string(65) "/cym/blog-posts/newyddion-i-bawb-adroddiad-ar-ymchwil-gyfranogol/" Skip to main content
int(4456)
Blog

Cyhoeddwyd ar 27 Ionawr 2025

Newyddion i Bawb: Adroddiad ar ymchwil gyfranogol

Chwarae

Mae Newyddion i Bawb yn cynnig atebion i heriau mwyaf newyddiaduraeth

Rydyn ni’n gwybod bod newyddiaduraeth yn wynebu cwestiynau dirfodol ynghylch ymddiriedaeth, osgoi newyddion a’r angen i ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn well. Beth os gallwn ni i gyd wneud hyn ar unwaith?

Byddwn ni’n gallu:

  • helpu sefydliadau newyddion i ddeall anghenion ein cymunedau ymylol mwyaf yn well
  • adfer y berthynas rhwng ystafelloedd newyddion, y bobl a’r cymunedau hynny sy’n ymddiried y lleiaf mewn newyddiaduraeth
  • Ysbrydoli ymgysylltu â’r cyhoedd yn ddemocrataidd, sy’n angenrheidiol i gymdeithasau llesol

Mae’r prosiect Newyddion i Bawb wedi rhoi atebion ysbrydoledig i rai o’r heriau dirfodol hynny. Yn bwysicaf oll, mae’r atebion hynny wedi dod gan ddinasyddion eu hunain.

Gan weithio’n hynod agos gyda rhai o bobl a chymunedau mwyaf ymylol Cymru a threulio mwy na chwe mis yn cynnal ymchwil gyda chyfranogwyr, mae’r prosiect ‘Newyddion i Bawb’ wedi rhoi cymuned wrth wraidd y broses i ddeall yn union beth mae ein dinasyddion ei eisiau a’i angen o newyddiaduraeth. Fe gafodd y sesiynau eu cynllunio a’u harwain gan hwyluswyr cymunedol, gan dynnu ar dechnegau theatr a chelf a chafodd arbenigedd newydd a chyffrous gyda’r dull radical hwn.

Mae dealltwriaeth allweddol o’r ymchwil yn cynnwys:

  • Mae’r cyfranogwyr yn llythrennog iawn yn y newyddion – mae hyn yn llywio eu penderfyniad i beidio ag ymgysylltu â newyddiaduraeth
  • Yr angen am ddulliau arloesi newydd sy’n canolbwyntio ar ochr fewnbwn newyddiaduraeth, yn hytrach na fformatau neu allbynnau newydd
  • Roedd ein grŵp yn glir nad deallusrwydd artiffisial yw’r ateb i heriau sylfaenol newyddiaduraeth, sy’n canolbwyntio ar gysylltiad dynol ac atebolrwydd
  • Gall dulliau arloesol o ymgysylltu â’r gymuned ysbrydoli cyfranogiad dinesig a democrataidd ehangach

Mae rhagor o fanylion am y ddealltwriaeth hon, yn ogystal â’r atebion a gynigiwyd gan ein grŵp, yn ein hadroddiad – “Newyddion i Bawb – Y Stori Hyd Yma” – a ysgrifennwyd ar y cyd a chyd-olygwyd gan gyfranogwyr yr ymchwil yn ogystal â’r tîm prosiect o newyddiadurwyr, dylunwyr ac ymchwilwyr o Media Cymru a’r BBC.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi sut gall y gwaith gael ei ailadrodd gan unrhyw sefydliad y cyfryngau ledled y byd – gydag effeithiau a allai fod yn drawsnewidiol.

 

Newyddion i Bawb:Adroddiad ar ymchwil gyfranogol

 

Newyddion i Bawb: Adroddiad ar ymchwil gyfranogol