan bwysau ac mewn amgylcheddau cyflym, yn gweithio orau mewn gofodau a strwythurau gwaith anhraddodiadol, ac yn aml mae gennym ffyrdd creadigol unigryw o feddwl.* Mewn gwirionedd, mae 96% o fusnesau creadigol yn credu bod yna fantais gystadleuol i weithlu niwrowahanol (Universal Music, 2020). Ac mae potensial cynulleidfa enfawr, hefyd – trwy ganolbwyntio ar straeon a lleisiau niwrowahanol, o flaen y camera a’r tu ôl iddo, rydych chi’n cyrraedd (o leiaf) 1 mewn 7 (15%) o bobl niwrowahanol sy’n byw ar draws y byd.
Gwaith i’w wneud
Er hynny, mae confensiynau traddodiadol y byd gwaith – swyddfeydd, prosesau recriwtio, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, cyfathrebu drwy e-bost – wedi’u hanelu’n bennaf at ymennydd niwronodweddiadol.
Er ein bod yn dechrau cydnabod bod ymennydd annodweddiadol yn allweddol i’r dyfodol, prin yw’r cwmnïau o hyd yn ein sector sy’n gweithredu polisïau ac arferion niwrowahanol <25% (Universal Music, 2020). Mae diffyg cefnogaeth diriaethol o hyd i gyflogwyr ar gyfer mynd i’r afael â niwroamrywiaeth a rhoi lle iddo, i unigolion niwrowahanol sy’n gobeithio dechrau gweithio a chadw eu swydd, ac mae camsyniadau a stigmâu parhaus yn gyffredin ynghylch y cyflyrau cyffredin ond cudd hyn.
Mae cyflogi a chadw gweithlu niwrowahanol yn cael ei ystyried o hyd yn her yn hytrach na chyfle, ac mae’r diwydiant yn colli allan ar lu o fanteision cyflogi rhai o’r meddyliau eithriadol hyn.
Sut i wneud hyn
Gall creu mwy o weithleoedd niwro-gynhwysol deimlo’n frawychus. Efallai ein bod yn ofni dweud neu wneud y peth anghywir, ac, i’r nifer ohonom sy’n rhedeg busnesau bach, efallai nad oes gennym adnoddau na chyllideb i gyflwyno newidiadau drud. Ond mae camsyniadau’n gorchuddio’r ddau rwystr.
Nid yw niwroamrywiaeth yn frawychus – ydy, weithiau fe allwn ni gael iaith yn anghywir. Ac mae hynny’n iawn! Mae llawer o’r eirfa hon yn newydd ac yn esblygu, a gall dau berson â phrofiadau tebyg uniaethu mewn gwahanol ffyrdd. Ni fydd newidiadau os ydym yn ofni mynd at rywbeth – mae’n dod cyn belled â’n bod yn gwneud ymdrech i ddysgu, i wirio ein rhagfarnau, i gywiro ein camgymeriadau ac i wrando ar yr hyn y mae unigolion yn gofyn amdano.
Ac nid oes angen i weithredu addasiadau rhesymol fod yn frawychus chwaith – mae llawer yn rhad ac am ddim i’r cyflogwr, hyd at 56% mewn gwirionedd! (Job Accommodation Network, 2024), ac maent, mewn gwirionedd, yn newidiadau bach, syml megis derbyn fformatau amgen o geisiadau am swyddi, mwy o dryloywder uniongyrchol ynghylch terfynau amser, dewis o ran cyfathrebu, darparu nodiadau cyfarfod ysgrifenedig ac agendâu, seibiannau i symud i ganiatáu hunanreoleiddio, a chynnig gweithio hyblyg lle bo modd.
Mae llawer o offer technolegol cynorthwyol wedi’u gwreiddio mewn rhaglenni a systemau a allai fod gennych eisoes (fel pecyn Microsoft 365), ac mae’r atebion deallusrwydd artiffisial newydd sy’n dod i’r amlwg yn gyflym i heriau hygyrchedd yn mynd i adfywio’r gweithle i lawer o bobl. Gall cyllid fel Mynediad i Waith helpu i dalu costau unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen, hefyd.
