string(80) "/cym/blog-posts/stori-am-arloesi-richard-pring-cyd-sylfaenydd-wales-interactive/" Skip to main content
Blog

Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025

Stori am Arloesi: Richard Pring, Cyd-sylfaenydd Wales Interactive 

Cwmni cyhoeddi a datblygu gemau cyfrifiadurol wedi’i leoli yn Ne Cymru ydy Wales Interactive. Mae ei brosiect Media Cymru – yr Her Ffilm Ryngweithiol – yn ceisio rhoi Cymru ar y map fel canolbwynt rhyngwladol ar gyfer creu ffilmiau rhyngweithiol (mewn ffilm ryngweithiol mae’r gynulleidfa’n ymgysylltu â’r stori ac yn dewis ei chanlyniad drwy gyfres o ddewisiadau). 

Mae Richard yn rhannu pam mae ymchwil a datblygu mor bwysig i helpu i dyfu eich busnes a’i wneud yn wydn yn y tymor hir.  

Richard Pring, Cydsylfaenydd Wales Interactive:

Rhoi Cymru ar y map drwy greu ffilmiau rhyngweithiol…  

Richard Pring ydw i, Cyd-sylfaenydd Wales Interactive, cwmni cyhoeddi a datblygu gemau wedi’i leoli yng Nghymru.   

Dechreuodd Wales Interactive fel cwmni gwneud gemau 2D a 3D, yna tua chwe blynedd yn ôl fe wnaethon ni neidio i’r genre ffilm ryngweithiol. Fe ddechreuon ni edrych ar wahanol rannau o’r byd a fe wnaethon ni ddarganfod mai dim ond ychydig o bobl oedd yn gwneud ffilmiau rhyngweithiol drwy’r byd i gyd, a bod dim digon ohonyn nhw. Roedd y bobl a oedd eisiau eu gwneud yn wynebu rhwystrau – er enghraifft hyfforddiant, neu doedden nhw ddim yn gwybod sut i fynd i’r maes. Roedd arnon ni eisiau newid hynny.   

Nawr, Wales Interactive yw’r cyhoeddwr ffilmiau rhyngweithiol mwyaf ond un yn y byd. Mae ein hofferyn sgriptio ysgrifennu rhyngweithiol mewnol – WIST – yn caniatáu i awduron a chyfarwyddwyr o gefndir anhraddodiadol greu gemau a changhennu sgriptiau naratif.  

Mae creu ffilm ryngweithiol yn brofiad unigryw, ac mae’n wahanol i wneud ffilmiau traddodiadol. Er enghraifft, bydd angen i un olygfa syml mewn ffilm ryngweithiol gael ei ffilmio mewn ffyrdd gwahanol iawn er mwyn adlewyrchu’r dewisiadau y gallai’r gynulleidfa eu gwneud yn y dyfodol. Gall hyn fod yn anodd i’w drefnu a’i lywio, a dyma lle mae ein hofferyn naratif WIST yn ddefnyddiol. Mae’r golygydd sgript ryngweithiol hwn yn caniatáu i awduron greu storïau afliniol gan ddefnyddio rhyngwyneb nodau graff.  

Rwy’n falch o’r ffordd mae ein prosiectau ffilm ryngweithiol wedi esblygu dros y blynyddoedd. Erbyn hyn mae gennym bobl o bob cwr o’r byd yn gweithio gyda ni – yn creu eu set sgiliau, ac yn datblygu fel awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, neu gwmnïau. Rydym yn rhoi ffordd newydd iddynt ddweud storïau diddorol a’u cael nhw allan i’r byd.

   

Stori am Arloesi: Richard Pring, Cyd-sylfaenydd Wales Interactive 

Wales Interactive × Media Cymru   

Ar gyfer prosiect Her Ffilm Ryngweithiol Media Cymru, fe wnaethom estyn gwahoddiad i bobl o bob cwr o’r byd, ac rwy’n falch o ddweud bod pobl o bob math, yn amrywio o fyfyrwyr yn Slofacia i actorion, awduron, a chyfarwyddwyr Hollywood – sydd wedi gweithio ar brosiectau mawr fel Die Hard – wedi gwneud cais am hyfforddiant a chyfle i ymwneud â ffilmiau rhyngweithiol. Fe lwyddon ni i gynnig profiad a chyngor ar ysgrifennu storïau rhyngweithiol â changhennau naratif argyhoeddiadol, gan greu cymeriadau a dewisiadau sy’n galluogi’r gynulleidfa i deimlo mai nhw sy’n rheoli’r stori.  