Bydd gwneud ymdrech i greu arferion mwy cynhwysol ac empathetig yn ymwneud â recriwtio, cadw, ac amgylcheddau gwaith yn hwyluso cyfleoedd mwy hygyrch a mannau gwaith a busnesau sy’n ddiogel yn seicolegol – lle mae talent niwrowahanol yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud cais am swyddi yn ein diwydiant, i ddadlau dros eu hanghenion, ac i gyrraedd uchelfannau newydd yn ein gyrfaoedd a oedd yn teimlo’n amhosibl yn y gorffennol.
Pethau allweddol y gall y diwydiant fanteisio arnynt
- Dylech gymryd rhan mewn hyfforddiant i ddeall niwroamrywiaeth yn well.
- Dylech ddeall yr adnoddau, cymorth a chyllid sydd eisoes ar gael i’ch helpu i roi addasiadau rhesymol ar waith.
- Gwrandewch ar eich cyflogwyr niwrowahanol a thrin pawb fel unigolyn.
- Ail-fframiwch y ffordd rydych chi’n ystyried gwahaniaeth – gan ganolbwyntio ar gryfderau a’r hyn y gall unigolyn ei gyfrannu i’r tîm, yn hytrach nag ar ddiffygion.
- Byddwch yn hyblyg, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau, nid prosesau – nid yw gwneud pethau’r ffordd rydyn ni bob amser wedi’i wneud yn golygu mai dyma’r ffordd gywir.
- Byddwch yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol yn eich cefnogaeth – gofynnwch i rywun beth sydd ei angen arnynt, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau neu aros iddynt wneud hynny. Cynhaliwch sesiynau galw heibio rheolaidd i sicrhau bod mesurau cymorth yn addas i’r diben o hyd.
- Mae addasiadau rhesymol o fudd i bawb – waeth beth fo’r niwrodeip.
[*Sylwer: nid oes gan bob person niwrowahanol sgiliau arbennig, ac ni ddylai fod yn rhaid i ni feddu ar dalent neu set sgiliau unigryw i gael ein hystyried fel pobl yn y lle cyntaf, yn haeddu swydd ac yn haeddu diogelwch seicolegol. Tynnir sylw at y profiadau hyn oherwydd eu bod yn gyffredin ymhlith poblogaethau niwrowahanol, yn hytrach nag yn gyffredinol.]
Sylwer: beth yw ‘niwroamrywiaeth’?
Defnyddir niwroamrywiaeth yn y cyd-destun hwn i ddisgrifio’r amrywiad dynol naturiol yn y ffordd y mae ymennydd dynol yn datblygu. Yn y patrwm hwn, mae gwahaniaethau niwrowahanol megis awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, dyspracsia, ac eraill yn cael eu hystyried yn amrywiadau syml yn y ffordd rydym yn meddwl, yn dysgu, yn cyfathrebu, yn prosesu gwybodaeth, ac yn ymddwyn – yng ngeiriau enwog Temple Grandin – ‘gwahanol, dim llai’.
Gwybodaeth am Unquiet Media
Mae Unquiet Media yn rhan o 22 consortiwm cyfryngau Media Cymru. Maent yn gwmni ymgynghori a chynhyrchu cynnwys unigryw sy’n arbenigo ym mhob mater o’r meddwl dynol, wedi’i wreiddio mewn safbwyntiau amrywiol, profiad byw, ac arbenigedd ym myd y cyfryngau a gwyddoniaeth wybyddol.
Gwybodaeth am Rosie Higgins
Rosie Higgins yw cyfarwyddwr Fields Park Productions, cangen ffilm a theledu o’r Fields Park Media Group, ac Unquiet Media, cwmni cynhyrchu ac ymgynghori unigryw sy’n arbenigo mewn themâu seicoleg, gyda’i harbenigedd a’i phrofiad yn croestorri’r meysydd cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau (lle bu’n gweithio am 10+ o flynyddoedd) a gwyddoniaeth wybyddol (M.Phil. mewn Seicdreiddio, MSc mewn Seicoleg).