Fe wnaethon ni gynnal seminar gychwynnol â grŵp mawr o bobl a ddaeth ynghyd i ddarganfod beth oedd ffilmiau rhyngweithiol a chael hyfforddiant. Yn dilyn hynny, fe wnaethom ddatblygu grŵp o ddeuddeg o bobl â sgiliau adrodd storïau ar gyfer sgriptio rhyngweithiol. Cawsom brosiectau cŵl ar draws gwahanol genres – arswyd, cyffrous, a llawn antur – a llawer o bethau na fyddem o reidrwydd wedi’u gwneud yn fewnol. Roeddem yn cael storïau na fyddem fel arfer yn eu hadrodd, gan bobl na fyddai o reidrwydd â’r modd i’w hadrodd.  

O’r grŵp cychwynnol a ddaeth at ei gilydd, un cwmni rydym wedi bod yn gweithio llawer gydag ef (ar gyfer ochr ymchwil a datblygu’r prosiect ffilm ryngweithiol) yw cwmni o Leeds – Dark Rift Horror. Mae’r cwmni’n gwneud prosiectau math arswyd biolegol, ac fe wnaeth hynny esblygu’n rhwydd iawn i’n prosiect ffilm ryngweithiol.  

Mae Media Cymru wedi caniatáu i ni esblygu’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a rhoi cynnig ar bethau amrywiol na fyddem o reidrwydd wedi’u harchwilio fel cwmni o’r blaen. Rydym wedi cydweithio â phobl na fyddem wedi dod ar eu traws fel arfer. Dyw Cymru ddim yn lle mawr iawn, ond mae’n rhyfedd sut y gallwch chi fynd am flynyddoedd heb daro ar eich cymdogion. Mae Media Cymru wedi caniatáu i ni ddarganfod y cydweithrediadau a’r cysylltiadau diddorol yma. 

Stori am Arloesi: Richard Pring, Cyd-sylfaenydd Wales Interactive 

Gwersi a ddysgwyd yn ystod ein taith ymchwil, datblygu ac arloesi    

Rydym wedi dysgu llawer o wersi dros y blynyddoedd, a’m cyngor i i bobl eraill a allai fod ar fin cychwyn taith debyg, o ran ymchwil a datblygu ac arloesi, yw i beidio ag ofni’r rhwystrau. Pan fydd gennych ddogfen dechnegol drigain tudalen o’ch blaen, neu os oes angen i chi wneud pythefnos o ddiwydrwydd dyladwy, er enghraifft, gallai ymddangos braidd yn frawychus, ond mae gweithio gyda phobl sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud, fel tîm Media Cymru, yn eich helpu i ddeall a goresgyn y rhwystrau.  

Y peth pwysicaf i’w gofio ydy: rhowch gynnig arni. Darganfyddwch beth yw’r problemau, a chwiliwch am gymorth, oherwydd mae cymorth i’w gael. Dyna un peth rydyn ni wedi’i ddarganfod dro ar ôl tro – rydyn ni wedi bod yn meddwl nad oes cymorth i’w gael, ond mae yna gymorth fel arfer, dim ond ei bod yn anodd dod o hyd iddo weithiau. Mae angen mynd allan yna, siarad â phobl a gweld sut y gallwch fynd i mewn i’r ffrwd arloesi, ac i feddylfryd ymchwil a datblygu. Rwy’n credu bod rhai pobl yn meddwl bod ymchwil a datblygu yn rhywbeth sy’n mynd i’w rhwystro, neu’n rhagdybio na fydd o unrhyw gymorth, ond gall ymchwil a datblygu fod yn rhan fawr iawn o’ch busnes. Mae wedi bod yn rhan fawr iawn o’r diwydiant gemau ers blynyddoedd. Fel diwydiant rydym wedi gorfod esblygu. Pe na baem wedi gwneud ymchwil a datblygu i ganfod sut i gyrraedd platfformau newydd, prosiectau newydd, sut i wneud pethau’n wahanol, fyddai gennym ni ddim busnes nawr. 

Weithiau mae’n fater o edrych ar eich busnes o ongl wahanol, a deall bod ymchwil a datblygu mewn gwirionedd yn rhan enfawr o fusnes pawb, ond nad yw’n cael ei alw’n ymchwil a datblygu. Gallaf eich sicrhau bod pawb bron yn gwneud ymchwil a datblygu, ac mae’n fater o ddarganfod bod cymorth i’w gael allan yna, ac o edrych am ffyrdd newydd a gwell o wneud pethau.    

Arloesi yn y sector creadigol yng Nghymru – dangos ein cryfderau  

Yma yng Nghymru, mae cymaint o gyfleoedd i arloesi, yn enwedig ar ochr greadigol pethau. Ond mae’n bosibl na fydd rhai’n siŵr sut i gael mynediad at yr arian, neu’r gefnogaeth sydd ar gael. Dydyn ni ddim yn dda iawn am ymgeisio am grantiau mawr, a rhoi llaw i fyny a dweud rydyn ni ar flaen y gad yng Nghymru. Mae angen i ni ddangos hynny yn amlach, a gweiddi mwy am hyn. Rydyn ni’n ffodus iawn fel cwmni ein bod yn gallu teithio o amgylch y byd – ond weithiau dyw pobl yn y diwydiant ddim yn dod i wybod amdanom nes byddwn ni wedi mynd yno a gweiddi fel hyn. Fel gwlad, mae’n debyg ein bod braidd yn swil ac yn gyndyn o ddweud pa mor dda ydyn ni. Felly mae angen i ni ganolbwyntio mwy ar ddangos hynny, rhoi’n gwaith ar y llwyfan byd-eang a pheidio â chuddio gartref!   

Dyheadau ar gyfer dyfodol diwydiant gemau Cymru  

Yn y pum i ddeng mlynedd nesaf, rydym yn awyddus i esblygu ein prosiect Media Cymru. Rydym wedi bod ar y daith ddatblygu hon ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, hyd yn oed cyn prosiect Media Cymru. Mae’r prosiect Her Ffilm Ryngweithiol wedi esblygu’r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Mae wedi creu’r ffrwd yna o hyfforddiant, o greu, o wneud ffilmiau rhyngweithiol yn gynaliadwy ac yn rheolaidd, gan gymryd mwy o risgiau a gweithio gyda gwahanol bobl. Hoffwn weld pethau mwy a gwell, ac yn ddelfrydol efallai, ffilm ryngweithiol yn cael ei henwebu ar gyfer Oscar rywbryd, a fyddai’n hollol anhygoel – a honno wedi’i gwneud yma yng Nghymru!

Stori am Arloesi: Richard Pring, Cyd-sylfaenydd Wales Interactive 

Am Wales Interactive  

Mae Wales Interactive yn gwmni Cymreig sydd wedi ennill nifer o wobrau am wneud gemau fideo indi a datblygu a chyhoeddi ffilmiau rhyngweithiol. Mae ei bortffolio cynyddol o deitlau wedi cael eu chwarae gan filiynau o bobl drwy’r byd, ac yn cynnwys; Sker Ritual, Maid of Sker, Ten Dates, The Complex, Five Dates, Late Shift, The Bunker. Mae cynnyrch Wales Interactive yn diddanu’r byd yn ogystal â rhoi Cymru ar y map gemau fideo.  

Am Richard Pring  

Mae Richard yn Gyfarwyddwr Ffilm a Gemau Cyfrifiadurol, sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei waith. Cychwynnodd ei daith yn y maes adloniant dros ddegawd yn ôl, ac mae wedi profi ystod amrywiol o rolau mewn gemau a theledu, a’i harweiniodd yn y pen draw i gyd-sefydlu ei stiwdio lwyddiannus ei hun, Wales Interactive, yn 2012. Mae wedi dod yn un o’r entrepreneuriaid mwyaf blaenllaw ym maes gemau fideo yn y DU.  

Am Dark Rift Horror   

Dark Rift Horror yw’r stiwdio arswyd amlgyfrwng sydd y tu ôl i BOOK OF MONSTERS a HOW TO KILL MONSTERS – dwy ffilm sydd wedi ennill gwobrau. Mae Dark Rift Horror, â’i frand unigryw o arswyd popgorn gwaedlyd, yn creu adloniant arswyd cymunedol i gynulleidfa fyd-eang.